Canolfannau cymunedol
Rydym yn gweithredu rhwydwaith o 35 canolfan cymunedol. Mae’r cyfleusterau hyn yn amrywio mewn maint, oed a math ond i gyd yn gwasanaethu’r un diben... i gynnig cyfleoedd i drigolion i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau o fewn y gymuned leol.
Er bod llawer o’r canolfannau mewn perchnogaeth yr awdurdod lleol, maent yn cael eu prydlesu i bwyllgorau rheoli sy'n eu rheoli o ddydd i ddydd. Mae pob pwyllgor rheoli yn elusen, ac mae'n gweithio ar sail gwbl wirfoddol, a etholir gan drigolion yr ardal y mae'n ei gwasanaethu. Mae etholiadau yn cael eu cynnal bob blwyddyn yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol pan fydd y rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yng ngwaith rhedeg y ganolfan leol yn cael y cyfle i ddod yn aelodau pwyllgor.
Mae'r cyfleusterau ym mhob canolfan gymunedol yn amrywio yn ôl maint a dyluniad yr adeilad ond mae bron i gyd yn brif neuadd a chegin gydag offer arlwyo.
Maent yn gallu darparu ar gyfer amrywiaeth eang o ddibenion gan gynnwys:
- Meithrinfeydd
- Grwpiau rhieni a’u thwdlod
- Dosbarthiadau ymarfer corff
- Clybiau ieuenctid
- Cyngherddau
- Chwaraeon
- Dosbarthiadau addysg i oedolion
- Grwpiau'r bobl hþn, clybiau cinio a hen ffefrynnau fel Bingo.
Mae'r rhestr bron yn ddiddiwedd ac mae'r canolfannau yn bodoli yn benodol i gwrdd ag anghenion y gymuned.
Am fwy o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael yn ein canolfannau cymunedol, cysylltwch â’r ysgrifenyddes ar y manylion isod.
Edrychwch ar yr holl ganolfannau cymunedol ar fap