Gwasanaeth i bobl sy’n gaeth i’r tŷ

Gan ddechrau ddydd Mercher 1 Gorffennaf bydd Gwasanaeth Llyfrgelloedd Caerffili yn cynnig gwasanaeth benthyca a dosbarthu llyfrau i’r cartref i drigolion sy’n gymwys.

Wedi’u dosbarthu trwy Wasanaeth Dosbarthu i’r Cartref LibraryLink, bydd trigolion sy’n gymwys yn derbyn deunyddiau darllen neu wrando a ddewisir yn benodol gan ein tîm o staff llyfrgelloedd gwybodus. Gwneir ymweliadau pob chwe wythnos.

I wneud cais am y gwasanaeth hwn rhaid cwrdd ag un o’r meini prawf cymhwysedd canlynol. Sylwer, dim ond i’r unigolyn sy’n gymwys y gellir gwneud y cynnig hwn ac nid yw’n agored i eraill sy’n byw yn yr un cyfeiriad, heblaw eu bod yn cwrdd â’r cymhwysedd.

  • bod yn ddefnyddiwr cofrestredig cyfredol y gwasanaeth LibraryLink
  • bod dros 70 oed a heb fynediad at gynnig e-Ddigidol y gwasanaeth llyfrgelloedd sy’n cynnwys e-Llyfrau, e-Llyfrau Llafar, e-Gylchgronau neu e-Gomics.
  • Wedi derbyn llythyr gwarchod gan Brif Swyddog Meddygol Cymru – waeth beth fo’ch oedran.

I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth LibraryLink, llenwch ein ffurflen gais.

Gwnewch gais ar gyfer y Gwasanaeth Dosbarthu i’r Cartref LibraryLink >

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Os nad ydych chi’n gallu llenwi’r ffurflen, ffoniwch un o’r rhifau ffôn isod a bydd cynghorydd gwasanaeth llyfrgelloedd yn llenwi ac yn cyflwyno’r cais ar eich rhan.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 1pm a 2pm i 5pm

  • 07523 931965
  • 07523 931969
  • 07713 399806

Dydd Llun i ddydd Gwener, 4.30pm i 6pm

  • 07523 931956

Dydd Sadwrn, 10am i 3pm

  • 07523 931956
Cysylltwch â ni