Cyngor cyn cyflwyno cais

Canllaw i Godi Estyniad i'ch

Canllaw i Godi Estyniad i'ch

Bydd y canllaw hwn yn eich tywys drwy'r broses reoli adeiladu ac mae’n anelu at ddangos i chi sut y gall eich prosiect gael ei effeithio gan y Rheoliadau Adeiladu. Mae'n cynnwys cyngor ar brosiectau adeiladu nodweddiadol fel estyniadau, addasiadau garej, addasiadau llofft ac addasiadau seler.

P’un a ydych yn berchennog adeilad, contractwr neu’n gynghorydd proffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiant, ein nod yw cydweithio â chi i helpu i gyflawni adeilad sy’n cyrraedd y safonau iechyd, diogelwch ac ansawdd sy’n ofynnol yn unol â’r rheoliadau adeiladu, a gwneud hynny yn unol â'r amserlen a'r gyllideb.

Rydym yn cynnig cyngor cyn cyflwyno am ddim ar gynigion rydych yn bwriadu eu cyflwyno i ni. Mae ein swyddogion rheoli adeiladu yn hynod gymwys ac yn meddu ar brofiad a gwybodaeth leol helaeth, yn ogystal â phrofiad helaeth o ddeunyddiau a dulliau adeiladu, a fydd o gymorth i chi ar bob cam o’r broses adeiladu.

Mae gwybodaeth gan wasanaethau eraill y Cyngor ar gael yn rhwydd i ni hefyd, megis cynllunio, priffyrdd ac iechyd yr amgylchedd, yn ogystal ag asiantaethau allanol megis cwmnïau cyfleustodau.

Rydym bob tro yn croesawu trafodaethau cyn cyflwyno cynnar ar unrhyw broject. Mae hyn yn aml yn arwain at wella dyluniadau, arbed costau ac osgoi oedi diangen.

Petaech yn dymuno trafod project, gall fod yn fwy buddiol trefnu apwyntiad. Bydd hyn yn galluogi ein swyddogion i ganiatáu amser digonol i drafod eich cynigion yn drylwyr.

Ydych chi'n adeiladu draenio cynaliadwy 

O 7 Ionawr 2019, bydd yn ofynnol i holl ddatblygiadau newydd o fwy nag un tŷ, neu ble mae ardal yr adeiladu yn 100m2 neu'n fwy, gael draenio cynaliadwy er mwyn rheoli dŵr wyneb ar y safle.

Mae cymeradwyaeth y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn wahanol i ganiatâd cynllunio, ac ar wahân iddo, a rhaid ceisio'r ddau cyn dechrau unrhyw waith adeiladu.
 
Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy
 

Dylech gysylltu â ni am ragor o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad.

Cysylltwch â ni