Cymorth i brynu cartref
Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth i bobl a fydd efallai angen cymorth i brynu cartref.
Efallai bydd cymorth ar gael gan Lywodraeth Cymru neu gymdeithasau tai lleol:
Llywodraeth Cymru
- Rhanberchnogaeth – Cymru: Prynu cyfran gychwynnol o rhwng 25% a 75% o eiddo a thalu rhent ar y gyfran sy'n weddill.
- Cymorth i Brynu – Cymru: Cynllun benthyciadau ecwiti a rennir ar gyfer cartrefi gwerth hyd at £250,000. Mae'r cynllun hwn ar gyfer pobl sy'n prynu cartref am y tro cyntaf a'r rhai hynny sy'n symud tŷ – cyhyd â bod ganddynt flaendal sy'n 5% o werth yr eiddo.
- Prynu Cartref – Cymru: Cynllun benthyciadau ecwiti o rhwng 30% a 50% ar gyfer y rheiny sy'n bodloni meini prawf penodol i brynu eiddo.
Darllen rhagor.
Cymdeithasau Tai
- Rhannu Ecwiti – Prynu cyfran o'ch cartref a thalu rhent i'r gymdeithas tai ar y gyfran sy'n weddill.
- Rhanberchnogaeth – Prynu cyfran gychwynnol o rhwng 25% a 75% o eiddo a thalu rhent ar y gyfran sy'n weddill.
Gwneud cais
I wneud cais am gymorth i brynu cartref, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar-lein ar wefan Canfod Cartref Caerffili. I gael cymorth o ran llenwi'r ffurflen, ffoniwch 01443 873521 neu anfon e-bost i stratanddevelop@caerffili.gov.uk.
Am ragor o wybodaeth am ddatblygiadau unigol, cysylltwch â'r gymdeithas dai yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r manylion isod:
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01443 863121 neu e-bostio
stratanddevelop@caerffili.gov.uk