Bin gwyrdd neu ddu
Defnyddiwch eich bin gwyrdd (neu weithiau bin du) ar gyfer y sbwriel na allwch ei ailgylchu na’i gompostio. Caiff ei wagio bob bob pythefnos.
Gofyn am fin olwynion, blwch neu sach gwastraff yr ardd newydd
Gall y bin gael ei ddefnyddio i waredu’r eitemau canlynol:
- Cewynnau tafladwy (Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth casgliad gwastraff cewynnau ychwanegol ar gyfer teuluoedd mwy o faint. Ewch i adran casglu gwastraff cewynnau am fanylion.)
- Gwydr wedi’i dorri
- Bagiau siopa
- Teganau wedi’u torri
- Olew coginio
- Polisteirin
- Ffilm plastig
- Gwastraff anifeiliaid anwes
- Lludw oer
Peidiwch â defnyddio’r bin hwn ar gyfer:
- Dillad
- Unrhyw beth y gellir ei gompostio
- Gwastraff bwyd
- Gwastraff gardd
- Cerrig, rwbel, pridd neu ddeunyddiau adeiladu
- Darnau ceir neu fatris
- Olew injan, paent neu gemegau
- Canghennau coed
- Deunyddiau asbestos
- Lludw poeth
- Unrhyw beth sy’n rhy fawr i’w roi yn y bin
- Gwastraff clinigol neu nodwyddau hypodermig
Angen bin newydd?
Os yw'ch bin olwynion ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi, neu os ydych wedi symud i mewn i eiddo ac nid oes biniau yno, gallwch eu prynu ar-lein. Gofyn am fin olwynion, blwch neu sach gwastraff yr ardd newydd .
I ble mae’r gwastraff yn mynd?
Mae popeth rydych yn gosod yn y bin hwn yn cael eu cymryd i Viridor, Parc Trident, sef cyfleuster ynni o wastraff Caerdydd. Ewch i adran Prosiect Gwyrdd am fanylion.