Cynllun Mân Waith Atgyweirio

A ydych chi’n Ddeiliad Contract y cyngor ac yn 60 oed neu’n hŷn, neu a oes gennych chi anabledd? A oes gennych chi dasgau bach sydd angen eu cyflawni, ac na allwch chi eu gwneud nhw eich hun? Gallai’r Cynllun Mân Waith Atgyweirio helpu.

Mae ein Cynllun Mân Waith Atgyweirio yn cynnig gwerth rhagorol am arian ac yn cael ei wneud gan aelod o’n tîm gwaith cynnal a chadw sydd â’i offer ei hun. Er mai ni sy’n gyfrifol am gynnal strwythur eich cartref a gwneud atgyweiriadau, rydym yn sylweddoli y bydd tasgau bach sydd angen eu gwneud yr ydych chi’n gyfrifol amdanynt, a dyma ble gall ein Cynllun Mân Waith Atgyweirio helpu.

Ar gyfer pwy mae’r cynllun?

I fod yn gymwys, rhaid i chi fod yn Ddeiliad Contract y Cyngor ac yn 60 oed neu’n hŷn, neu fod gennych chi anabledd a bod angen cymorth ychwanegol arnoch chi â thasgau yn eich cartref i’ch helpu chi i barhau i fyw yno yn ddiogel ac yn annibynnol.

Pa fath o waith sy’n gallu cael ei wneud?

  • Gallai gwaith unigolion sy’n gwneud mân waith    atgyweirio fod yn dasgau bach, er enghraifft:
  • Tocio drysau mewnol (ar ôl gosod carpedi)
  • Gosod a thocio gorchuddion llawr
  • Gosod traciau neu bolion llenni
  • Hongian llenni
  • Glanhau ffenestri
  • Trwsio silffoedd
  • Gosod bylbiau golau newydd, e.e. tiwbiau fflworolau
  • Hongian lluniau a drychau
  • Gosod cloeon ar ddrysau a bolltau ar siediau
  • Gosod ategolion ystafell ymolchi
  • Adeiladu dodrefn fflatpac
  • Clirio rhwystrau

A oes unrhyw dasgau nad ydynt yn gallu cael eu gwneud gan y gwasanaeth hwn?

Ni fydd y cynllun yn ymgymryd ag unrhyw waith addurno, gwaith gardd/torri gwair neu waith a fyddai’n ffurfio rhan o’n gwasanaeth cynnal a chadw arferol ni. Byddai angen rhoi gwybod i’n Tîm Atgyweiriadau Canolog ni am waith o’r fath, gan fod y costau’n cael eu cynnwys yn eich rhent chi.

Faint mae’n costio?

Mae pris sefydlog o £22.67 yr awr, yn ogystal â threth ar werth y mae’n rhaid ei thalu cyn gallu dechrau ar y gwaith. Bydd y gost hon yn cael ei hadolygu bob blwyddyn. Gallwch dalu ag arian parod yn unig trwy fynd i unrhyw un o’n swyddfeydd arian parodCanolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid neu dalu â cherdyn debyd/credyd dros y ffôn.

Gellir cyflawni llawer mewn 1 awr, felly gallech gael nifer o dasgau wedi eu gwneud yn ystod yr un apwyntiad ar yr amod nad yw’n mynd y tu hwnt i’r awr, e.e. gosod 2 reilen/polyn llenni, neu osod yr holl ategolion ystafell ymolchi hynny fel cabinet, teclyn i ddal rholyn papur toiled, drych a rheilen tywelion.

Ac eithrio hoelion, sgriwiau a mastig (sydd am ddim), bydd angen i’r holl ddeunyddiau gael eu prynu a bod yn barod i’r unigolyn sy’n gwneud mân waith atgyweirio pan fydd yn galw. Os na fydd y deunyddiau ar gael, yna ni all y gwaith ddechrau, ond gellir codi tâl arnoch o hyd.

Pan fydd y gwaith wedi’i orffen, bydd yr holl sbwriel a phecynnu deunydd yn cael ei dynnu a’i waredu o fewn y gost.

Bydd yr unigolyn sy’n gwneud mân waith atgyweirio wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn cael ei gyflogi’n uniongyrchol gan y Cyngor, felly gallwch osgoi cael y gwaith wedi’i wneud gan alwyr ffug neu ddioddef twyll masnachol.

Oriau gwaith

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn ystod oriau gweithio arferol yn unig, ac nid yw ar gael y tu allan i oriau neu fel rhan o’n gwasanaeth argyfwng.

Dyma yw’r oriau gweithio arferol:

  • 8am tan 4pm dydd Llun i ddydd Iau ac
  • 8am tan 3.30pm dydd Gwener

Pan fyddwch yn ffonio i ofyn am y gwasanaeth hwn, byddwn yn cynnig yr apwyntiad nesaf sydd ar gael i chi, ond ni allwn sicrhau y bydd hyn yr un diwrnod. 

Trefnu’r gwaith

Cysylltu â’ch Swyddfa Ardal / Tai Cymdogaeth leol, yn ystod oriau gweithio arferol.