Prentisiaethau a hyfforddeion

Ymunwch â Thîm Caerffili… Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili nifer o gyfleoedd prentisiaeth ar gael ar draws nifer o wasanaethau'r cyngor… Rydym yn well gyda'n gilydd.

Mae ceisiadau ar gyfer y prentisiaethau isod bellach wedi cau.

Prentis Cynnal a Chadw Tai

licensing officer

Mae ein Tîm Cartrefi Caerffili sydd wedi ennill gwobrau yn chwilio am brentisiaid i weithio ar y safle i atgyweirio ac adnewyddu cartrefi cyngor.

Mae’r rolau’n cynnig cyfle unigryw i ddysgu crefft fedrus a gwella’ch sgiliau presennol mewn meysydd fel Plymio, Trydan, Gwaith Saer a Phlastro.

DISGRIFIAD SWYDD >

Swyddog Trwyddedu ar Brentisiaeth

licensing officer

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfle cyffrous i Swyddog Trwyddedu ar Brentisiaeth ymuno â'i Wasanaeth Trwyddedu pwrpasol. Mae'r Gwasanaeth Trwyddedu yn gyfrifol am weinyddu llawer o drwyddedau, gan gynnwys alcohol, adloniant, lluniaeth yn hwyr yn y nos, trwyddedu tacsis a hurio preifat, gamblo, masnachu stryd, metel sgrap a thrwyddedau'n ymwneud ag anifeiliaid. Byddwch chi’n dysgu wrth i chi weithio, gan gysgodi swyddogion eraill ac, yn raddol, adeiladu gwybodaeth a phrofiad i ymdrin â gwahanol fathau o geisiadau a swyddogaethau trwyddedu.

DISGRIFIAD SWYDD >

Prentis Gweinyddol (Gwasanaethau Digidol)

Prentis Gweinyddol

Ydy'r syniad o weithio mewn tîm deinamig a llawn cymhelliant yn apelio atoch chi? Ydych chi eisiau dechrau gyrfa hynod werth chweil mewn gweinyddiaeth?

Mae Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol yn chwilio am unigolyn rhagweithiol a llawn cymhelliant sydd â sylw rhagorol i fanylion a syched i ddysgu ymuno â'u tîm gweinyddol. Fel prentis byddwch yn datblygu ystod o sgiliau ac yn cael profiad o weithio mewn gwasanaeth cymorth hollbwysig.

DISGRIFIAD SWYDD >

Ceidwad Cefn Gwlad ar Brentisiaeth

Countryside Ranger

Mae 80% o’r Fwrdeistref Sirol yn gefn gwlad a byddwch yn cael bod yn rhan o Dîm y Ceidwaid Cefn Gwlad wrth iddyn nhw weithio i ddiogelu, rheoli a gwella rhai o rannau prydferthaf y Fwrdeistref Sirol, gan wneud gwaith cadwraeth, rheoli safleoedd, tasgau dyddiol a chynorthwyo gyda gweithgareddau addysgol. Nid yw un diwrnod yn debyg i’r llall.

DISGRIFIAD SWYDD >

Ceidwad Cefn Gwlad ar Brentisiaeth (Rhywogaethau Estron Goresgynnol)

Invasive Non Native Species

Gan weithio o fewn Tîm y Ceidwaid Cefn Gwlad, byddwch chi’n dysgu adnabod, deall, lliniaru a thrin rhywogaethau goresgynnol yng nghymoedd de Cymru. Gan weithio'n bennaf yn yr awyr agored, byddwch chi hefyd yn ymgymryd â rheoli amgylcheddol ar y cynefinoedd a'r lleoedd amrywiol sy'n rhan o'r Fwrdeistref Sirol.

DISGRIFIAD SWYDD >

Cyfieithydd y Gymraeg - Prentis

Welsh

Mae gennyn ni gyfle gwych i ymuno â'n Tîm Cydraddoldeb a'r Gymraeg deinamig a chyfeillgar. Rydyn ni’n chwilio am rywun sy’n angerddol am y Gymraeg ac sydd eisiau cyfrannu at wella gwasanaethau’r Gymraeg ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Fel prentis, byddwch chi’n defnyddio eich sgiliau iaith chi ac yn cynorthwyo’r tîm i ddarparu gwasanaeth cyfieithu effeithiol ar gyfer y Cyngor.

DISGRIFIAD SWYDD >

Prentis Gweinyddol (Cynnal a chadw cerbydau)

Administrative Vehicle Maintenance

Ydych chi am ddilyn gyrfa mewn Gweinyddu Swyddfa? Ydy'r syniad o weithio mewn tîm bach, cyfeillgar a llawn cymhelliant yn apelio atoch chi? Mae Cyngor Caerffili yn chwilio am unigolyn rhagweithiol a llawn cymhelliant sydd â sylw rhagorol i fanylion ac eisiau dysgu er mwyn ymuno â'u tîm gweinyddol nhw.

DISGRIFIAD SWYDD >

Hyfforddai Swyddog Iechyd yr Amgylchedd

Environmental Health Officer

Ydych chi’n angerddol am ddiogelwch?

Fel Myfyriwr Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, byddwch chi’n gyfrifol am fonitro a gorfodi safonau iechyd yr amgylchedd a’r cyhoedd, gan gynnwys hylendid bwyd, diogelwch yn y gwaith, tai, rheoli sŵn a llygredd, atal cyflyrau iechyd yr amgylchedd sy’n niweidiol i iechyd a hybu arferion amgylcheddol da.

DISGRIFIAD SWYDD >

Tiwtor Gweithgareddau Dŵr ar Brentisiaeth

Aquatics Tutor

Ydych chi’n angerddol am bopeth i wneud â Chwaraeon a Hamdden? Fel Tiwtor Gweithgareddau Dŵr ar Brentisiaeth, byddwch chi’n mwynhau mynd yr ail filltir i ysbrydoli ein nofwyr ni o bob oed i fyw bywydau iach ac egnïol, magu hyder, datblygu sgiliau bywyd hanfodol ac, yn bwysicaf oll, cael hwyl.

Byddwch chi’n barod am heriau cyffrous bob dydd gan nad oes un diwrnod yn debyg i’r llall o fewn y rôl hynod werth chweil hon.

DISGRIFIAD SWYDD >

Prentis Sbwriel a Glanhau

Waste Strategy and Operations

Ydych chi'n mwynhau gweithio yn yr awyr agored fel rhan o dîm gweithgar? Ydych chi'n dwlu ar heriau corfforol? Rydyn ni’n recriwtio ar gyfer Prentis Sbwriel a Glanhau i ymuno â'r sefydliad a chwarae rhan allweddol wrth ddiwallu anghenion trigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili wrth gyflawni ei strategaethau Gwasanaethau Gwastraff a mentrau gweithredu sydd wedi'u cynllunio i leihau'r effaith ar yr amgylchedd byd-eang.

DISGRIFIAD SWYDD >

Prentis Gweithiwr Priffyrdd

highways

Fel aelod o’n Gwasanaeth Contractio Rhwydwaith ni, mae ein timau ni’n sicrhau bod y priffyrdd yn parhau i fod yn ddiogel ac yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda drwy gyflawni ystod eang o dasgau, megis atgyweirio priffyrdd, mân waith sifil, cynnal a chadw draeniau, clirio ceuffosydd, gyrru cerbydau graeanu ac ymateb brys.

DISGRIFIAD SWYDD >

Prentis Cyfathrebu

communication

Mae ein Tîm Cyfathrebu ni’n cyflwyno ymgyrchoedd sydd wedi ennill gwobrau, yn diogelu ac yn gwella enw da'r awdurdod ac yn cynorthwyo mwy na 600 o wasanaethau er mwyn cyfathrebu â thrigolion ynghylch gwasanaethau o'r crud i'r bedd. Mae'r amgylchedd cyflym yn addas iawn ar gyfer y rhai sydd am ennill profiad yn y diwydiant marchnata a chyfathrebu.

DISGRIFIAD SWYDD >

Prentis Adnoddau Dynol

hr

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio o fewn tîm Adnoddau Dynol Cyngor Caerffili. Byddwch chi’n gweithio’n agos gyda Swyddogion Adnoddau Dynol eraill i sicrhau bod gwasanaeth Adnoddau Dynol proffesiynol, cyfeillgar ac effeithlon o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu yn unol ag anghenion yr awdurdod lleol.

DISGRIFIAD SWYDD >

Hyfforddai Cyfrifeg

Accountancy

Rydyn ni am recriwtio Prentis Cyfrifeg ac ehangu ein tîm ymroddedig ni. Mae hyn nid yn unig yn cynnig profiad amhrisiadwy, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i rywun gael gyrfa gyffrous ym maes Cyfrifeg, drwy gynorthwyo'r ymgeisydd i ddatblygu ei sgiliau a'i gymwysterau

DISGRIFIAD SWYDD >

Prentis Awtomatiaeth

Automation

Cyngor Caerffili yw'r lle perffaith i ddechrau eich gyrfa chi ym maes cynnal a chadw peirianneg awtomeiddio.

Ochr yn ochr â datblygu eich sgiliau technegol chi’n helaeth, byddwch chi hefyd yn magu eich galluoedd chi mewn meysydd cyflenwol hanfodol fel trefniadaeth, blaenoriaethu, dadansoddi data a thechnegau datrys problemau, gwaith tîm, cyfathrebu, a sgiliau cyflwyno

DISGRIFIAD SWYDD >

Prentis TG a Chymorth Digidol

digital solutions

Mae gennym gyfle newydd cyffrous i ymuno â'n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol. Fel Prentis TG a Chymorth Digidol, byddwch yn ymuno â ni ar adeg hollbwysig wrth i ni ddatblygu a thrawsnewid ein datrysiadau digidol ar gyfer y sefydliad. Bydd y rolau wedi'u lleoli ar draws y gwasanaeth gan gwmpasu nifer o swyddogaethau allweddol, megis cymorth technegol i ddefnyddwyr terfynol, cynnwys gwe a diogelwch digidol.

DISGRIFIAD SWYDD >

Cogydd ar Brentisiaeth

cook

Rydyn ni’n recriwtio Cogydd ar Brentisiaeth sy'n angerddol am fwyd i ymuno â'n tîm arlwyo arobryn. Byddwch chi’n ennill sgiliau wrth arwain tîm o staff arlwyo i sicrhau safon uchel o wasanaeth. Cewch chi gyfle i ddysgu a datblygu mewn cegin brysur, gyda chymorth tîm clós.

DISGRIFIAD SWYDD >

Hyfforddai Gwasanaeth Etholiadol

community engagement trainee

Fel Prentis gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, byddwn yn rhoi’r holl gymorth sydd ei angen arnoch i ddod yn Gynorthwyydd Gwasanaethau Etholiadol. Byddwch yn dysgu yn y swydd gan weithwyr proffesiynol profiadol ac, ar yr un pryd, yn gweithio tuag at gymhwyster i gefnogi gyrfa yn y Gwasanaethau Etholiadol.

DISGRIFIAD SWYDD >

Prentis Gweinyddol (Ysgolion yr 21ain Ganrif)

21st century school

Dyma gyfle dan hyfforddiant i unigolyn brwdfrydig ymuno â thîm prysur Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm deinamig sy’n gyfrifol am gyflawni prosiectau Ysgolion yr 21ain Ganrif – o’r camau cychwynnol o sicrhau cyllid ac ysgrifennu achosion busnes, hyd at y camau darparu o adnewyddu/adeiladu ysgolion newydd ac adrodd ar ganlyniadau yn unol ag amodau cyllid grant.

DISGRIFIAD SWYDD >

Cogydd ar Brentisiaeth (Cartrefi Preswyl)

cook residentiel homes

Rydyn ni’n recriwtio Cogydd ar Brentisiaeth sy'n angerddol am fwyd i ymuno â'n tîm arlwyo arobryn ni.

Gyda chymorth tîm clós, byddwch chi’n helpu paratoi bwyd ar gyfer ein preswylwyr ni mewn nifer o gartrefi preswyl.

DISGRIFIAD SWYDD >

Gweithiwr Gofal ar Brentisiaeth (Cartrefi Preswyl)

care worker

Ydych chi'n unigolyn tosturiol?

Fel Gweithiwr Gofal ar Brentisiaeth, byddwch chi’n helpu preswylwyr i fwynhau pob dydd drwy wneud yn siŵr eu bod nhw’n cael y gofal a’r cymorth o ansawdd y maen nhw’n eu haeddu. Byddwch chi’n cynorthwyo gyda bywyd bob dydd, yn darparu cymorth a chwmnïaeth, gan rannu eich amser chi a chreu atgofion gwych hefyd. Mae'n gyfle i ddod â'ch ymroddiad a'ch tosturi chi i amgylchedd boddhaus.

Bydd pob diwrnod yn wahanol, felly gallwch chi ddisgwyl gwneud gwaith sydd mor amrywiol a gwerth chweil.

DISGRIFIAD SWYDD >

Os hoffech gael gwybodaeth ychwanegol am unrhyw un o’r prentisiaethau neu os hoffech siarad ag aelod o’r tîm, e-bostiwch prentisiaethau@caerffili.gov.uk i drefnu galwad yn ôl. Cofiwch gynnwys eich rhif cyswllt yn eich e-bost.