Diwygio Lles

Ar 8 Mawrth, 2012 cymeradwywyd Deddf Diwygio Lles Llywodraeth y DU. Mae'r newidiadau a gyflwynwyd i les wedi'u cynllunio er mwyn symleiddio'r system budd-daliadau ac annog pobl i mewn i gyflogaeth.

Mae terfyn ar faint o fudd-dal y gall y rhan fwyaf o bobl rhwng 16 a 64 eu derbyn. Gelwir hyn yn 'cap budd-dal'. Am wybodaeth bellach am y cap budd-daliadau, gan gynnwys cyfrifiannell cap budd ewch i wefan GOV.UK.

Budd-daliadau Tai

Yn dibynnu ar p'un a ydych chi'n denant preifat neu denant y cyngor neu gymdeithas tai, mae budd-daliadau tai yn cael eu talu gan ddefnyddio dau gynllun gwahanol:

  • Tenantiaid yn y sector rhentu preifat - Os ydych yn denant preifat, telir budd-daliadau tai i helpu gyda thaliadau rhent gan ddefnyddio'r 'Cynllun Lwfans Tai Lleol (LHA)'. Ewch i'n hadran Lwfans Tai Lleol ar gyfer cyfraddau cyfredol.
  • Tenantiaid cyngor neu gymdeithas tai - Os ydych yn rhentu oddi wrth y cyngor neu gymdeithas tai ac yn gwneud cais am fudd-daliadau tai i helpu gyda thaliadau rhent, yna efallai y byddwch yn derbyn gostyngiad mewn budd-dal tai gan ddibynnu ar faint yr eiddo a phwy sydd yn eich teulu. Ewch i'n hadran tan-feddiannaeth am fanylion pellach.

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn gymorth prawf modd sengl newydd i bobl o oedran gweithio sydd ill dau i mewn ac allan o waith. Bydd Credyd Cynhwysol yn cyfuno chwe budd-dal presennol a chredydau treth i mewn i un taliad sengl.

Bydd yn disodli'r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credydau treth gwaith
  • Credydau treth plant
  • Budd-daliadau tai

Yn ddiweddar, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi darparu manylion am ehangiad cenedlaethol y Credyd Cynhwysol ar draws ardaloedd Canolfannau Gwaith. Mae Credyd Cynhwysol yn dod i fwrdeistref sirol Caerffili ar 5 Medi 2018.  Cliciwch yma am fanylion.

I gael rhagor o fanylion am y broses gyflwyno’r Credyd Cynhwysol gallwch ymweld â gwefan GOV.UK neu ymweld â'ch Canolfan Byd Gwaith lleol.

Taliad Annibyniaeth Bersonol

Ers mis Ebrill 2013 mae budd-dal newydd o'r enw Lwfans Taliad Annibyniaeth Bersonol (TAB) wedi cael ei gyflwyno’n raddol i gymryd lle Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer y rhai sy’n 16-64 oed.

Gellir cael mwy o wybodaeth am y Taliad Annibyniaeth Bersonol (TAB) a sut mae'r newidiadau yn cael eu cyflwyno oddi ar wefan GOV.UK.

Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor (CGTC)

Mae darparu cymorth gyda thaliadau treth y cyngor yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, sydd wedi cyflwyno cynllun cenedlaethol o'r enw'r 'Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor' ac mae cyngor Caerffili wedi mabwysiadu hyn.  

Er bod cyllid i gefnogi taliadau treth gyngor ar gyfer y rhai sy'n gymwys gan Lywodraeth y DU wedi cael ei leihau, mae Llywodraeth Cymru wedi cwrdd â'r diffyg hyd at 2015/16. Bydd hyn yn sicrhau y bydd y rhai sy'n gymwys yn parhau i dderbyn hyd at 100% o'r hawliad a gytunwyd ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

I wneud cais am gymorth, ewch i'r adran gwneud cais.

Cronfa Cymorth Ddewisol (CCDd)

Mae'r Gronfa Cymorth Ddewisol (CCDd) yng Nghymru yn disodli rhannau o'r Gronfa Gymdeithasol a gafodd ei rhedeg yn flaenorol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Efallai y byddwch yn fwy cyfarwydd â'r enw 'benthyciadau argyfwng' neu 'grantiau gofal cymunedol'.

Gallwch wneud cais am daliad CCDd os nad oes gennych unrhyw ffordd arall o dalu am yr hyn yr ydych ei angen. Maent i dalu costau un-tro yn hytrach na threuliau parhaus.

Mae'r gronfa yn cynnig taliadau grant neu gymorth at ddau bwrpas:

  • Taliadau Cymorth Brys er mwyn darparu cymorth mewn argyfwng neu pan mae bygythiad uniongyrchol i iechyd neu les chi neu rywun yn eich teulu. 
  • Taliadau cymorth unigol i'ch helpu chi neu rywun rydych yn gofalu amdano i fyw'n annibynnol yn y gymuned ac atal yr angen am ofal sefydliadol.

I gael rhagor o wybodaeth a sut i wneud cais, ewch i'n wefan Taliadau Cymorth Ddewisol.

Cysylltwch â ni