Benthyciadau i Landlordiaid
Mae'r rhain yn fenthyciadau di-log sydd ar gael i landlordiaid i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd neu ar gyfer gwaith cymwys i gartrefi sydd wedi'u rhentu'n breifat.
Pwy all wneud cais?
Gall landlordiaid preifat gydag eiddo ym mwrdeistref sirol Caerffili wneud cais.
Faint allaf fenthyg?
Mae benthyciadau ar gael o £1,000 i £35,000 yr eiddo, hyd at 10 eiddo.
Cyfnodau benthyciadau mwyaf:
- 2 flynedd os y bwriad yw gwerthu’r eiddo yn dilyn y gwaith
- 5 mlynedd os y bwriad yw rhentu'r eiddo yn dilyn y gwaith
- 10 mlynedd os yw'r bwriad i rentu'r eiddo ar gyfraddau Lwfans Tai Lleol (LHA) yn dilyn y gwaith, gydag ymrwymiad 10 mlynedd i hawliau enwebu tenantiaid awdurdod lleol
Sut i wneud cais
Oherwydd materion yn ymwneud â'r pandemig, mae'r Cyngor wedi penderfynu atal dros dro gymryd ymholiadau newydd am grantiau atgyweirio'r cartref. Sylwch y bydd unrhyw geisiadau brys yn dal i gael eu hystyried. Bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n rheolaidd gan reolwyr tai a bydd y system yn cael ei hadfer cyn gynted â phosibl.
Fodd bynnag, mae benthyciadau di-log ar gael i berchen-feddiannwyr a landlordiaid er mwyn gwneud atgyweiriadau i'ch eiddo. Os hoffech chi ymholi am y rhain, ffoniwch 01443 811378 neu ddilyn y ddolen hon i gael y ffurflen ymholiadau ar-lein
Gwneud cais am benthyciad gwella cartrefi >
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!