Plant a phobl ifanc

Rydych byth yn rhy ifanc i ymuno â llyfrgell. Os nad ydych wedi gwneud eisoes, beth am wneud hynny  ymunwch heddiw?

Rydym yn cynnig amryw o wasanaethau llyfrgell penodol ar gyfer plant a phobl ifanc.

Yr Her Ddarllen

Bob blwyddyn mae’r Asiantaeth Ddarllen a’r Llyfrgelloedd yn cynnal her ddarllen yn ystod yr haf ar gyfer plant 4 i 11 oed. Ewch i’r adran Beth Sy’n Digwydd am fanylion.

Digwyddiadau yn ein llyfrgelloedd

Nid oes y fath beth â bod yn rhy ifanc i ymuno â’r llyfrgell – dewch â’ch babi neu blentyn i weld beth sydd ar gael!

Rydym yn siŵr y cewch chi hyd i rywbeth y gallwch chi, eich ffrindiau a'ch teulu fwynhau. Ewch i'r adran ‘Beth sy'n digwydd’ am fanylion.

Llyfrau ar gyfer plant dan 5 oed

Nid yw byth yn rhy fuan i ymuno â'r llyfrgell - dewch â'ch babi neu'ch plentyn a gweld beth sydd ar gael!

  • Dewis eang o lyfrau arbennig ar gyfer babanod, rhai gyda seiniau a gweadeddau gwahanol i apelio i’r synhwyrau
  • Llyfrau lluniau ar gyfer plant bach a phlant cyn oedran ysgol. Dewis o blith cannoedd o lyfrau – hoff gymeriadau teledu; llyfrau am sefyllfaoedd bob dydd megis mynd i’r cylch chwarae neu ymweliad â’r meddyg; llyfrau caneuon, hwiangerddi, rhifau, lliwiau; llyfrau dwyieithog; llyfrau i’w rhannu amser gwely, neu unrhyw bryd!
  • Straeon, hwiangerddi a chaneuon ar gasét a CD
  • CDau, DVDau a fideos i blant y blynyddoedd cynnar

Llyfrgelloedd i blant 5-12 oed

Mae gennym lyfrau o bob math, rhigymau a barddoniaeth, llyfrau ffeithiol am bopeth dan haul, yn ogystal â llyfrau jôcs!

  • Bydd llawer o lyfrau sy'n hawdd i'w darllen ar gael i'r sawl sy'n dechrau darllen, cadwch lygad am gyfresi fel Titchy Witch gan Rose Impey neu The Scaredy Cats gan Shoo Rayner.
  • Mae dewis eang ar gael i ddarllenwyr rhugl sy’n addas at ddant pawb, gan gynnwys Artemis Fowl, Jacqueline Wilson, y clasuron, yn ogystal â nofelau newydd gan yr awduron plant cyfoes gorau.
  • Mae gan bob llyfrgell ddewis eang iawn o lyfrau ffeithiol hefyd, i’ch helpu gyda’ch gwaith cartref, dysgu triciau hud a lledrith i synnu eich ffrindiau, darganfod ffeithiau ffantastig o’r gyfres Hanesion Hyll, neu ddarllen barddoniaeth a dweud jôcs.

Llyfrgelloedd ar gyfer plant yn eu harddegau ac oedolion ifanc 

Os ydych yn aelod o'r llyfrgell, gallwch ddefnyddio cyfrifiaduron i bori’r we yn ddi-dâl. 

Mae llyfrgelloedd yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol, o ganllawiau TGAU ac arholiadau, i ganllawiau ar lunio CV a beth i'w wneud mewn cyfweliadau swydd. Yn ogystal, mae gennym lyfrau a gwybodaeth am gerddoriaeth, chwaraeon a diddordebau hamdden eraill.

Gallwch fenthyg CDau am dâl bach, a gallwch logi fideos, DVDau a gemau Playstation ac Xbox mewn rhai llyfrgelloedd. Ewch i’r adran ffioedd a thaliadau am fwy o fanylion.

Mae llyfrgelloedd yn cynnig amgylchedd perffaith ar gyfer adolygu a gwaith cartref.  Er nad ydym yn gallu gwarantu tawelwch llwyr, rydym wrth law i’ch helpu i ddod o hyd i’r holl lyfrau ac adnoddau sydd eu hangen arnoch i’ch helpu â phob agwedd ar eich gwaith cartref ac adolygu.

Mae cyfleusterau argraffu a llungopïo ar gael hefyd, ac mae argraffu a llungopïo at ddibenion gwaith cartref am ddim i blant dan 16 oed.

Gallwch hefyd fynd i adnoddau gwybodaeth ar-lein i’ch helpu â’ch gwaith cartref.

Cysylltwch â ni

Gwefannau eraill

Dechrau Darllen