Safon Ansawdd Tai Cymru – Rhaglen Gwella'r Amgylchedd

Beth yw rhaglen gwella'r amgylchedd?

Mae Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn gyfres o safonau y mae'n rhaid i gartrefi sy'n eiddo i awdurdodau lleol a chymdeithasai tai yng Nghymru eu bodloni.

Mae hyn yn cynnwys safon amgylcheddol sy'n nodi:

“Dylai cartrefi gael eu lleoli mewn amgylchedd y gall trigolion gysylltu ag ef ac y gallant fod yn falch o fyw ynddo.”

Mae'r Cyngor yn llunio rhaglen gwella'r amgylchedd i wneud yn siŵr bod yr elfen hon o Safon Ansawdd Tai Cymru yn cael ei chyflawni.

Dywedoch chi, gwnaethom ni

Mae ein tri Swyddog Safon Ansawdd Tai Cymru wedi bod yn brysur dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf yn ymgynghori â chymunedau gwahanol ledled y Fwrdeistref Sirol.

Isod mae cipolwg ar rai o'r prosiectau maen nhw wedi cyflawni o ganlyniad i nifer o ddigwyddiadau ymgynghori, arolygon a chnocio drysau i ddarganfod yr hyn sy'n bwysig i chi.

Trecenydd

Dywedoch chi…Fod nifer o finiau ar yr heol a oedd yn effeithio ar barcio a mynediad.  
 
Gwnaethom ni…Osod ardaloedd storio biniau fel yr un a ddangosir isod.


 

Parc Lansbury

Dywedoch chi…Fod angen gwella'r mynediad i Trevelyan Court, yn ôl y grŵp trigolion lleol.
 
Gwnaethom ni…Osod llwybr newydd, cwrb isel a chanllawiau, ac mae'r grŵp trigolion lleol hefyd wedi rhoi planhigion yn yr ardal i'w wneud yn fwy hardd i'w weld.    
 

Parc Churchill

Dywedoch chi…Rydyn ni eisiau i waith gael ei gynnal ar y cylchfannau sydd wedi'u lleoli yn yr ardal. 
 
Gwnaethom ni…Leihau maint yr holl gylchfannau a llenwi 7 ohonyn nhw gyda choncrit o liw gwahanol. 
 

Ystâd Parc Gilfach

Dywedoch chi…Fod angen gwella'r tanlwybrau a bod problemau tipio anghyfreithlon.
 
Gwnaethom ni…Weithio mewn partneriaeth ag Adfywio Cymunedol ac Ysgol Gyfun Heolddu i wella tanlwybrau.   Hefyd, gosodwyd ffensys newydd fel rhan o becyn mawr o waith i wella diogelwch a lleihau tipio anghyfreithlon.

Fochriw

Dywedoch chi…Fod angen rhagor o gyfleusterau awyr agored at ddefnydd y gymuned.  Hefyd, wrth ymgynghori â rhieni lleol yn ystod sesiwn Rhwydwaith Rhieni Caerffili, dywedoch chi fod angen gwella'r bont a ddefnyddir i gael mynediad at y ganolfan gymunedol.
 
Gwnaethom ni…
Ychwanegu cyfleusterau chwarae newydd i barc y plant a gosod campfa awyr agored newydd.  Hefyd, gwnaethom ni ychwanegu ochrau rhwyllog i'r bont fel bod croesi yn fwy diogel i bawb.
 

Aberbargod

Dywedoch chi…Fod angen gwell mynediad i'ch cartrefi.
 
Gwnaethom ni…Wella'r llwybr gan hwyluso mynediad trigolion i'w cartrefi.
 

Pontlotyn

Dywedoch chi…Fod angen arwyddion gwell, mwy o ganllawiau a lloches bysiau.
 
Gwnaethom ni…Sawl gwelliant gan gynnwys gosod mwy o ganllawiau a darparu lloches bysiau.
 

Bargod

Dywedoch chi…Fod angen i'ch cartrefi fod yn fwy hygyrch o'r tu allan.

Gwnaethom ni…Ddarparu mynediad gyda ramp fel y gofynnwyd.
 

Cwrt Gwyddon, Abercarn

Dywedoch chi…Fod ardal yr iard wedi'i gorchuddio â chwyn a mwsogl sy'n berygl llithro posibl.
 
Gwnaethom ni…Ail-wynebu’r iard yn llawn.
 

Coed Duon

Dywedoch chi…Fod angen mwy o feysydd barcio.
 
Gwnaethom ni…Ail-wynebu a chynyddu'r ddarpariaeth parcio.
 

Trinant

Dywedoch chi…Fod angen mwy o feysydd barcio.
 
Gwnaethom ni…Ail-wynebu a chynyddu'r ddarpariaeth parcio.
 

Tŷ Sign, Rhisga

Dywedoch chi…Fod angen gwella'r parc sglefrio.
 
Gwnaethom ni…Osod parc sglefrio arllwysiad concrit newydd yn lle'r hen barc sglefrio metal.


 

Maes-y-ffynnon

Dywedoch chi…Fod problem gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol wrth y garejis.
 
Gwnaethom ni…
Ddymchwel y garejis ac ymgorffori'r tir yng ngerddi 2 o eiddo'r Cyngor.
 

Cefn-y-pant

Dywedoch chi…Fod gennym ni broblem gyda phobl yn tipio'n anghyfreithlon.
 
Gwnaethom ni…Osod ffensys fel ataliad.
 

 

Cysylltwch â ni