Cynlluniau gofal ychwanegol
Mae cynlluniau tai gofal ychwanegol yn eich galluogi i fwynhau’r manteision o fyw yn eich cartref eich hun, gyda chymorth ychwanegol hyblyg yn y cartref ar gael pan fo’i angen arnoch. Gall hyn fod yn ddewis perffaith os oes angen cymorth arnoch i fyw’n annibynnol.
Ewch i'r adran darparwyr gofal ychwanegol i gael manylion.
Manteision tai gofal ychwanegol
- Gwasanaeth prydau bwyd bob dydd
- Rheolwr y Cynllun ar y safle o ddydd Llun i ddydd Gwener
- Staff Gofal ar y safle
- Cyfarfodydd rheolaidd gyda deiliad y contract i rannu syniadau a barn
- Gwasanaeth monitro larymau penodedig 24 awr y dydd/365 diwrnod y flwyddyn
- Gwasanaethau gan asiantaethau eraill, er enghraifft Cymorth Ariannol, ac ati.
- Gweithgareddau yn y cynllun, a rhoi cymorth i deiliaid y contract gymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnir gan y Cydlynydd Gweithgareddau
Sut i wneud cais
I wneud cais, cysylltwch â’r Tîm Dyletswydd a Gwybodaeth Gwasanaethau Oedolion (ASDIT).