Beth yw Credyd Cynhwysol?

Cyflwynwyd Credyd Cynhwysol ym mwrdeistref sirol Caerffili ar 5 Medi 2018.

Bydd angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol os ydych ar incwm isel neu’n ddi-waith. Mae hwn yn lle: 

  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio am Waith (yn seiliedig ar incwm)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
  • Credyd Treth PlantCredyd Treth Gwaith

Mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys un taliad a fydd yn helpu gyda'ch costau tai os ydych yn  gyfrifol am dalu rhent am ble rydych chi'n byw.

Serch hynny, gallech ddal hawlio Budd-daliadau Tai am gymorth gyda’ch rhent os:  

  • ydych yn byw mewn llety dros dro, penodol neu a gefnogir neu
  • ydych yn oedran pensiwn y wladwriaeth 

I wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai, ewch i’n  isadran hawlio.

Am ymholiadau cysylltwch â’r  is-adran budd-daliadau tai.

Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.understandinguniversalcredit.gov.uk/new-to-universal-credit/is-it-for-me/.

Contact us