Household asbestos
Y ffordd fwyaf diogel o waredu asbestos o’ch cartref yw drwy logi contractwr arbenigol. Ond, oherwydd y gost neu’r gwaith, mae’n bosibl y byddwn yn dewis ei wneud eich hun.
I gael cyngor ar drin gwastraff asbestos, cysylltwch â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu Cyfoeth Naturiol Cymru.
Lle i waredu asbestos
Gallwch waredu hyd at chwe bag o asbestos cartref yn un o’r safleoedd canlynol AM DDIM:
- Stâd Ddiwydiannol Bowen, Aberbargod
- Stâd Ddiwydiannol Penallta
- Gorsaf Drosglwyddo’r Lleuad Lawn, Crosskeys
- Safle Amwynder Dinesig Trehir
Sicrhewch fod yr asbestos wedi cael ei fagio ddwywaith mewn polythen trwch 1000 neu wedi'i lapio ddwywaith mewn polythen trwch 1000 a'ch bod yn hysbysu goruchwyliwr y safle bod y bagiau'n cynnwys asbestos. Yna, dangosir i chi pa gynhwysydd i'w ddefnyddio.
Mae newidiadau wedi'u cyflwyno i faniau bach a threlars bach i waredu gwastraff cartref yn unrhyw un o’n safleoedd dinesig.
Gwasanaeth casglu
Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu y codir tâl amdano ar gyfer asbestos o eiddo domestig yn y fwrdeistref sirol.
Mae’r gwasanaeth yn cynnwys y casgliad, selio’r dalenni, a chludo’r asbestos i sgip storio wedi’i selio i’w waredu mewn swmp mewn safle tirlenwi trwyddedig i wastraff peryglus.
Gwneud cais am gasglu asbestos >
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!
Cyn i ni gasglu’r asbestos, byddwn yn trefnu i swyddog ymweld â chi, arolygu’r deunydd a rhoi dyfynbris i chi. Os ydych yn fodlon ar y dyfynbris, byddwn yn rhoi gwybod i chi sut i dalu ac i drefnu’r casgliad.
Gallwch dalu â cherdyn credyd/debyd dros y ffôn, neu dalu ag arian parod yn unrhyw un o'n swyddfeydd arian.
Y nod yw casglu’r asbestos ymhen 10 diwrnod gwaith o gael y taliad.
Cofiwch:
- Bydd yn rhaid i chi adael yr asbestos y tu allan i’ch eiddo. Ni fyddwn yn dod i’ch eiddo i’w nôl. Wrth ofyn am y casgliad, cewch wybod y lle mwyaf addas i adael yr asbestos yn dibynnu ar y math o eiddo sydd gennych.
- Ni allwn roi ad-daliad i chi os byddwch yn canslo casgliad heblaw os byddwch yn gwneud hynny o leiaf 48 awr cyn y casgliad a drefnwyd.
- Nid oes consesiynau nac eithriadau ar gael.