Pobl sy’n cysgu ar y stryd
StreetLink
Nod StreetLink yw helpu i ddileu’r angen i gysgu allan trwy alluogi i’r cyhoedd ddod â phobl sy’n cysgu allan i
gysylltiad â gwasanaethau lleol sy’n gallu eu cefnogi.
Lloches Nos Eglwysi Caerffili
Am y bumed blwyddyn yn olynol mae Lloches Nos Eglwysi Caerffili eto'n weithredol o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a bydd y drysau ar agor o'r 2 Ionawr 2020 a bydd yn rhedeg tan 31 Mawrth 2020.
Visit the Caerphilly Churches Night Shelter Website
Cynllun Tywydd Garw: Pobl sy'n cys u allan 2018–19 (PDF)
Lloches Nos Eglwysi Caerffili (PDF)
Mewn partneriaeth â 9 o eglwysi ar draws Bwrdeistref Caerffili, bydd pobl sy'n cysgu ar y stryd unwaith eto yn cael cynnig lle diogel i aros, gyda bwyd cynnes ac amgylchedd cyfeillgar. Nid yn unig y bydd yn ein helpu i ddiogelu rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, ond bydd cefnogaeth helaeth yn cael ei gynnig i'r rhai sy'n cymryd rhan yn y cynllun. Bydd yr holl achosion a gyfeiriwyd yn cael eu monitro a'u hasesu gan y Tîm Cyngor ar Dai i leihau risg ac i sicrhau bod amrywiaeth o anghenion cymorth yn cael eu cynnig.
Bydd Stephen Dwyer, ein Cydlynydd ar gyfer y rhai sy'n cysgu ar y stryd o Wasanaethau Cymorth Cornerstone yn cwrdd â'r holl a gyfeiriwyd, yn trafod nodau’r prosiectau a gwneud argymhellion annibynnol ynghylch rheoli risg. Bydd Stephen yn mynychu pob lloches nos a chefnogi'r timau ar unrhyw faterion posibl gyda gwesteion a bydd yn cynnig cymorth i'r gwirfoddolwyr. Bydd Gwasanaethau Cymorth Cornerstone yn gweithio gyda'r holl westeion i wella eu dewisiadau tai yn ystod eu harhosiad yn y lloches nos ac yn gweithio ochr yn ochr â Swyddogion Digartrefedd yr awdurdod i helpu diogelu tai.
Os ydych yn gwybod am unrhyw bobl sy'n cysgu allan ar y stryd ym Mwrdeistref Caerffili, gallwch gysylltu ag Andrew yn uniongyrchol ar ei ffôn symudol 07946537793 am gyngor. Fel arall, gallwch gyfeirio'r ymgeisydd at y Ganolfan Cyngor ar Dai yn Nhŷ Gilfach neu gallwch gysylltu â'r tîm ar 01443 873552.
Bydd angen i bawb sydd am fynychu Lloches Nos Eglwysi Caerffili gwblhau ffurflen gyfeirio y gellir ei e-bostio i francd1@caerphilly.gov.uk neu ffacsio ar 01443 873588.
Nid yw hyn yn wasanaeth galw i mewn a heb atgyfeiriad ni fydd y person yn cael mynediad. Ni fydd rhai unigolion o ganlyniad i "risg" neu "euogfarnau blaenorol" yn cael eu derbyn i mewn i'r lloches nos.