Cael gwared ar asbestos mewn tai cyngor

Asbestos yw'r enw a roddir ar grŵp o ddeunyddiau ffibrog naturiol.  Mae Asbestos yn gryf iawn, yn hyblyg ac yn sefydlog; ac oherwydd hyn cafodd ei ddefnyddio mewn ystod eang o ddeunyddiau a chynnyrch adeiladu rhwng y 1930au a chanol y 1980au - fe'i defnyddiwyd fwyaf helaeth yn y 1960au a'r 1970au.  Os cafodd eich cartref ei adeiladu neu ei adnewyddu yn ystod y cyfnod hwn, gall gynnwys peth deunydd asbestos.

A oes risg iechyd?

Nid yw deunyddiau sy'n cynnwys asbestos yn berygl os ydynt mewn cyflwr da ac nad ydynt yn cael eu haflonyddu.  Pan fydd deunyddiau asbestos yn mynd yn hen neu’n cael eu difrodi, e.e. os cânt eu drilio, llifio, sgwrio neu sandio, gallant ollwng y ffibrau i'r awyr.

Ble mae asbestos yn debygol o gael ei ganfod?

Defnyddiwyd asbestos mewn mannau fel paneli bath, paneli wal, leinin dan risiau, cynfasau sment rhychiog a ddefnyddir yn aml ar siediau a garejys, bondoeau, pibellau pridd a haenau addurniadol gweadog megis artecs.

Beth ydym yn gwneud o ran asbestos mewn tai cyngor?

Mae gennym Gynllun Rheoli Asbestos yn y Cartref sy'n nodi sut y byddwn yn adnabod a rheoli asbestos yn ein heiddo.  Rydym wedi cynnal arolygon asbestos i rai o'n tai a fflatiau; mae’r arolygon hyn yn cynnwys yr holl fynedfeydd a choridorau a rennir.

Rydym hefyd yn cynnal arolygon i bob eiddo cyn bod unrhyw waith adnewyddu yn digwydd; gall hyn fod pan fydd eiddo yn wag, neu cyn bod gwaith yn cael ei wneud fel rhan o'n rhaglen gwella Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).

Bydd yr holl ddeunydd sy'n cynnwys asbestos mewn cyflwr da yn aros yn eu lle.  Os yw'r deunydd wedi cael ei ddifrodi neu’n risg uchel oherwydd ei leoliad, byddwn yn cymryd camau priodol i’w cymryd ymaith.

Eich cyfrifoldebau fel tenant cyngor

Rhaid i chi ofyn ein caniatâd cyn i chi wneud unrhyw waith yn eich cartref - gan gynnwys addurno mewnol os yw Artecs yn rhan o hynny.  Cofiwch, ni chaniateir newidiadau o dan eich cytundeb tenantiaeth heb ganiatâd oddi wrthym o flaen llaw.  Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni sicrhau bod unrhyw ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos yn cael eu hadnabod yn gynnar.  Bydd staff cymwys yn ystyried eich cais a sicrhau bod rheolaethau priodol yn cael eu rhoi mewn lle er mwyn atal amlygiad asbestos i chi, eich teulu a'r person sy'n gwneud y gwaith (os nad mai chi yw hynny).   Os byddwch yn gwneud unrhyw waith eich hunain, neu'n caniatáu eraill i wneud gwaith, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig byddwch yn atebol am yr holl gostau cysylltiedig.

Beth i'w wneud os ydych yn credu bod asbestos yn eich cartref

Os ydych yn amau o gwbl bod unrhyw ddeunydd yn cynnwys asbestos, neu os ydych yn meddwl bod eich cartref yn cynnwys deunydd asbestos wedi difrodi, cysylltwch â'ch swyddfa dai leol..  Peidiwch â cheisio i ddelio a'r sefyllfa eich hun.

Related Pages

Lle i waredu asbestos

Elsewhere on the web

www.hse.gov.uk/asbestos | www.aic.org.uk