Gwastraff bwyd - A yw’ch bin yn pechu?
A yw’ch cadi bwyd yn un sy'n pechu?
Rydyn ni i gyd yn cynhyrchu gwastraff bwyd yn y cartref, mae llawer o hynny’n anochel a gallwch ei lleihau gyda newidiadau syml i'n harferion siopa a all hefyd mewn gwirionedd arbed arian. Ond pan gaiff ei ailgylchu, gall gwastraff bwyd cael ei droi'n rhywbeth defnyddiol.
Mae gwastraff bwyd a gynhyrchir ym mwrdeistref sirol Caerffili yn mynd drwy broses sy'n cynhyrchu compost. Ar hyn o bryd, mae llai na hanner y trigolion yn cymryd rhan yn y cynllun casglu gwastraff bwyd wythnosol ac mae'r cyngor yn amcangyfrif bod yn agos at 7,000 tunnell fetrig o wastraff bwyd yn cael eu rhoi mewn biniau sbwriel gwyrdd am gost o bron i hanner miliwn o bunnoedd y flwyddyn!
Petai bob cartref yn cymryd rhan mewn casglu gwastraff bwyd, gallai'r cyngor arbed bron i £200,000 y flwyddyn a fyddai'n helpu amddiffyn gwasanaethau rheng flaen eraill.
Caiff eich bin gwastraff bwyd ei gasglu BOB WYTHNOS wrth ymyl y ffordd, fel ei fod yn osgoi cael ei adael ar gyfer y casgliad gwastraff bob pythefnos.
Cnoi cil
Dylai bod gan bob aelwyd dau gynhwysydd ar gyfer gwastraff bwyd; cadi bychan i gadw yn eich cegin a chadi mwy o faint i storio y tu allan,
Mae ailgylchu'ch gwastraff bwyd mor hawdd!
- Leiniwch eich bin cegin gyda leinin compostadwy neu bapur newydd. Gallwch hyd yn oed roi'r gwastraff bwyd yn syth i mewn i'r bin gwastraff bwyd - gwnewch beth bynnag sy’n gweithio i chi
- Pryd bynnag mae angen i chi wagio’ch cadi cegin, clymwch ben y leinin neu lapiwch y papur newydd a'i roi yn eich bin gwastraff bwyd tu allan
- Cofiwch - mae gan eich bin gwastraff bwyd handlen y gellir ei gloi
Mae’ch ailgylchu gwastraff bwyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol - felly diolch i chi! Rydym yn gwneud yn dda iawn ar hyn o bryd gyda chyfraddau ailgylchu yn fwy na 60%, ond mae angen i ni wneud mwy.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau sy'n gofyn i ni ailgylchu o leiaf 64% erbyn 2019/20 a 70% erbyn 2024/25. Gellir cyflawni hyn os bydd pawb yn cymryd rhan a gallwn osgoi dirwyon o hyd at £1 miliwn, y gellir eu defnyddio i gynnal ein gwasanaethau rheng flaen hanfodol.
Cofiwch - Mae'n well ailgylchu gwastraff bwyd bob wythnos yn hytrach na’i waredu yn y bin sbwriel, sy'n cael ei gasglu bob pythefnos. Mae'n bwysig cofio na ddylai gwastraff bwyd cael ei roi yn y bin ailgylchu brown. Gall gosod deunyddiau amhriodol yn y cynhwysydd ailgylchu arwain at erlyniad.
I wneud cais am gadi gwastraff bwyd AM DDIM neu i wirio’ch diwrnod casglu gwastraff bwyd, ffoniwch y tîm ar 01443 866533 neu ewch i'r Adran Gwastraff Bwyd.