Cymorth i deuluoedd sydd â phlant

help for families with children

Cymorth i blant a theuluoedd

Gwybodaeth am wasanaethau a chymorth sydd ar gael i blant a theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Cymorth ariannol i deuluoedd

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael yr holl fuddion, grantiau a chymorth ariannol arall sydd ar gael i deuluoedd.

Gwasanaeth am y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili

Gwybodaeth a chyngor am y Blynyddoedd Cynnar, gofal plant a chymorth i ddarpar rieni neu deuluoedd sydd â phlant, o'u genedigaeth i 7 mlynedd.

Teuluoedd yn Gyntaf Caerffili

Mae Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn darparu ystod o wasanaethau i helpu teuluoedd sydd â phlant 0-25 oed ac sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Cynnig Gofal Plant Cymru

O dan Gynnig Gofal Plant Cymru, gallech chi hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yng Nghymru bob wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Mae'r cynllun yn anelu at wneud bywyd ychydig yn haws i rieni/ofalwyr trwy ddarparu cymorth gyda chostau gofal plant.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) yn wasanaeth gwybodaeth a chyngor diduedd am ddim i BOB rhiant/gofalwr plant a phobl ifanc rhwng 0-20 oed a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda nhw.

Dod o hyd i'ch banc bwyd agosaf chi

Os ydych chi’n cael trafferth bwydo eich teulu chi, mae eich banc bwyd lleol chi yn gallu darparu bwyd brys a help mewn argyfwng.

Prydau Ysgol am Ddim

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy'n mynychu ysgol yn amser llawn. 

Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad

Gallwch chi gael grant o £225 (heblaw am flwyddyn 7 sy'n £300) i brynu i'ch plentyn wisg ysgol, offer, cit chwaraeon a chit ar gyfer gweithgareddau y tu allan i'r ysgol.

Bydd y cynllun ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2022 ac yn gorffen ar 30 Mehefin 2023. 

Pasys Teithio Ysgol

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i blant 4-18 oed (Dosbarth Derbyn i flwyddyn 13).

Gwiriwch beth yw'ch cymhwysedd chi a gwneud cais am bàs teithio am ddim i'r ysgol.

Cyngor Pellach

Cyngor ar Bopeth (Cymru)

Mae'r gwasanaeth, Cyngor ar Bopeth, yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen ar bobl i symud ymlaen – pwy bynnag ydyn nhw, a beth bynnag yw eu problemau nhw.

Maen nhw'n darparu cyngor cyfrinachol am ddim ar-lein, dros y ffôn, ac yn bersonol.

Nod y gwasanaeth yw helpu pobl sydd a'r angen mwyaf am wasanaethau cynghori, yn enwedig y rhai na fyddai fel arfer yn chwilio am gyngor.

Contact us