Cymorth i Deuluoedd
Sicrhewch eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau, grantiau a help ariannol arall sydd ar gael i deuluoedd.
Cefnogi Pobl
Mae gan Cefnogi Pobl wasanaethau sydd ar gael i bob teulu a all eu helpu i gael gafael ar gymorth ariannol. Ewch i dudalen we Cefnogi Pobl i gael manylion.
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Caerffili
Gwybodaeth a chanllawiau diduedd am ddim ar ddod o hyd i ofal plant addas, addysg blynyddoedd cynnar a ariennir, Credydau Plant, Credydau Treth Gwaith a chymorth i deuluoedd. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
Cymorth ariannol ar gyfer addysg
Mae pob math o gymorth ariannol ar gael i rai myfyrwyr a rhieni plant o oedran ysgol iau. Mae manylion ar ein gwefannau cymorth ariannol ar gyfer Addysg.
Credydau Treth
Mae’n bosibl y gallwch gael help gyda chostau gofal plant os ydych chi’n defnyddio gwarchodwr plant cofrestredig. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 3003900 neu ewch i'r wefan.
Talebau gofal plant
Mae costau gofal plant yn un o'r costau mwyaf y mae teuluoedd yn eu talu. Ond, mae’n bosibl arbed ar gostau gofal plant drwy gynllun talebau y gallai eich cyflogwr fod yn ei gynnig.
I weld a allwch fanteisio arno, ac i gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r cynllun yn gweithio, cysylltwch â’ch cyflogwr neu’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
Cysylltiadau defnyddiol eraill
- Mae'r Llinell Ymholiadau Budd-dal Plant yn cynnig taliadau di-dreth y gallwch eu hawlio i’ch plentyn, sydd ar gael i bawb sy’n gymwys waeth beth fo’u hincwm neu eu cynilion. Ffoniwch 0845 302 1444.
- Y Comisiwn Gorfodi Cynhaliaeth Plant - Mae’r Comisiwn yn Gorff Cyhoeddus Anadrannol newydd a sefydlwyd i fod yn gyfrifol am y system cynhaliaeth plant ym Mhrydain Fawr.
- Turn to us national charity that helps people in financial hardship gain access to welfare benefits, charitable grants and support services.