Newid i’r digidol
Paratoi ar gyfer llinellau ffôn digidol
Mae rhwydwaith ffôn y Deyrnas Unedig yn newid. Rhwng nawr a 2027, bydd yr hen linellau tir ffôn analog yn cael eu huwchraddio i wasanaethau llinell dir gan ddefnyddio technoleg ddigidol.
Mae hyn yn golygu erbyn 31 Ionawr 2027, bydd galwadau llinell dir yn cael eu gwneud gan ddefnyddio'r rhyngrwyd yn lle llinellau ffôn traddodiadol. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod yr hen system wedi bod ar waith ers degawdau ac wedi cyrraedd diwedd ei hoes ddefnyddiol.
Beth sydd angen i fi ei wneud?
Trigolion
Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes angen i chi wneud dim nes bod eich darparwr yn dweud wrthych chi fod eich gwasanaeth ffôn yn newid.
I'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr, bydd y newid hwn yn syml. Os oes gennych chi gysylltiad rhyngrwyd eisoes, efallai y bydd y newid mor syml â phlygio'ch ffôn i mewn i'ch llwybrydd band eang yn hytrach na'r soced ar y wal.
Fodd bynnag, os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn dibynnu ar ffôn llinell dir neu wasanaeth sy’n dibynnu arno, fel larwm gofal, larwm mwg neu larwm diogelwch, yna, rydyn ni'n awgrymu eich bod chi'n gwirio gyda darparwr y gwasanaeth i weld beth mae eu cynlluniau ar gyfer y gwasanaeth a phryd maen nhw'n disgwyl i’r newidiadau ddigwydd. Byddan nhw hefyd yn gallu cynghori a fydd angen uwchraddio neu amnewid y ddyfais.
Cyfrifoldeb y darparwr yw sicrhau bod y rhai sy’n dibynnu ar linell dir yn cael ateb cydnerth a fydd yn galluogi cwsmeriaid i wneud galwadau i’r gwasanaethau brys os bydd toriad pŵer, ac mae’r llywodraeth yn gweithio gydag Ofcom i sicrhau mai dyma beth sy'n digwydd.
Busnesau
Nid dim ond eich gwasanaethau ffôn y mae angen i chi feddwl amdanyn nhw. Bydd hyn hefyd yn effeithio ar bopeth arall sy'n defnyddio'r hen rwydwaith ffôn ar hyn o bryd; gweler rhai enghreifftiau isod:
- Eich holl wasanaethau di-lais sy'n gysylltiedig â llinellau Rhwydwaith Ffôn Cyhoeddus Analog (PSTN) neu Rwydwaith Digidol Gwasanaethau Integredig (ISDN).
- Larymau, e.e. adeiladau neu bersonol
- Peiriannau Pwynt Gwerthu Electronig (EPOS).
- Llinellau talu
- Systemau mynediad ar ddrysau
- Teledu Cylch Cyfyng
- Peiriannau ffacsio
- Systemau Rheoli Ynni Adeiladau (BEMS)
Bydd eich darparwr yn gallu cadarnhau pa wasanaethau rydych chi'n eu defnyddio ar hyn o bryd y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnyn nhw.
Oes rhaid i mi gael band eang?
Unwaith bydd yr hen gysylltiad ffôn wedi’i ddiffodd, yn gyffredinol, bydd angen i gwsmeriaid sy’n dymuno parhau i gael ffôn llinell dir ac nad oes ganddyn nhw fand eang eisoes gael cysylltiad band eang addas – mae hyn yn wir hyd yn oed os nad ydyn nhw'n defnyddio gwasanaeth band eang.
Rydyn ni'n disgwyl y bydd gan ddarparwyr amrywiaeth o opsiynau ar gyfer pobl yn y sefyllfa hon, felly, ni ddylai cwsmeriaid gael eu gorfodi i gael pecyn band eang cyflym os nad ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny.
Os oes gennych chi wasanaeth fel larwm gofal, larwm mwg neu larwm diogelwch sy'n defnyddio llinell ffôn ar hyn o bryd, mae'n debygol y bydd angen gwasanaeth band eang. Bydd darparwr y gwasanaeth yn gallu cynghori a fydd angen i chi gael y cysylltiad hwn.
Mewn argyfwng
Mewn argyfwng, ni all llinellau tir digidol gario cysylltiad pŵer annibynnol fel yr hen linellau analog, felly, os bydd toriad pŵer ni fyddan nhw'n gweithio heb bŵer prif gyflenwad.
Mae Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau telathrebu gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau mynediad di-dor at sefydliadau brys ar gyfer eu cwsmeriaid, gan gynnwys mewn achos o doriad pŵer.
Am ragor o wybodaeth:
Mae'r diffodd hwn yn cael ei wneud gan Openreach a'ch darparwr ffôn chi, felly, ni all Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili eich cynorthwyo chi'n uniongyrchol gydag unrhyw ymholiadau.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch darparwr ffôn chi a/neu fynd i brif dudalen Openreach: Llinellau ffôn digidol | Openreach