Graffiti a phosteri anghyfreithlon
Mae graffiti yn weithgarwch gwrthgymdeithasol sy’n creu delwedd negyddol o ardal ac sy’n cyfrannu at ofn pobl o droseddau.
Rydym yn gyfrifol am lanhau graffiti oddi ar adeiladau ac eiddo y mae’r cyngor yn berchen arnynt. Nid ydym yn gyfrifol am lanhau graffiti oddi ar adeiladau ac eiddo preifat.
Mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Prawf, mae CBSC Saffach yn dîm sy’n gyfrifol am ddatblygu mentrau newydd i leihau troseddau, anrhefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, sy’n cynnwys glanhau graffiti.
Rhoi gwybod i ni am graffiti a phosteri anghyfreithlon
Os byddwch yn darganfod graffiti, rhowch wybod i ni amdano.
Rhoi gwybod i ni am graffiti a phosteri anghyfreithlon >
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!
Fel arall, gallwch gysylltu â’r adran Strategaeth a Gweithrediadau Gwastraff.
Gellir erlyn unrhyw un sy’n cael eu dal yn achosi graffiti o dan Ddeddf Difrod Troseddol 1971. Os yw’r difrod yn llai na £5,000 y ddirwy uchaf yw £5,000. Gellir rhoi gorchymyn gwasanaeth cymunedol i droseddwyr ifanc.