Landlordiaid preifat

Rhoi eich cartref ar osod

Mae’r taflenni isod y gellir eu lawrlwytho yn rhoi gwybodaeth i landlordiaid neu ddarpar-landlordiaid sydd am gael gwybodaeth am ddyletswyddau landlord, mathau o denantiaethau a sut i roi rhybudd priodol i denant yn eich eiddo.

Rhoi eich cartref ar osod (PDF 178kb)

Tenantiaethau sicr a thenantiaethau byrddaliol sicr: Canllaw i landlordiaid (PDF 647kb)

Ydych chi’n ystyried gosod eich cartref ar rent? (PDF 401kb)

Tai Amlfeddiannaeth

Mae nifer o dai rhent preifat yn y fwrdeistref sirol yn Dai Amlfeddiannaeth. Ewch i’r adran trwyddedu tai amlfeddiannaeth i weld manylion am drwyddedau, diogelwch tân a rheoli tai amlfeddiannaeth.

Allweddi Caerffili – gwasanaeth tai rhentu preifat

Mae Allweddi Caerffili yn brosiect sy'n cael ei arwain gan ein tîm Gwasanaethau Tai. Mae'n helpu landlordiaid preifat i ddod o hyd i denantiaid tymor hir ar gyfer eu heiddo, ac yn atal digartrefedd hefyd.
Manteision y cynllun:

  • Allweddi Caerffili sy'n cydlynu'r denantiaeth drwy ymgysylltu â landlordiaid
  • Mae'r gwasanaeth ar gael am ddim
  • Llwyth achosion mawr o bobl sy'n barod i symud i mewn i gartrefi
  • Allweddi Caerffili sy'n trefnu pob ymweliad
  • Ymweliadau monitro chwarterol
  • Allweddi Caerffili sy'n gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer landlordiaid a thenantiaid; gan ddarparu cefnogaeth gyfredol i'r ddau barti

Cwestiynau cyffredin ar gyfer landlordiaid


Am ragor o wybodaeth.

Cysylltwch â thîm Allweddi Caerffili:

Ffon: 01443 873564 
E-bost: keys@caerffili.gov.uk

Tai amlfeddiannaeth

Mae nifer o dai rhent preifat yn y fwrdeistref sirol yn dai amlfeddiannaeth. Am wybodaeth am drwyddedau, diogelwch tân a rheoli tai amlfeddiannaeth ymwelwch â’r adran trwyddedau tŷ amlfeddiannaeth.
 


Iechyd a diogelwch tai

Mae’r canllawiau canlynol, a gynhyrchwyd gan yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol, ar gyfer landlordiaid a gweithwyr proffesiynol ym maes eiddo. 

Rydym yn archwilio cyflwr eiddo gan ddefnyddio dull asesu risg sef y System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS). Nid yw’r System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai yn pennu safonau gofynnol. Mae’n ymwneud ag osgoi peryglon posibl, neu eu lleihau o leiaf. Mae hyn yn golygu y dylai landlordiaid archwilio cyflwr eu heiddo yn rheolaidd i geisio gweld lle a sut y gellir gwella’u heiddo a’u gwneud yn fwy diogel.

Y System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai – Canllaw i Landlordiaid a Gweithwyr Proffesiynol ym Maes Eiddo (PDF 2.1mb)

Gwaith Atgyweirio

Fel landlord, mae gennych gyfrifoldebau penodol o ran gwaith atgyweirio, a gallwn gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn os nad yw gwaith atgyweirio’n cael ei wneud. Ewch i’r adran atgyweirio tai preifat am fanylion.

Derbyn eich taliadau rhent drwy Smart Money Cymru

Os yw eich tenant yn derbyn Lwfans Tai Lleol bellach gall ddewis talu ei rent yn uniongyrchol i chi drwy Undeb Credyd Smart Money.

Bydd angen i chi a’ch tenant gwblhau’r ffurflen gofrestru isod, ac yna dychwelyd y ffurflen gais i swyddfa Undeb Credyd Smart Money yn y cyfeiriad a nodir ar y ffurflen.

Smart Money Cymru (PDF 183kb)

Ffurflen Gofrestru Landlord (PDF 108kb)

Rhagor o wybodaeth

Mae cyngor i landlordiaid ar gael ar wefan y Sefydliad Tai Siartredig (CIH) a gwefan Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid. Gallwch hefyd gysylltu â’n tîm tai sector preifat.

Cysylltwch â ni

Tudalennau cysylltiedig 

Atgyweirio tai preifat