Prynu car ail-law

Mae prynu car ail-law yn ffordd wych o leihau cost gyrru gan fod y rhan fwyaf o geir newydd yn colli rhyw 40% o’u gwerth yn y flwyddyn gyntaf. Ond mae yna beryglon felly mae’n bwysig cymryd amser yn hytrach na rhuthro i daro bargen, ac i brynu â’ch pen yn hytrach na’ch calon, cyn belled ag y bo modd.

Gallwch leihau’r peryglon trwy gymryd y camau hyn:

  1. Hysbysebion preifat – Ar ôl ichi weld yr hysbyseb, pan rydych chi’n barod i ffonio gofynnwch BOB AMSER “Ydi’r car ar werth"? Mae’n bosibl y bydd gan fasnachwr twyllodrus lawer o geir ar werth, nid dim ond yr un rydych chi wedi’i weld. Os yw’n ateb “Pa un?”, byddwch yn amheus.
    Cyngor – rhowch y ffôn i lawr a cherddwch i ffwrdd

  2. Trefnwch i gwrdd yng nghartref y gwerthwr bob amser. Peidiwch byth â threfnu cwrdd yn rhywle arall. Dylai’r llyfr log (V5) gyfateb i’r cyfeiriad lle rydych chi’n cwrdd. Hefyd, gwnewch yn siŵr bod y gwerthwr yn byw yno go iawn. (Awgrym defnyddiol – gofynnwch am gael defnyddio’r toiled.) Rydyn ni wedi clywed sôn am fasnachwyr twyllodrus yn esgus eu bod yn byw yn y cyfeiriad!
    Cyngor – os nad ydynt yn fodlon cwrdd â chi ar eich telerau chi, cerddwch i ffwrdd

  3. Gofynnwch am gael gweld yr holl ddogfennau sy’n gysylltiedig â’r car. Os yw'n dweud “Mae’r llyfr log gan y DVLA", "Alla i ddim dod o hyd iddyn nhw, wna i eu postio nhw".
    Cyngor – cerddwch i ffwrdd

  4. Ewch ag arbenigwr gyda chi neu trefnwch i gael archwiliad annibynnol bob amser.
    Cyngor - os na wnaiff y gwerthwr ganiatáu’r archwiliad ar y car, cerddwch i ffwrdd

  5. Peidiwch byth â dibynnu ar dystysgrif MOT fel prawf bod y car yn iawn. Y cwbl mae’r prawf yn ei wirio yw rhannau penodol o’r car ar y diwrnod y gwneir y prawf. Gallai masnachwr twyllodrus newid y rhannau wedyn. Nid yw’r dystysgrif MOT yn rhoi blwyddyn o yrru dibryder.
    Cyngor – mynnwch archwiliad arno

  6. Os ydych chi’n awyddus i brynu, ysgrifennwch enw a chyfeiriad y perchennog blaenorol a roddir ar y llyfr log (V5). Ceisiwch gysylltu ag ef a gofynnwch am hanes y car.
    Cyngor – dim llyfr log, dim gwerthiant!

  7. Gwiriwch y milltiroedd. Chwiliwch yn y llyfr gwasanaeth am stampiau dyddiad a milltiroedd. Dylai’r cofnod milltiroedd cyfredol fod yn unol â’r rhain. Mae hen dystysgrifau profion MOT yn rhoi cofnodion milltiroedd. Os yw’r milomedr yn un analog hŷn yn hytrach nag un digidol, edrychwch i weld a yw’r ffigurau’n gam.
    Cyngor – os oes amheuaeth ynghylch y milltiroedd, cerddwch i ffwrdd

  8. Edrychwch ar blât rhif adnabod y cerbyd (VIN). Os oes golwg difrod neu amharu ar y plât, byddwch yn amheus. Ydi wedi cael ei newid? Gallai’r car fod wedi’i ddwyn neu’n ddau gar gwahanol sydd wedi cael eu weldio at ei gilydd. Hefyd dylai rhif y peiriant ar y plât gyfateb i rif y peiriant naill ai ar y siasi neu ar blât y forden flaen.
    Cyngor – os oes gennych amheuon, cerddwch i ffwrdd

  9. Ewch â magnet! Rhowch y magnet ar baneli’r car. Os nad yw’n glynu mae’n bosibl bod llanwad plastig o dan y paent i guddio difrod o ddamwain.
    Cyngor – peidio â glynu, peidio â phrynu

  10. Cadwch gopi o’r hysbyseb a welwch bob amser. Gofynnwch am dderbynneb lawn sy’n rhoi disgrifiad a manylion llawn y gwerthwr.
    Cyngor – os ydych chi’n prynu’n breifat yr unig sail i gwyno sydd gennych yw camddisgrifiad wedi’i brofi.

Cyngor – cwrso’r papur? Dim bargen

Mae pob awgrym a roddir uchod wedi’i gysylltu â chwynion go iawn rydym yn ymdrin â nhw’n aml. Peidiwch â meddwl bod hyn yn digwydd yn rhywle arall. Mae miliynau o geir ar werth bob dydd. Cymerwch bwyll. Hyd yn oed os cewch chi’ch siomi heddiw, byddwch chi’n ddiolchgar yfory. Yn enwedig os byddwch chi’n prynu hen racsyn o gar!

Cysylltwch â ni