Y rheol profi lle'r ydych yn byw ar safleoedd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

O 1 Ebrill 2019, bydd rhaid i drigolion ddangos trwydded yrru ddilys i gael mynediad i’r  Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Mae ein safleoedd yn cael eu camddefnyddio gan bobl nad ydynt yn byw ym mwrdeistref sirol Caerffili. Mae cael gwared ar y  gwastraff ychwanegol hwn yn costio llawer o arian i Gyngor Caerffili.

Os nad ydych yn byw ym mwrdeistref sirol Caerffili, bydd angen i chi ddefnyddio’r safleoedd yn eich ardal.

Caerdydd
029 2087 2087

CAGC Ffordd Lamby, Tredelerch, CF3 2HP
CAGC Clos Bessemer, Lecwydd, CF11 8XH

Merthyr Tudful
01685 725000

CAGC Aber-fan, Heol Aber-fan, Aber-fan, CF48 4QE
CAGC Dowlais, Y Bont, Hen Heol Gellifaelog, CF48 3DA

Blaenau Gwent
01495 311556

CAGC Cwm Newydd, Glynebwy, NP23 6PL

Rhondda Cynon Taff Canolfannau  Ailgylchu yn y  Gymuned
01443 494700

Tŷ Amgen, Llwydcoed, Aberdâr, CF44 0BX Glynrhedynog, North Road, Glynrhedynog, CF43 4RS
Dinas, Cymmer Road, Dinas, CF39 9BL
Tŷ Glan-taf, Taffs Fall Road, CF37 5TT
Y Gelli, Nantygwyddon Road, Y Gelli, CF41 7TL
Llantrisant, Heol Pant-y-brad, CF72 8YT
Treherbert, Ystad Ddiwydiannol Treherbert, CF42 5HZ

Torfaen
01495 762200

CAGC, Ffordd Panteg, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl, NP4 0LS

Casnewydd
01633 656 656

CAGC Casnewydd, Ffordd y Dociau, Casnewydd, NP20 2NS

Cwestiynau Cyffredin

Beth mae hyn i gyd yn ei olygu? 

Bydd yn rhaid i drigolion sy'n gwaredu gwastraff y cartref mewn unrhyw un o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Bwrdeistref Sirol Caerffili brofi eu bod yn byw yn y fwrdeistref er mwyn defnyddio'r cyfleusterau. 

Pryd mae'n dod i rym? 

O ddydd Llun 1 Ebrill 2019. 

Beth yw diben y gwiriadau hyn?

Diben y gwiriadau hyn yw rheoli'r swm sylweddol o draffig sy'n dod i'n 6 safle gan bobl sy'n byw y tu allan i fwrdeistref sirol Caerffili. O ganlyniad i'r camddefnyddio hwn o'n safleoedd, bu'n rhaid i'r Cyngor dalu cannoedd o filoedd o bunnoedd o daliadau gwaredu ychwanegol ac mae'r camddefnyddio hwn hefyd wedi achosi tagfeydd diangen gan bobl sy'n teithio atom o'r tu allan i'n hardal. 

Pa fath o brawf adnabod fydd yn cael ei dderbyn?


Bydd angen i chi gyflwyno un o'r dogfennau adnabod canlynol bob tro y byddwch chi'n ymweld ag un o'n safleoedd:

  • Trwydded yrru cerdyn-llun. Mae'r ddogfen hon yn nodi cyfeiriad ac felly'n ei gwneud yn ffordd ymarferol, effeithlon ac effeithiol o wirio man preswylio
  • Trwydded yrru bapur. Bydd angen i chiddangos eich bil Treth y Cyngor diweddaraf a'ch pasbort gyda hyn
  • Os nad oes gennych drwydded yrru, gallwch gyflwyno'ch Cerdyn Teithio Rhatach (pàs bws) ynghyd â bil treth y cyngor diweddar sy'n dangos eich cyfeiriad cyfredol.

A fyddaf yn cael defnyddio'r safleoedd os mai hen gyfeiriad y tu allan i fwrdeistref sirol Caerffili sydd ar fy mhrawf adnabod? 

Na fyddwch. Yn anffodus, bydd yn rhaid i chi gael prawf adnabod dilys sy'n dangos eich bod yn byw ar hyn o bryd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae hefyd yn ofyniad cyfreithiol i sicrhau bod eich cyfeiriad yn gyfredol ar eich trwydded. 

A fyddaf yn gallu defnyddio'r safleoedd gan ddefnyddio trwydded yrru sydd wedi dod i ben?

Na fyddwch. Yn anffodus, mae'n rhaid i'r prawf adnabod fod yn ddilys i waredu gwastraff yn ein canolfannau ailgylchu.

Pan fyddaf yn dangos fy nhrwydded yrru, a fydd fy manylion yn cael eu cofnodi a'u storio?

Na fydd. Ni fydd eich manylion yn cael eu cofnodi na'u storio pan fyddwch yn cyflwyno'ch prawf adnabod.  Rydym ond yn gofyn i weld eich trwydded yrru i brofi eich bod yn byw ym mwrdeistref sirol Caerffili.

Mae fy mhrawf adnabod yn hen ac nid yw'r cyfeiriad i'w weld yn glir. A allaf ddefnyddio'r safleoedd o hyd?

Na allwch. Yn anffodus, rhaid i'r cyfeiriad a'r llun fod yn weladwy. 

Dim ond y papur sy'n cyd-fynd â'm trwydded sydd gennyf. A allaf ddefnyddio'r safleoedd?

Nid yw'r papur sy'n cyd-fynd â thrwydded yrru wedi cael unrhyw statws cyfreithiol ers 8 Mehefin 2015. Fodd bynnag, mae trwyddedau gyrru papur a gyhoeddwyd cyn 31 Mawrth 2000 yn dal yn ddilys.  Os felly, bydd angen i chi ddod â bil treth y cyngor ynghyd â'r drwydded bapur ynghyd â'ch pasbort.

Beth os nad wyf yn byw ym mwrdeistref sirol Caerffili ond mae angen i mi waredu gwastraff ar ran perthynas sy'n byw yn yr ardal ond nid yw'n gyrru? Neu ar gyfer trigolyn oedrannus/anabl?

I ddechrau, gwrthodir mynediad i chi a gofynnir i chi gyflwyno'ch cais yn ysgrifenedig i ni.  Bydd angen i chi ddarparu enw a chyfeiriad y person yr ydych yn gwaredu gwastraff ar ei ran, ynghyd â'i fil Treth y Cyngor diweddaraf. Bydd angen i chi hefyd roi eich enw, cyfeiriad a rhif cofrestru eich cerbyd. 

Beth os caiff fy nhrwydded ei hanfon i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau/Heddlu?

Gallwch ddefnyddio'r safle os oes gennych lythyr gan y Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau/Heddlu i ddangos eu bod wedi gofyn am eich trwydded yn ogystal â chopi o'ch bil Treth y Cyngor diweddaraf

Beth fydd yn digwydd os gwrthodir mynediad i mi ac rwy'n gadael gwastraff y tu allan i'r safle?

Mae hynny'n anghyfreithlon. Mae gan bob un o'n safleoedd deledu cylch cyfyng ac maent yn cael eu goruchwylio 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Bydd unrhyw un sy'n cael ei ddal yn tipio anghyfreithlon yn agored i ddirwy cosb benodedig o £400.

A fyddaf yn gallu gwaredu gwastraff os ydw i'n byw yn y fwrdeistref ond mae'r gwastraff yn dod o gartref nyrsio/busnes arall?

Mae ein safleoedd yn derbyn gwastraff y cartref yn unig. Mae gwastraff o fusnes neu gwmni'n dod o dan wastraff masnachol, sydd wedi'i wahardd ar ein safleoedd. Mae'r cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff masnachol wythnosol. Ewch i'n hadran gwastraff masnachol am fanylion.

Ai bwrdeistref sirol Caerffili yw'r unig cyngor sy'n gofyn i brofi lle'r ydych yn byw mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref? 

Nage. Mae profi lle'r ydych yn byw yn gyffredin mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref mewn awdurdodau lleol ledled y wlad. Mae gan nifer o'n cynghorau cyfagos reol debyg.

Cysylltwch â ni