Wardeiniaid Cyngor ar Wastraff

Mae gennym dîm o Wardeiniaid Cyngor ar Wastraff yn gweithio yn y fwrdeistref sirol sy’n ceisio annog mwy o'r trigolion i ailgylchu.

Drwy annog, cynorthwyo a chynghori pobl ar beth i’w wneud â’u gwastraff, gobeithio y gallwn gael cynifer o bobl â phosibl i ailgylchu, a lleihau’n sylweddol y gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.

Mae gan y wardeiniaid y pŵer i gyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig i gartref sy’n methu ag ailgylchu’n gyson ac sy’n cyflwyno gormod o wastraff. Rhoi dirwyon yw’r peth olaf a wnawn, pan fydd annog a chynorthwyo’r preswylwyr wedi methu.

I sicrhau bod pobl yn ailgylchu, bydd wardeiniaid yn:

  • Monitro lefelau ailgylchu a mynd i gartrefi nad ydynt yn ailgylchu
  • Codi ymwybyddiaeth, addysgu, cefnogi a chynnig arweiniad o ran ailgylchu a gwastraff i drigolion ac ysgolion
  • Cyflawni gweithdrefnau gorfodi sy’n cynnwys system rybuddio â rhybudd cyntaf, ail rybudd a rhybudd terfynol, a fydd yn cael eu cyflwyno i unrhyw un sy’n methu’n gyson i ailgylchu
  • Arolygu biniau gwastraff o fewn 3 mis i gyflwyno’r rhybudd cyntaf i sicrhau bod y pethau cywir yn cael eu rhoi ym mhob cynhwysydd
Cysylltwch â ni