Tipio anghyfreithlon
Tipio anghyfreithlon yw gadael gwastraff hylifol neu solet yn anghyfreithlon ar dir neu mewn dŵr. Fel arfer, mae gwastraff yn cael ei adael i osgoi costau gwaredu.
Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd difrifol. Mae'n gallu golygu'r cosbau canlynol:
- dirwy ddiderfyn a
- hyd at 5 mlynedd o garchar.
Peidiwch â gwneud y canlynol:
- Cyffwrdd â'r gwastraff. Gall gynnwys gwastraff peryglus (er enghraifft cemegau gwenwynig, asbestos a gwydr wedi torri).
- Amharu ar y safle. Gall fod tystiolaeth a all arwain at olrhain y troseddwyr ac erlyn.
- Mynd at unrhyw un y gallwch chi ei weld sy'n tipio'n anghyfreithlon.
Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon
Rhowch wybod am dipio anghyfreithlon drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Neu ffonio 01443 866533.
Mae gennym ni dîm o swyddogion gorfodi sy'n ymateb i achosion o dipio anghyfreithlon. Byddan nhw'n chwilio am dystiolaeth, yn siarad â thystion ac yn erlyn y troseddwyr.
Mae gan y Cyngor bolisi dim goddefgarwch o ran tipio gwastraff.
Rhowch Wybod Nawr