Grant Caledi i Denantiaid

Ar 13 Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau i’w chynllun Grant Caledi i Denantiaid.

Bydd y cyfnod cymwys ar gyfer ôl-ddyledion yn cael ei estyn i gynnwys ôl-ddyledion a gronnwyd oherwydd Covid rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Rhagfyr 2021, yn ogystal â’r ôl-ddyledion a ganiatawyd o’r blaen a gronnwyd oherwydd Covid rhwng 1 Mawrth 2020 a 30 Gorffennaf 2021. 


Mae hyn yn golygu y bydd tenantiaid a gollodd eu swyddi ar ôl dileu’r cynllun ffyrlo ym mis Medi, neu sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol yn ei hincwm wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dynnu’r cynnydd i’r Credyd Cynhwysol, ac nad oeddent yn cael budd-daliadau sy’n gysylltiedig â thai, yn cael eu cynnwys.  
 

Bellach, gall pob tenant yng Nghymru sydd ag ôl-ddyledion oherwydd Covid, wneud cais am gymorth ariannol i fynd i’r afael â’r ôl-ddyledion hynny, naill ai trwy’r Grant Caledi i Denantiaid neu’r Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai.

 

Sut i wneud cais

Argraffwch y Grant Caledi i Denantiaid  ffurflen gais (PDF), ei llenwi hi, a'i phostio hi i:

Tŷ Gilfach
43 William Street
Gilfach
Bargod
CF81 8ND

Gallwch chi hefyd ofyn am ffurflen gais drwy anfon e-bost i CyngorArDai@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 873552.


Taliad Disgresiwn at Gostau Tai (DHP)  Taliad Tai yn ôl Disgresiwn

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.