Sut i lenwi ffurflen gais

Yr adran “Pam Chi” o'r ffurflen gais yw'r rhan bwysicaf o'ch cais chi. Rhowch sylw arbennig i hyn gan mai dyma ble rydych chi'n dweud wrthym ni beth sy'n eich gwneud chi'n addas ar gyfer y swydd. Bydd eich cais yn cael ei asesu drwy gymharu'r hyn rydych chi wedi'i ysgrifennu yn erbyn y meini prawf hanfodol sydd wedi’u nodi ym Manyleb y Person.

Rhaid i chi gyfeirio at bob un o'r meini prawf hanfodol ym Manyleb y Person a dweud wrthym ni sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf. Bydd hyn yn sicrhau eich bod chi’n rhoi tystiolaeth o'r ymddygiadau, profiad, gwybodaeth, a sgiliau sydd gennych chi ym mhob maes drwy ddarparu enghreifftiau ymarferol o'ch cymhwysedd chi. Dylech chi hefyd gynnwys unrhyw dystiolaeth o'r gofynion dymunol sydd wedi’u nodi ym Manyleb y Person. Bydd llenwi’r adran ‘Pam Chi’ yn llawn fel hyn yn rhoi’r cyfle gorau i chi gyrraedd y rhestr fer.

Osgowch wneud cyfres o ddatganiadau heb dystiolaeth i gefnogi’r hyn yr ydych yn ei ddweud. Er enghraifft:

“Mae gen i wybodaeth am y prosesau sy’n cael eu defnyddio yn fy rôl” neu “Rwy’n gyfathrebwr effeithiol”

Ni fydd datganiadau fel hyn yn rhoi tystiolaeth wirioneddol i banel y rhestr fer o'r hyn rydych chi wedi'i wneud.

Wrth ddarparu eich tystiolaeth chi, disgrifiwch:

  • Beth wnaethoch chi
  • Sut wnaethoch chi ef
  • Pam gwnaethoch chi ef a’r
  • Effaith gafodd hynny.

Bydd hyn yn dangos eich bod chi’n deall yr hyn sy'n ofynnol a'ch bod chin gallu ei wneud.

Wrth ddarparu tystiolaeth, meddyliwch am enghraifft lle rydych chi wedi dangos y meini prawf hanfodol neu’r cymhwysedd gofynnol a disgrifio’r sefyllfa, y dasg, yr hyn wnaethoch chi a’r canlyniad.

Ni ddylai’r adran ‘Pam Chi’ gynnwys eich CV na gwybodaeth bersonol fel enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost ac ati.

Cefnogaeth

Os hoffech ragor o help i gwblhau eich cais ac os hoffech siarad â’n Tîm Cymorth Cyflogaeth ymroddedig, e-bostiwch adfywiocymun@caerffili.gov.uk neu ffoniwch 01443 864227.