Gwasanaeth asiantaeth gwella’r cartref
Mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi gwasanaethau proffesiynol, technegol a gweinyddol i bobl sydd wedi gwneud cais am grant neu fenthyciad tai.
Prif nod y gwasanaeth hwn yw cymryd y cyfrifoldeb a’r pryderon sy’n gysylltiedig â threfnu gwaith atgyweirio a gwella tai oddi wrthoch chi, gan gael swyddogion medrus a phrofiadol i drefnu’r gwaith ar eich rhan chi.
Mae rhai o’r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys:
- Gwasanaeth sy’n hawdd i’w ddefnyddio a siop un stop
- Cyngor ar gymhwysedd i gael grant a benthyciadau a’r gwaith priodol sydd angen ei wneud
- Cymorth i lenwi pob ffurflen a dogfen sy’n ofynnol i wneud cais am grant neu fenthyciad
- Manyleb o’r gwaith sydd angen ei gyflawni
- Amcangyfrif o gost y gwaith
- Cynlluniau a darluniau gwaith
- Sicrhau Rheoliadau Adeiladu a Chaniatâd Cynllunio
- Trefnu’r mathau eraill o ganiatâd sy’n ofynnol, megis cymeradwyaeth gan y morgeisai neu’r landlord
- Cyngor ariannol ar waith nas ariennir drwy grant
- Helpu i drefnu benthyciadau, benthyciadau aeddfedu, morgeisi ac ati yn ôl yr angen
- Penodi adeiladwr o’r rhestr o adeiladwyr cymeradwy yn ôl yr angen
- Trefnu contractau a darparu gwasanaeth rheoli contractau
- Goruchwylio gwaith
- Rheoli taliadau ariannol i gontractwyr
- Trefnu llety dros dro, yn ôl yr angen
- Diogelu rhag contractwyr diegwyddor
Cost y gwasanaeth
Wrth gynnig cymorth grant tai, rhoddir cymorth grant tuag at gost y gwasanaeth, sydd fel arfer yn golygu na ddylech dalu tâl ychwanegol am y gwasanaeth.
Wrth gynnig cymorth benthyciad, caiff lefel y ffi ar gyfer defnyddio’r gwasanaeth hwn ei phennu ymlaen llaw drwy gytundeb. Cysylltwch â’r adran tai sector preifat am fanylion.