Gwaredu gwastraff hylendid

Rydyn ni'n cynnig gwasanaeth casglu am ddim os ydych chi'n cynhyrchu gwastraff hylendid oherwydd cyflwr meddygol.

Gwasanaeth casglu bob pythefnos yw'r gwasanaeth gwastraff hylendid. Byddwn ni'n casglu eich gwastraff hylendid ynghyd â'ch gwastraff cyffredinol.

Gallwch chi roi eich gwastraff hylendid yn eich bin gwastraff cyffredinol os oes gennych chi ddigon o le. 

Gwneud cais am gasgliad gwastraff hylendid
 
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Talerau ac Amodau

  • Dim ond ceisiadau sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd y byddwn ni'n eu prosesu. Bydd y rhai sydd ddim yn bodloni’r meini prawf yn cael eu diystyru.
  • Rhesymau efallai y caiff eich cais ei wrthod:
    • Nid yw'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd
    • Mae digon o le yn eich bin gwastraff cyffredinol ar gyfer y gwastraff ychwanegol
  • Mae wedi'i adolygu yn unol â'n polisi adolygu hylendid (bob 3 mis)
  • Os ydych yn gymwys i gael bin ychwanegol, mae hwn ar gyfer gwastraff hylendid yn unig
  • Mae'n bosibl y bydd ymweliad â'r safle yn cael ei gynnal i ddilysu'r cais
  • Efallai y bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi'ch cais

Ar ôl cyflwyno eich cais, ni fydd modd ei newid.

Cysylltwch â ni