Meithrin, Cyfarparu a Ffynnu
Nod Meithrin, Cyfarparu a Ffynnu yw cynyddu perchenogaeth sgiliau generig, trosglwyddadwy ar draws y gweithlu drwy ddarpariaeth seiliedig yn y gymuned. Mae'n helpu i wella'r cyfleoedd ar gyfer gweithwyr sgiliau isel i gynnal cyflogaeth a chynyddu eu potensial i ennill cyflog.
Mae Meithrin, Cyfarparu a Ffynnu yn targedu cyfranogwyr tangyflogedig yn benodol.
Ble mae ar gael?
Mae'r prosiect ar gael trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Noddwr Arweiniol), Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ar gyfer pwy ydyw?
Mae ar gael i holl drigolion rhanbarth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig ac sy'n 16 oed neu'n hŷn.
Beth gall ei gynnig i chi?
Rhaglen gymorth i sicrhau eich bod yn llwyddo i sicrhau cyflogaeth fwy cynaliadwy, cyflogaeth ychwanegol, cyflogaeth amgen neu swydd sy'n fwy addas i'ch sgiliau a'ch cymwysterau.
Pam yw’r cynllun yn bwysig?
Mae'r sefyllfa economaidd bresennol yn y DU yn gwneud dod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy yn llawer llymach. Mae Meithrin, Cyfarparu a Ffynnu yn gweithio ar draws fwrdeistref Caerffili i helpu pobl i gynyddu eu cyfleoedd gwaith a lleihau tangyflogaeth.
Mae partneriaid y prosiect yn bwriadu defnyddio’r cylch hwn o arian Ewropeaidd i helpu gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl ifanc yn y rhanbarth.
Am ragor o wybodaeth
cysylltwch â Liz Goodwin ar 01495 237921 / 07720 948033 neu ebostiwch pontyddiwaith@caerffili.gov.uk neu sgiliaugwaithioedolion@caerffili.gov.uk.
