Tai lloches
Os ydych chi am fyw’n annibynnol ond mewn cartref llai o faint sy’n haws i’w reoli a gyda chymorth, yna efallai y bydd tai lloches yn apelio atoch chi.
Nod tai lloches yw helpu pobl i barhau i fyw’n annibynnol gyda chymorth lle bo angen. Mae gennym ni 32 o gynlluniau sy’n eiddo i’r Cyngor ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae ein cynlluniau tai lloches ni’n cynnwys byngalos neu fflatiau sy’n gwbl hunan-gynwysedig, gyda’u hystafelloedd ymolchi a’u ceginau eu hunain. Mae yna hefyd ardaloedd cymunedol lle gall y deiliaid contract gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
Beth yw manteision tai lloches?
- Cymorth yn ymwneud â thai gan Swyddog Tai Lloches
- Adeiladau diogel
- Cyfarfodydd rheolaidd gyda deiliaid contract i roi diweddariadau
- gwasanaeth ac i rannu syniadau a barn
- Digwyddiadau cymdeithasol a chymorth gan Gydlynydd Gweithgareddau
- Gwasanaeth monitro larymau penodedig 24 awr y dydd/365 diwrnod y flwyddyn
- Cymorth i gael mynediad at asiantaethau eraill, er enghraifft cymorth ariannol
Sut i wneud cais
Mae modd i bobl dros 60 oed wneud cais am Lety Lloches. Mae’n bosibl hefyd y bydd pobl o dan 60 oed sydd ag anableddau yn gymwys, yn amodol ar asesiad pellach. I weld y manylion ewch i’r adran gwneud cais am dŷ.
Y cymorth tai sydd ar gael mewn tai lloches
Os ydych chi’n ddeiliad contract sy’n byw yn un o’n cynlluniau tai lloches, bydd eich anghenion cymorth chi yn cael eu hasesu a chewch chi eich rhoi mewn un o dri band – Efydd, Arian neu Aur.
Pa gymorth a gewch ym mhob band
Gwasanaeth y band Efydd
- Help mewn argyfwng drwy’r gwasanaeth larwm cymunedol 365 diwrnod y flwyddyn
- Adolygiad personol bob 6 mis ac archwiliad iechyd
- Cymorth gan Gydlynydd Gweithgareddau penodedig sy’n gallu eich cynorthwyo i drefnu gweithgareddau neu gymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol yn eich cynllun llety lloches a’r gymuned ehangach
- Gwybodaeth, cymorth a chyngor cyffredinol ar dai ynghyd â’ch cyfeirio at wasanaethau priodol eraill
- Cefnogaeth a chymorth byrdymor pan fyddwch yn sâl neu ar ôl i chi gael eich rhyddhau o’r ysbyty (4 – 6 wythnos)
- Archwiliad o’r cortyn larwm a’r larwm gwddf yn eich cartref bob pythefnos
- Bydd Swyddog Tai Lloches yn bresennol ar y safle (yn y bore neu’r prynhawn) i roi cymorth cyffredinol, pe bai angen
- Uwchraddio’r gwasanaeth i’r band arian neu aur ar gais (yn amodol ar adolygu eich anghenion cymorth)
Gwasanaeth y band Arian
- Help mewn argyfwng drwy’r gwasanaeth larwm cymunedol 365 diwrnod y flwyddyn
- Adolygiad personol ac archwiliad iechyd bob 6 mis
- Cymorth gan Gydlynydd Gweithgareddau penodedig sy’n gallu eich cynorthwyo i drefnu gweithgareddau neu i gymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol yn eich cynllun llety gwarchod a’r gymuned ehangach
- Gwybodaeth, cymorth a chyngor cyffredinol ar dai ynghyd â’ch cyfeirio at wasanaethau priodol eraill
- Cefnogaeth a chymorth byrdymor pan fyddwch yn sâl neu ar ôl i chi gael eich rhyddhau o’r ysbyty (4 – 6 wythnos)
- Archwiliad o’r cortyn larwm a’r larwm gwddf yn eich cartref bob pythefnos
- Bydd Swyddog Tai Lloches yn bresennol ar y safle (yn y bore neu’r prynhawn) i roi cymorth cyffredinol, pe bai angen
- Asesiad manwl bob 6 mis o’ch anghenion cymorth a llunio Cynllun Cymorth sy’n nodi unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen arnoch
- Un ymweliad wyneb yn wyneb bob wythnos gan eich Swyddog Tai Lloches a fydd yn gweithio gyda chi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol o ran diwallu eich anghenion cymorth a nodwyd
- Hyd at ddwy alwad intercom yr wythnos gan eich Swyddog Tai Lloches er mwyn cynnal neu wella eich annibyniaeth
- Ymyrraeth mewn argyfwng i osgoi, os yn bosibl, yr angen i chi dderbyn lefelau uwch o gymorth ar sail tymor hwy
- Uwchraddio’r gwasanaeth i’r band aur ar gais (yn amodol ar adolygu eich anghenion cymorth)
Gwasanaeth y band Aur
- Help mewn argyfwng drwy’r gwasanaeth larwm cymunedol 365 diwrnod y flwyddyn
- Adolygiad personol ac archwiliad iechyd bob 6 mis
- Cymorth gan Gydlynydd Gweithgareddau penodedig sy’n gallu eich cynorthwyo i drefnu gweithgareddau neu gymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol yn eich cynllun llety lloches a’r gymuned ehangach
- Gwybodaeth, cymorth a chyngor cyffredinol ar dai ynghyd â’ch cyfeirio at wasanaethau priodol eraill
- Cefnogaeth a chymorth byrdymor pan fyddwch yn sâl neu ar ôl i chi gael eich rhyddhau o’r ysbyty (4 – 6 wythnos)
- Archwiliad o’r cortyn larwm a’r larwm gwddf yn eich cartref bob pythefnos
- Bydd Swyddog Tai Lloches yn bresennol ar y safle (yn y bore neu’r prynhawn) i roi cymorth cyffredinol, pe bai angen
- Asesiad manwl bob 6 mis o’ch anghenion cymorth a llunio Cynllun Cymorth sy’n nodi unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen arnoch
- Hyd at 5 ymweliad wyneb yn wyneb / galwad intercom bob wythnos gan eich Swyddog Tai Lloches a fydd yn gweithio gyda chi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol o ran diwallu eich anghenion cymorth a nodwyd. Nod y lefel hon o gymorth yw eich helpu i gynnal ac adennill eich annibyniaeth i aros yn eich cartref ac, os yn ymarferol, symud yn ôl i fand is
- Cysylltu ag asiantaethau eraill ar eich rhan, lle y bo’n briodol, a threfnu cyfarfodydd cydgynllunio er mwyn sicrhau y caiff eich holl anghenion eu diwallu
- Ymyrraeth mewn argyfwng i osgoi, os yn bosibl, yr angen i chi dderbyn lefelau uwch o gymorth ar sail tymor hwy