Adolygu gostyngiad treth y cyngor i berson sengl 

Cwblhewch eich Adolygiad Gostyngiad Person Sengl ar-lein

I gwblhau eich ffurflen adolygu ar-lein

Cadarnheuwch eich manylion presennol drwy glicio ar y ddolen Adolygiad Gostyngiad Person Sengl uchod.  Er mwyn gweld eich ffurflen, bydd angen i chi roi eich rhif PIN unigryw. Gallwch ddod o hyd i’r rhif PIN hwn ar y llythyr rydym wedi'i anfon atoch. 

Mwy o wybodaeth

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwneud adolygiad ar hyn o bryd o drigolion sy’n derbyn gostyngiad o 25% ar eu treth y cyngor.  

Mae Gostyngiad Person Sengl yn cael ei hawlio pan fydd oedolyn yn breswylydd oedolyn sengl mewn eiddo.  Mae’r cyngor yn ymwybodol bod y mwyafrif o drigolion yn hawlio’r gostyngiad yn briodol, ond efallai fod lleiafswm yn hawlio’r gostyngiad yn anghywir.  Efallai nad yw’r trigolion hyn wedi rhoi gwybod am newid i'w hamgylchiadau ac yn derbyn gostyngiad pan nad oes hawl iddynt wneud mwyach. 

Cyn hir, bydd y Cyngor yn anfon llythyr at rhai trigolion sy’n derbyn Gostyngiad Person Sengl yn gofyn iddynt gadarnhau eu hamgylchiadau presennol. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i drigolion rhoi gwybod i'r Cyngor os oes newid wedi bod i'w hamgylchiadau. 

Os na fydd trigolion yn ymateb i’r llythyr hwn, bydd eu Gostyngiad Person Sengl yn cael ei dynnu'n ôl ac efallai bydd angen cynnal archwiliadau pellach. Y ffordd hawsaf i drigolion ymateb yw drwy ddefnyddio'r gwasanaeth negeseuon testun, neu gwblhau ffurflen datganiad ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen yn y llythyr.

Aelod Cabinet dros Gyllid a Pherfformiad, Eluned Stenner, “Tra ein bod yn ymwybodol fod y mwyafrif helaeth o’n trigolion yn hawlio unrhyw ostyngiadau treth y cyngor maent yn eu derbyn yn gywir, yn anffodus mae yna leiafswm sy’n eu hawlio’n anghywir. Rhaid i ni gymryd unrhyw hawliau twyllodrus o ddifrif, ac fel cyngor rydym yn rhagweithiol iawn wrth gadarnhau’r holl hawliau gostyngol. Bydd yr ymarfer adolygu syml hwn yn helpu i sicrhau fod y rheini sydd â hawl i ostyngiadau o’r fath yn parhau i’w derbyn, wrth wneud yn siŵr fod unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau yn cael eu hadolygu a’u cofnodi.”

I siarad â’r tîm Treth y Cyngor, ffoniwch 01443 863 002 neu e-bostiwch: trethycyngor@caerffili.gov.uk.