FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Nid yw rhai o'n ffurflenni ar-lein ar gael ar hyn o bryd wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

ONLINE FORMS: Some of our online forms are currently unavailable whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Erlyniadau

Stay Connected

Gallwch nawr gofrestru ar gyfer rhybuddion e-bost i gael gwybod am erlyniadau diweddaraf iechyd yr amgylchedd a safonau masnach. Rydym hefyd yn cynnig tanysgrifiadau i wasanaethau a newyddion eraill y cyngor.

Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod y fwrdeistref sirol yn lle iach, diogel a theg i bobl fyw a gweithio ynddi, gyda lefelau is o droseddau, anrhefn ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

Rydym yn cymryd camau i godi ymwybyddiaeth ac yn cydweithio’n agos gyda masnachwyr lleol i sicrhau eu bod yn deall beth mae’r gyfraith yn ei ddisgwyl ganddynt hwy a’u bod yn cydymffurfio â’u holl rwymedigaethau cyfreithiol.

Rydym yn datgelu ac yn dwyn achos llys yn erbyn yr unigolion a’r busnesau hynny y byddwn yn canfod eu bod yn gweithredu’n anghyfreithlon. Nid ydym yn penderfynu erlyn yn ysgafn, a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’r cyhoedd a darparu chwarae teg i fusnesau cyfreithlon i fasnachu yn y fwrdeistref sirol.

Byddwn hefyd yn gweithredu yn erbyn pobl sy’n gwerthu alcohol y canfuwyd eu bod yn torri amodau eu trwydded neu os nad ydynt yn cynnal amcanion y Ddeddf Drwyddedu, a deddfwriaethau eraill, drwy alw am adolygiad o’r drwydded gan y Pwyllgor Trwyddedu.

Erlyniadau safonau masnach (PDF)

Erlyniadau iechyd yr amgylchedd (PDF)