Cwestiynau cyffredin Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi

Tacsis

Does dim cyfyngiadau ar geir sy'n cael eu defnyddio fel tacsis ar yr amod eu bod nhw'n cael gwared ar eu gwastraff cartrefi eu hunain.

Bydd angen trwydded ar gerbydau tacsi sydd ag 8 sedd i gael gwared ar eu gwastraff y cartref. Mae'r trwyddedau hyn yn rhad ac am ddim, gyda hawl i chwech y flwyddyn.

Ni chaniateir bysiau mini ar y safle.

Gwastraff masnachol

Nid yw gwastraff masnachol yn cael ei dderbyn yn unrhyw un o'n canolfannau ailgylchu.

Ewch i'n tudalen gwastraff masnachol i gael rhagor o wybodaeth am sut i gael gwared ar eich gwastraff.

Trwyddedau ar gyfer Canolfannau Ailgylchu

A fydd angen trwydded arnaf?

Efallai y bydd angen trwydded arnoch chi gan ddibynnu ar y math o gerbyd rydych chi'n ei yrru.

Ni fydd angen trwydded arnoch chi os ydych chi'n gyrru:

  • car
  • car stad
  • 4x4 caeëdig (lle mae'r gist a'r seddi wedi'u hamgáu o fewn yr un ffrâm ac mae seddau cefn yn eu lle)

Bydd pob ymweliad yn rhad ac am ddim a nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y nifer o weithiau y gallwch chi ymweld.


4x4

Bydd angen i chi gael trwydded os ydych chi'n berchen ar:

  • Fan (3,499kg ac is)
  • Cerbyd amlbwrpas (MPV)
  • Cerbyd gwersylla
  • Cerbyd gyda mwy na saith sedd.

Bydd angen 1 drwydded ar gyfer ceir sy'n tynnu ôl-gerbyd a bydd angen 2 drwydded ar gyfer faniau sy'n tynnuôl-gerbyd.

Ni allwch chi gael mynediad i'r safle os oes gennych chi:

  • gerbyd sy’n 3,500kg a throsodd neu
  • ôl-gerbyd sy’n fwy na 1.8 metr o hyd.

Enghreifftiau yn y llun isod er hwylustod.

Vans, MPV and Campervan

Pa fath o drwydded sydd ei hangen arnaf?

Mae 3 math o drwydded sy’n dibynnu ar y math o wastraff rydych chi'n dymuno cael gwared arno:

Gwastraff y cartref

Mae'r math hwn o wastraff yn dod o gartref neu ardd preswylydd. Mae enghreifftiau o wastraff cartref yn cynnwys dodrefn, carpedi, gwastraff o’r ardd a sbwriel cyffredinol.
Ni fydd gwastraff yn cael ei dderbyn fel gwastraff cartref os yw’n dod o waith:

  • adeiladu
  • dymchwel
  • atgyweirio
  • addasu eiddo.

Mae'r trwyddedau hyn yn rhad ac am ddim, ond maen nhw wedi'u cyfyngu i 6 y flwyddyn.

Gwastraff Adeiladu a Dymchwel

Dyma wastraff sy'n cael ei gynhyrchu o ganlyniad i:

  • adeiladu
  • adnewyddu  
  • dymchwel adeilad a'i gynnwys.

Mae enghreifftiau'n cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • brics,
  • blociau,
  • rwbel,
  • pridd,
  • cerrig,
  • ffenestri,
  • drysau,
  • ystafelloedd ymolchi,
  • unedau cegin ac ati.

Mae tâl yn cael ei godi am y trwyddedau hyn. I gael gwybodaeth am brisiau, ewch i Trwyddedau ar gyfer Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.
Mae'r trwyddedau hyn yn ddiderfyn.

Gwastraff peryglus

Mae gwastraff peryglus yn cael ei ddiffinio fel gwastraff sy’n peri peryg i iechyd y cyhoedd neu’r amgylchedd.

Mae enghreifftiau'n cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • teiars car,
  • tuniau o baent,
  • poteli nwy,
  • bwrdd plastr,
  • asbestos* (*rhaid eu gosod mewn bagiau dwbl / lapio mewn polythen 1000-medr).

Mae cyfyngiadau ar faint o wastraff peryglus sy'n gallu cael ei waredu. Nid yw pob safle yn derbyn gwastraff peryglus.

Mae tâl yn cael ei godi am y trwyddedau hyn. I gael gwybodaeth am brisiau, ewch i Trwyddedau ar gyfer Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

Mae'r trwyddedau hyn yn ddiderfyn.

Sut mae cael trwydded?

Gallwch chi wneud cais ar-lein am drwydded. Neu ffonio 01443 866571.

Gallwch chi hefyd wneud ceisiadau am drwyddedi yn bersonol yn Nhŷ Penallta drwy drefnu apwyntiad. Gallwch chi wneud apwyntiad drwy ffonio 01443 866571

Ni fyddwch chi'n gallu mynychu Tŷ Penallta heb apwyntiad a dim ond taliadau cerdyn sy'n cael eu derbyn os oes tâl yn cael ei godi.

I gael trwydded, bydd angen i chi ddarparu:

  • Dogfen cadarnhau preswylfa (bil cyfleustodau, trwydded deledu, bil treth y cyngor neu lythyr gan y DWP (Adran Gwaith a Phensiynau).
  • Y Ddogfen Cofrestru Cerbyd (V5).

Os ydych chi'n bwriadu benthyg fan i waredu gwastraff cartref, bydd rhaid i chi:

  • ddarparu'r ddogfen V5
  • cadarnhau preswylio
  • rhoi manylion cyswllt y ceidwad cofrestredig
  • a rhoi llythyr awdurdodi gan geidwad cofrestredig y fan.

Os ydych chi'n defnyddio cerbyd wedi'i logi, rhaid i chi hefyd ddarparu'r cytundeb llogi wrth wneud cais am drwydded.

Nid yw cerbydau masnachol ag arwyddion yn cael eu caniatáu ar unrhyw un o'n safleoedd ni.

Allaf ddefnyddio trwydded unrhyw bryd?

Mae yna ddyddiau a slotiau amser dynodedig i ymweld â'n safleoedd ni mewn faniau neu ôl-gerbydau fel y mae'n dangos isod. Bydd rhywun yn gofyn i chi beth fyddai orau gennych chi wrth gael y drwydded.

  • Rhymni – Dydd Llun 2pm tan 4pm a dydd Iau 10am tan 12 canol dydd
  • Aberbargod – Dydd Mercher 2pm tan 4pm a dydd Gwener 10am tan 12 canol dydd
  • Penallta – Dydd Mawrth 2pm tan 4pm a dydd Sadwrn 10am tan 12 canol dydd
  • Penmaen – Dydd Mercher 10am i 12 canol dydd a dydd Iau 2pm tan 4pm
  • Trehir – Dydd Mawrth 10am i 12 canol dydd a dydd Gwener 2pm tan 4pm
  • Y Lleuad Llawn (Crosskeys) – Dydd Llun 10am i 12 canol dydd a dydd Sadwrn 2pm i 4pm

Rhaid defnyddio trwyddedau ar y safle sydd wedi'i ddewis ar y dyddiad a'r amser sydd wedi'i nodi ar y drwydded.

Os byddwch chi'n mynd ar unrhyw adeg neu ddyddiad arall neu i safle arall neu os yw eich trwydded wedi dod i ben, fyddwch chi ddim yn gallu cael mynediad. Os oes angen i chi newid unrhyw un o'r manylion hyn, bydd rhaid i chi gysylltu yn gyntaf i gael cymeradwyaeth.

Rheolau cadarnhau preswylio (Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi)

Beth mae hyn i gyd yn ei olygu?

Bydd angen i breswylwyr ddangos cadarnhad preswylio er mwyn gallu cael mynediad at y canolfannau ailgylchu.

Pryd bydd y rheol ar waith?

Mae’r rheol hon wedi bod ar waith ers dydd Llun 1 Ebrill 2019.

Beth yw pwrpas y gwiriadau hyn?

Er mwyn rheoli faint o draffig sy'n dod i'n 6 safle ni gan bobl sy'n byw y tu allan i'r Fwrdeistref Sirol. Mae'r camddefnydd hwn wedi arwain at y Cyngor yn gorfod talu symiau mawr o arian mewn costau gwaredu ychwanegol. Mae hyn hefyd wedi achosi tagfeydd gan bobl sy'n teithio atom ni o'r tu allan i'n hardal ni.

Pa fath o ddogfen adnabod fydd yn cael ei derbyn?

Bydd angen i chi gyflwyno un o'r dogfennau adnabod canlynol bob tro y byddwch chi'n ymweld ag un o'n safleoedd:

  • Cerdyn trwydded yrru â llun. Mae'r ddogfen hon yn nodi cyfeiriad ac felly'n ei gwneud yn ffordd hawdd o gadarnhau preswylio.
  • Trwydded yrru bapur (hen fersiwn). Bydd angen i chi ddangos eich bil treth y cyngor diweddaraf a'ch pasbort  yn ogystal â hyn.
  •  Os nad oes gennych chi drwydded yrru, gallwch chi ddangos eich Cerdyn Teithio ynghyd â bil Treth y Cyngor diweddar.

A fyddaf yn cael defnyddio'r safleoedd os oes gan fy nogfen adnabod hen gyfeiriad y tu allan i'r Fwrdeistref Sirol?

Na fyddwch. Yn anffodus, bydd rhaid i chi gael dogfen adnabod dilys sy'n dangos eich bod chi'n byw yn y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd. Mae hefyd yn ofyniad cyfreithiol i sicrhau bod eich cyfeiriad chi’n gyfredol ar eich trwydded.

A fyddaf yn gallu defnyddio'r safleoedd gan ddefnyddio trwydded yrru sydd wedi dod i ben?

Na fyddwch. Yn anffodus, mae’n rhaid i'r ddogfen adnabod fod yn ddilys i waredu gwastraff yn ein canolfannau ailgylchu.

Pan fyddaf yn dangos fy nhrwydded yrru, a fydd fy manylion yn cael eu cofnodi a'u storio?

Na fydd. Ni fydd eich manylion yn cael eu cofnodi na'u storio pan fyddwch chi'n cyflwyno'ch dogfen adnabod. Dim ond gwiriad gweledol o’ch trwydded yrru yr ydyn ni’n gofyn amdano.

Mae fy nogfen adnabod yn hen ac nid yw'r cyfeiriad i'w weld yn glir. A allaf ddefnyddio'r safleoedd o hyd?

Na allwch. Yn anffodus, rhaid i'r cyfeiriad a'r llun fod yn glir.

Dim ond y papur sy'n cyd-fynd â'm trwydded sydd gen i. A allaf ddefnyddio'r safleoedd?

Nid yw'r papur sy'n cyd-fynd â thrwydded yrru wedi cael unrhyw statws cyfreithiol ers 8 Mehefin 2015. Fodd bynnag, mae trwyddedau gyrru papur a gafodd eu cyhoeddi cyn 31 Mawrth 2000 dal yn ddilys. Os felly, bydd angen i chi ddod â bil treth y cyngor ynghyd â'r drwydded bapur yn ogystal â'ch pasbort chi.

Beth os nad ydw i'n breswylydd ond mae angen i mi waredu gwastraff ar ran perthynas sy’n byw yn yr ardal ond nad yw’n gyrru? Neu ar gyfer preswylydd oedrannus/anabl?

Byddwn i'n gwrthod mynediad i chi a gofyn i chi gyflwyno'ch cais yn ysgrifenedig i ni.

Bydd angen i chi ddarparu’r canlynol ar gyfer y person rydych chi'n gwaredu gwastraff ar ei ran:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif cofrestru'r cerbyd
  • Bil treth y cyngor diweddaraf

Beth os yw fy nhrwydded wedi'i hanfon i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau/Heddlu?

Gallwch chi ddefnyddio'r safle os oes gennych chi lythyr gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau/Heddlu i ddangos eu bod nhw wedi gofyn am eich trwydded chi. Ewch â chopi o'ch bil Treth y Cyngor diweddaraf chi hefyd.

Beth fydd yn digwydd os ydych chi'n gwrthod mynediad i mi ac rwy'n gadael gwastraff y tu allan i'r safle?

Mae hynny'n anghyfreithlon. Mae gan bob un o'n safleoedd ni deledu cylch cyfyng ac maen nhw'n cael eu goruchwylio 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Bydd unrhyw un sy'n cael ei ddal yn tipio anghyfreithlon yn agored i ddirwy cosb benodedig o £400.

A fyddaf yn gallu cael gwared ar wastraff os ydw i'n byw yn y Fwrdeistref Sirol, ond mae'r gwastraff yn dod o gartref nyrsio/busnes arall?

Dim ond gwastraff y cartref mae ein safleoedd ni’n derbyn. Mae gwastraff o fusnes neu gwmni'n dod o dan wastraff masnachol, sydd wedi'i wahardd ar ein safleoedd. Rydyn ni'n cynnig gwasanaeth casglu gwastraff masnachol wythnosol. Ewch i'n hadran gwastraff masnachol am fanylion.

Ai dyma'r unig gyngor sy'n gofyn am gadarnhau preswylio mewn canolfannau ailgylchu?

Na. Mae cadarnhau preswylio yn gyffredin mewn canolfannau ailgylchu awdurdodau lleol ledled y wlad. Mae gan nifer o’n cynghorau cyfagos reol debyg. 

Cwestiynau cyffredin ynghylch didoli deunydd Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi ymlaen llaw

Beth yw'r amodau newydd?

O 12 Chwefror 2024, bydd yn ofynnol i'r holl drigolion wahanu eu gwastraff a'u deunydd ailgylchu gartref, cyn ymweld ag unrhyw Ganolfan Ailgylchu i Gartrefi.

Cyn ymweld ag unrhyw Ganolfan Ailgylchu i Gartrefi, dylai trigolion wahanu unrhyw ddeunydd nad oes modd ei ailgylchu o'u deunydd ailgylchadwy fel bod eitemau'n gallu cael eu rhoi'n hawdd yn y cynwysyddion cywir yn y ganolfan.

Bydd unrhyw wastraff sy'n cael ei gludo i'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi mewn bagiau hefyd yn cael ei fonitro, a bydd gofyn i drigolion agor y bagiau i sicrhau nad oes unrhyw ddeunyddiau ailgylchadwy y tu mewn.

Pam mae’r polisi hwn wedi’i gyflwyno?

Bydd y polisi hwn, sy’n cyfateb i sut mae llawer o Gynghorau eraill ledled Cymru yn gweithredu, yn ein helpu ni i sicrhau ein bod ni’n cyrraedd targedau ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru.

Gyda dadansoddiad diweddar yn dangos y byddai tua 50% o'n sgipiau gwastraff cyffredinol ni wedi gallu cael eu hailgylchu, bydd y broses newydd hon yn helpu cynyddu'r gyfran o wastraff sy'n cael ei hailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Pryd mae'r polisi'n dechrau?

Chwefror 12 2024

Beth sydd angen i fi ei wneud?

Cyn ymweld ag unrhyw Ganolfan Ailgylchu i Gartrefi, dylai trigolion wahanu unrhyw ddeunydd nad oes modd ei ailgylchu o'u deunydd ailgylchadwy fel bod eitemau'n gallu cael eu rhoi'n hawdd yn y cynwysyddion cywir yn y ganolfan.

Bydd unrhyw wastraff sy'n cael ei gludo i'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi mewn bagiau hefyd yn cael ei fonitro, a bydd gofyn i drigolion agor y bagiau i sicrhau nad oes unrhyw ddeunyddiau ailgylchadwy y tu mewn.

Dim ond eitemau nad oes modd eu hailgylchu fydd yn cael eu gosod yn y sgipiau gwastraff cyffredinol ar y safle.

Sylwch nad yw gwastraff bwyd yn cael ei dderbyn yn unrhyw un o'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi. Dylid gosod cadis ailgylchu gwastraff bwyd y tu allan ar gyfer y gwasanaeth casglu wythnosol.

Beth ydw i'n gallu ei ailgylchu mewn Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi?

Ewch i www.caerffili.gov.uk/canolfannau-ailgylchu i gael gwybodaeth am yr hyn sy'n gallu cael ei ailgylchu yn eich Canolfan Ailgylchu leol chi.

Sylwch nad yw gwastraff bwyd yn cael ei dderbyn yn unrhyw un o'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi. Dylid gosod cadis ailgylchu gwastraff bwyd y tu allan ar gyfer y gwasanaeth casglu wythnosol. I archebu cadi gwastraff bwyd am ddim, ewch i: www.caerffili.gov.uk/gwastraff-bwyd

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ymweld â Chanolfan Ailgylchu i Gartrefi sy'n gallu derbyn eich holl wastraff chi.

Bydd staff ychwanegol yn ein Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi ni i gynorthwyo trigolion sy'n ymweld. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch chi, gofynnwch i unrhyw un o'r gweithwyr, sydd yno i helpu.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eitem benodol, e-bostiwch ailgylchu@caerffili.gov.uk

Beth ydw i'n gallu ei ailgylchu gartref?

Mae gwybodaeth am yr hyn sy'n gallu cael ei ailgylchu gartref ar gael ar y wefan: Canllaw Alffa i Omega.

A fydd y staff ar y safle yn didoli fy magiau ar fy nghyfer i?

Na fydd. Bydd gofyn i drigolion ddidoli eu gwastraff eu hunain. Bydd staff ar gael i ddarparu gwybodaeth ac arweiniad ar yr hyn sydd i'w ddisgwyl.

A fydd y polisi hwn yn cynyddu tipio anghyfreithlon?

Nid yw'r Cyngor yn goddef tipio anghyfreithlon o gwbl. Bydd tîm gorfodi’r Cyngor yn ymchwilio i unigolion nad ydyn nhw'n delio â’u gwastraff mewn modd cyfrifol.

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol. Mae'n gallu golygu'r cosbau canlynol:

  • dirwy ddiderfyn a
  • hyd at 5 mlynedd o garchar.

Nid yw cynghorau sydd wedi cyflwyno gofynion i ddidoli wedi profi cynnydd mewn tipio anghyfreithlon.

A fydd hyn yn achosi rhagor o giwiau?

Bydd didoli eich gwastraff chi cyn ymweld â'r safle yn gwneud eich ymweliad chi'n gyflymach ac yn haws.

Parhewch i ddefnyddio'r gwasanaethau ailgylchu wrth ymyl y ffordd i wneud y mwyaf o'r hyn rydych chi'n gallu ei ailgylchu gartref a lleihau'r angen am deithiau annisgwyl i'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

Sut mae cael cynwysyddion ailgylchu ychwanegol ar gyfer ailgylchu gartref?

Mae modd rhoi deunydd ailgylchu ychwanegol allan ochr yn ochr â'ch bin neu'ch bocs chi mewn bagiau clir yn unig.

Beth fydd yn digwydd os nad ydw i'n didoli fy ngwastraff cyn i mi gyrraedd fy Nghanolfan Ailgylchu i Gartrefi leol?

Os nad ydych chi wedi gwahanu eich eitemau nad oes modd eu hailgylchu oddi wrth eich eitemau ailgylchadwy, neu os bydd ein gweithwyr ni'n dod o hyd i eitemau ailgylchadwy y tu mewn i'ch bagiau chi wrth eu hagor, ni fydd modd i chi gael gwared ar eich eitemau a bydd gofyn i chi adael a dychwelyd gyda'ch eitemau wedi'u gwahanu.

Sut ddylwn i gludo fy ngwastraff?

Er hwylustod, rydyn ni'n argymell dod ag eitemau ailgylchadwy i Ganolfannau Ailgylchu i Gartrefi mewn cynwysyddion sy'n gallu cael eu hailddefnyddio.

Mae modd cludo gwastraff mewn bagiau, fodd bynnag, bydd y rhain yn cael eu monitro, a bydd gofyn i drigolion agor y bagiau i sicrhau nad oes unrhyw ddeunyddiau ailgylchadwy y tu mewn.

Os oes modd ailgylchu eitem, ond nid yn fy Nghanolfan Ailgylchu i Gartrefi leol, beth ddylwn i ei wneud?

Mae ein safleoedd ni wedi'u cynllunio i dderbyn amrywiaeth o ddeunyddiau ailgylchadwy o'r cartref, fodd bynnag, nid yw pob safle'n gallu derbyn yr holl ddeunyddiau. Sicrhewch eich bod chi'n ymweld â Chanolfan Ailgylchu sy'n gallu derbyn eich holl wastraff.

Mae rhestr o’r hyn mae pob Canolfan Ailgylchu i Gartrefi yn gallu ei dderbyn ar gael yn: www.caerffili.gov.uk/canolfannau-ailgylchu

Mewn amgylchiadau annhebygol pan fydd gennych chi ddeunydd ailgylchadwy nad yw'n cael ei dderbyn yn unrhyw un o'n Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi, bydd ein cynorthwywyr ar y safle yn rhoi cyngor ar opsiynau eraill lle bo'n bosibl ac, mewn amgylchiadau lle mae'r ceisiadau'n fwy cymhleth, bydd y tîm rheoli gwastraff yn gallu rhoi cyngor ar sut i ymdrin â rhai o'r eitemau/cemegau/cynhyrchion sy'n anoddach i'w gwaredu.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr eitem benodol hon, e-bostiwch ailgylchu@caerffili.gov.uk