Cwestiynau cyffredin Defnyddio faniau a threlars yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
C1. A fydd angen trwydded arnaf?
Efallai y bydd angen trwydded arnoch chi yn dibynnu ar y math o gerbyd rydych chi'n ei yrru.
Os ydych chi'n gyrru car, car stad neu 4x4 caeedig (lle mae'r gist a'r seddi wedi'u hamgáu o fewn yr un ffrâm, gweler y llun isod), ni fydd angen trwydded arnoch chi. Bydd pob ymweliad yn parhau i fod yn rhad ac am ddim ac, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y nifer o weithiau y gallwch chi ymweld.
Bydd gofyn i chi gael trwydded os ydych chi'n berchen ar:
- Fan (3,499kg ac is)
- Cerbyd amlbwrpas (MPV)
- Cerbyd gwersylla
- Cerbyd gyda mwy na phum sedd.
Bydd angen 1 drwydded ar gyfer ceir sy'n tynnu trelar a bydd angen 2 drwydded ar gyfer faniau sy'n tynnu trelar.
Ni fydd unrhyw gerbyd sy’n 3,500kg a drosodd neu drelar sy’n fwy na 1.8 metr o hyd yn gallu cael mynediad i’r safleoedd mwyach.
C2. Pa fath o drwydded sydd ei angen arnaf?
Mae 3 math o drwydded yn dibynnu ar y math o wastraff rydych chi'n dymuno cael gwared arno:
Gwastraff y cartref
Mae gwastraff y cartref yn cael ei ddiffinio fel gwastraff o gartref a gardd y preswylydd nad yw wedi dod o unrhyw waith adeiladu, dymchwel, atgyweirio neu addasu cartref (e.e. dodrefn, carpedi, gwastraff gardd, sbwriel arferol). Mae'r trwyddedau hyn yn rhad ac am ddim, fodd bynnag, maen nhw wedi'u cyfyngu i 6 y flwyddyn.
Gwastraff adeiladu a dymchwel
Mae gwastraff adeiladu a dymchwel yn cael ei ddiffinio fel deunydd gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu yn y broses o adeiladu, adnewyddu neu ddymchwel adeilad a'i gynnwys. Mae enghreifftiau'n cynnwys brics/blociau, rwbel, pridd, cerrig, ffenestri, drysau, ystafelloedd ymolchi, unedau cegin ac ati. Mae tâl yn cael ei godi ar gyfer y trwyddedau hyn. A gall chwilio am prisiau ar Trwyddedau ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Mae'r trwyddedau hyn yn ddiderfyn.
Gwastraff peryglus
Mae gwastraff peryglus yn cael ei ddiffinio fel gwastraff sy’n peri peryg sylweddol neu bosibl i iechyd y cyhoedd neu’r amgylchedd. Mae cyfyngiadau ar faint o wastraff peryglus sy'n gallu cael ei waredu ar safleoedd ac nid yw pob safle yn derbyn gwastraff peryglus. Mae enghreifftiau yn cynnwys teiars car, tuniau o baent, poteli nwy, bwrdd plastr ac asbestos* (*rhaid eu gosod mewn bagiau dwbl / lapio mewn polythen 1000-medr).
Mae tâl yn cael ei godi am y trwyddedau hyn. A gall chwilio am prisiau ar Trwyddedau ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Mae'r trwyddedau hyn yn ddiderfyn. Mae'r trwyddedau hyn yn ddiderfyn.
Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol.
C3. Sut mae cael trwydded?
Gallwch chi wneud ceisiadau am drwyddedi yn bersonol yn Nhŷ Penallta drwy drefnu apwyntiad. Gallwch chi wneud apwyntiad drwy ffonio 01443 866533 neu e-bostio RhPC@caerffili.gov.uk.
Yn ogystal, gallwch chi ofyn am drwydded ar-lein.
Ni fyddwch chi'n gallu mynd i Dŷ Penallta heb apwyntiad a dim ond mae rhaid talu unrhyw daliadau gyda cherdyn os mae tâl yn cael ei godi.
I gael trwydded, bydd angen i chi ddarparu'r ddau:
- Prawf preswyl (bil cyfleustodau gan gynnwys dŵr, nwy a thrydan neu drwydded deledu, bil treth y cyngor neu lythyr gan y DWP (Adran Gwaith a Phensiynau).
- Y Ddogfen Cofrestru Cerbyd (V5).
Os ydych chi'n bwriadu benthyg fan i waredu gwastraff cartref, rhaid i chi:
- darparu'r ddogfen V5
- prawf preswyl
- manylion cyswllt y ceidwad cofrestredig
- a llythyr awdurdodi gan geidwad cofrestredig y fan.
- Os ydych chi'n defnyddio cerbyd wedi'i logi, rhaid i chi hefyd ddarparu'r cytundeb llogi wrth wneud cais am drwydded.
Nid yw cerbydau masnachol ag arwyddion yn cael eu caniatáu ar unrhyw un o'n safleoedd ni.
C4. Allaf ddefnyddio trwydded unrhyw bryd?
Mae yna ddyddiau a slotiau amser dynodedig i ymweld â'n safleoedd ni mewn faniau neu drelars fel y mae'n dangos isod. Bydd rhywun yn gofyn i chi beth fyddai orau gennych chi wrth gael y drwydded.
- Rhymni – Dydd Llun 2pm tan 4pm a dydd Iau 10am tan 12 canol dydd
- Aberbargod – dydd Mercher 2pm tan 4pm a dydd Gwener 10am tan 12 canol dydd
- Penallta – Dydd Mawrth 2pm tan 4pm a dydd Sadwrn 10am tan 12 canol dydd
- Penmaen – Dydd Mercher 10am i hanner dydd a dydd Iau 2pm tan 4pm
- Trehir – Dydd Mawrth 10am i hanner dydd a dydd Gwener 2pm tan 4pm
- Y Lleuad Llawn (Crosskeys) – Dydd Llun 10am i 12 canol dydd a dydd Sadwrn 2pm i 4pm
Rhaid defnyddio trwyddedau ar y safle sydd wedi'i ddewis ar y dyddiad a'r amser sydd wedi'i nodir ar y drwydded.
Os byddwch chi'n mynd ar unrhyw adeg neu ddyddiad arall neu i safle arall neu os yw eich trwydded wedi dod i ben, byddwch chi ddim yn gallu cael mynediad. Os oes angen i chi newid unrhyw un o'r manylion hyn, rhaid i chi gysylltu yn gyntaf i gael cymeradwyaeth.