Gwneud cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu

Canllaw i Godi Estyniad i'ch

Canllaw i Godi Estyniad i'ch

Bydd y canllaw hwn yn eich tywys drwy'r broses reoli adeiladu ac mae’n anelu at ddangos i chi sut y gall eich prosiect gael ei effeithio gan y Rheoliadau Adeiladu. Mae'n cynnwys cyngor ar brosiectau adeiladu nodweddiadol fel estyniadau, addasiadau garej, addasiadau llofft ac addasiadau seler.

Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais a thalu ffi i wneud cais am y gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu. Bydd y ffi yn dibynnu ar y math o gais a gyflwynir, pa fath o waith sydd dan sylw a chost y gwaith hwnnw.

Mae’n ofyniad cyfreithiol y dylid cyflwyno’r cais hwn nid llai na dau ddiwrnod gwaith cyn i’r gwaith ddechrau ar y safle; fodd bynnag, rydym yn argymell y dylech wneud cais cynnar er mwyn caniatáu mwy o amser i ni eich rhybuddio ymlaen llaw am unrhyw anawsterau posibl.

Gwneud cais ar-lein

Gallwch gyflwyno cais yn electronig drwy neu ddefnyddio’r Porthol Cynllunio. Mae’r gwasanaethau hyn am ddim ac ar gael 24 awr y dydd.

Gallwch hefyd gyflwyno eich cais drwy e-bostio at rheoliadeiladau@caerffili.gov.uk.

Gallwch hefyd gyflwyno unrhyw ymholiad arall drwy www.labcportal.co.uk neu rheoliadeiladau@caerffili.gov.uk.

Hysbysiad preifatrwydd – prosesu ceisiadau rheoliadau adeiladu (PDF)

Ffurflenni y gellir eu lawrlwytho

Ffurflen gais cynlluniau llawn (PDF 119kb)

Ffurflen gais gosod ffenestri to, ffenestri a dryau allanol newydd (PDF 33kb)

Ffurflen gais gosod ffenestri to, ffenestri a dryau allanol newydd (PDF 33kb) – lawrlwythwch y ffurflen, ei llenwi a'i dychwelyd drwy e-bost i RheoliAdeiladu@caerffili.gov.uk neu i'r cyfeiriad ar y ffurflen.

Dylid anfon ffurflenni wedi’u cwblhau (gyda thaliad a’r dogfennau gofynnol) i Building Control

Ffioedd a thaliadau - O 1 Rhagfyr 2019

Tabl A ac A1 - Ffioedd adeiladau domestig bach ac addasiadau i aneddiadau (PDF 209kb)

Tabl B - Estyniadau domestig i adeilad sengl (PDF 26kb)

Tabl C - Ffioedd am addasiadau domestig penodol i adeilad sengl (PDF 22kb)

Tabl D - Ffioedd am waith annomestig arall - estyniadau ac adeiladau newydd (PDF 47kb)

Tabl E - Ffioedd ar gyfer yr holl waith annomestig arall - addasiadau (PDF 34kb)

Tabl F - Gwaith ar wahân i waith sy'n ymwneud â thablau A, A1, B, C, D ac  E (PDF 34kb)

Ydych chi'n adeiladu draenio cynaliadwy 

O 7 Ionawr 2019, bydd yn ofynnol i holl ddatblygiadau newydd o fwy nag un tŷ, neu ble mae ardal yr adeiladu yn 100m2 neu'n fwy, gael draenio cynaliadwy er mwyn rheoli dŵr wyneb ar y safle.

Mae cymeradwyaeth y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn wahanol i ganiatâd cynllunio, ac ar wahân iddo, a rhaid ceisio'r ddau cyn dechrau unrhyw waith adeiladu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

Cysylltwch â ni