Caniatâd i wella’ch tŷ cyngor
Os hoffech wneud gwaith i wella’ch tŷ cyngor, mae’n bosibl y bydd angen i chi gael caniatâd gennym ni cyn gwneud hynny.
Cyn i chi ddechrau ar unrhyw waith i wella’ch cartref cysylltwch â’ch swyddfa dai leol am gyngor.
Bydd angen i chi gael caniatâd ysgrifenedig gennym ar gyfer gwelliannau megis:
- Artexwaith
- Addurno’r tu allan i’ch cartref
- Newidiadau strwythurol
- Ychwanegu garej, sied neu fan parcio
- Addasu welydd neu ffensys
- Gwaith tirweddu sylweddol
- Gosod dysglau lloeren ac erialau
Os nad ydym wedi rhoi caniatâd i chi, neu os nad yw’r gwaith o ansawdd boddhaol, gallwn eu symud ymaith neu wneud addasiadau i unioni’r sefyllfa a chodi tâl ychwanegol arnoch am wneud hynny.