Talu’ch bil Treth y Cyngor
Gallwch dalu’ch bil mewn sawl ffordd.
Debyd Uniongyrchol
Y ffordd hawsaf i dalu yw drwy ddebyd uniongyrchol. Gellir trefnu hyn dros y ffôn heb orfod llenwi ffurflen. Ffoniwch ni ar 01443 863006 o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am i 4pm. Bydd angen eich rhif cyfrif banc, cod didoli eich cangen a chyfeiriad eich banc wrth law.
Fel arall, mae ffurflen y gallwch ei hargraffu, ei llenwi a'i dychwelyd atom. Gellir trefnu taliadau ar gyfer y 5ed, 15fed neu 25ain o bob mis.
Lawrlwytho ffurflen Debyd Uniongyrchol
Ar-lein
Mae’n rhwydd ac yn ddiogel i dalu ar-lein. Rydym yn derbyn y cardiau canlynol: Maestro UK, Debyd MasterCard, Debyd Visa (Delta, Electron), Credyd Visa a Chredyd MasterCard.
Talu ar-lein
Dros y Ffôn
Gallwch ffonio dros y ffôn 24 awr y diwrnod gan ddefnyddio unrhyw un o’r cardiau a restrir uchod gan ddefnyddio ein llinell taliadau awtomataidd 01443 863366.
Yn Bersonol
Sylwch nad yw taliadau treth y cyngor bellach yn cael eu derbyn yn Swyddfeydd Gwasanaethau I Gwsmeriaid.
Swyddfa bost
Gallwch hefyd dalu yn y swyddfa bost. Cliciwch yma am fanylion ar sut i wneud cais am gerdyn swyddfa bost.
Drwy'r post
Rhaid i daliadau gael eu gwneud trwy siec wedi’i chroesi neu archeb bost yn daladwy i ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’ (ni dderbynnir sieciau wedi'u hôl-ddyddio).
Anfonwch eich taliad ynghyd â’ch cerdyn talu i:
Y Swyddfa Arian, Tŷ Penalltau, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG.
Nodwch eich rhif cyfrif treth y cyngor ar gefn eich siec neu'r archeb bost. Caiff eich cerdyn talu ei ddychwelyd atoch drwy’r post.
Peidiwch ag anfon arian yn y post.
Bancio ar-lein/ffôn
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
- Eich rhif cyfrif Treth y Cyngor sydd ar eich bil
- Rhif ein cyfrif banc 83532550
- Ein Cod Didoli 20-10-42
- Enw ein cyfrif yw ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’