Angen cyngor i ddefnyddwyr?
Rhoddir cyngor i ddefnyddwyr gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.
Mae gwefan Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar faterion defnyddwyr gan gynnwys:
- nwyddau sy’n ddiffygiol, nad ydynt yn addas i’w diben, neu sydd wedi’u disgrifio’n anghywir
- gwasanaethau nad ydynt wedi cael eu cyflawni â gofal rhesymol ac o fewn amser rhesymol neu am bris derbyniol
- beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael eich sgamio
Ewch i wefan Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.
Os nad yw'r wefan yn rhoi ateb i'ch problem, gallwch gysylltu â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).
Mae ffyrdd eraill o gysylltu hefyd ar gael ar eu gwefan. Cliciwch yma am ffyrdd eraill o gysylltu â'r llinell gymorth defnyddwyr.
Os ydych angen cyngor ar faterion mwy cymhleth sy’n ymwneud â defnyddwyr neu angen gwneud cwyn, bydd Cyngor ar Bopeth yn cyfeirio’r rhain at isadran cyngor i ddefnyddwyr y cyngor, rhan o wasanaeth Safonau Masnach Caerffili.
Cyngor arall sydd ar gael
Darperir tsBroadcast gan y Sefydliad Safonau Masnach. Mae’n ganolfan un-stop ar-lein sy’n rhoi cyngor i fusnesau a defnyddwyr am ddim ar yr holl wybodaeth sy’n ymwneud â safonau masnach.
I gael mwy o wybodaeth ewch i’n hadran cyngor i ddefnyddwyr a gwybodaeth ar-lein a chwiliwch trwy tsBroadcast.