Gwasanaeth troseddau ieuenctid
Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili (GTI)
Ysbrydoli, ysgogi a chynorthwyo plant i fyw bywydau heb drosedd.
Byddwn yn gwneud hyn drwy:
- Atal a dargyfeirio plant rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol.
- Gwerthfawrogi amrywiaeth y plant a'u helpu i gyflawni canlyniadau gwell.
- Sicrhau bod plant yn cael eu cadw'n ddiogel a bod y risg i'r cyhoedd yn cael ei lleihau.
- Darparu cymorth effeithiol i deuluoedd a dioddefwyr sy'n ymwneud â'r gwasanaeth wrth weithio i sicrhau cymunedau mwy diogel a chynhwysol.
- Sicrhau bod ethos, egwyddorion a dulliau ymarfer adferol yn rhan annatod o bob agwedd ar y broses o ddarparu gwasanaethau GTI.
- Buddsoddi mewn staff a gwirfoddolwyr er mwyn sicrhau gweithlu proffesiynol, medrus a gwybodus.
- Gweithio mewn partneriaeth.
Pwy ydym ni
Mae Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili (GTI) yn gweithio gyda phobl ifanc 8-17 oed sydd mewn risg o droseddu neu sy'n ymwneud ag ymddygiad troseddol.
Yn lleol, mae'r gwasanaeth yn dwyn ynghyd o ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys yr awdurdod lleol, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, iechyd ac addysg. Drwy weithio gyda'n gilydd, rhannu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad, nod y GTI yw helpu plant i wneud y dewisiadau bywyd cywir a lleihau troseddu gan blant.
Mae'r GTI hefyd yn gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'n cydnabod yr effaith andwyol y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol ei gael ar bawb o fewn cymuned – boed yn oedolion neu’n blant – a phwysigrwydd mynd i'r afael ag ymddygiad o'r fath.
Rhan annatod o waith y GTI yw annog plant i gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd drwy gydnabod y niwed a achosir i eraill a chynnig ffordd o unioni pethau.
Mae'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn cynhyrchu Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid bob blwyddyn, sy'n llywodraethu'r ffordd y mae'n gweithio. Os hoffech gopi o Gynllun Cyfiawnder Ieuenctid Blaenau Gwent a Caerffili 2024-26 cysylltwch â'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid.
Cymorth Cynnar (Atal)
MYND (Mentro, Ymgysylltu a Newid yn Digwydd)
Ym mis Ebrill 2020 unodd y GTI ei ddau brosiect atal presennol (Panel Cefnogi Cynhwysiant Ieuenctid - ar fin troseddu a’r Prosiect Addewid – ymddygiad gwrthgymdeithasol) yn ddi-dor i mewn i brosiect atal sengl newydd o'r enw MYND.
Mae MYND wedi'i ddatblygu i ddarparu ymateb amlasiantaeth i blant 8-17 oed sydd mewn risg o droseddu neu sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol. Er mwyn sicrhau bod y plant a'r teuluoedd sy'n wynebu'r risg fwyaf yn cael yr help a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt; mae'r meini prawf canlynol wedi'u rhoi ar waith:
- Mae'r plentyn rhwng 8 a 17 oed.
- Mae ymddygiad y plentyn yn peri pryder i asiantaethau a/neu i'w rhieni/gofalyddion ac maent o'r farn bod angen ymateb amlasiantaethol i'r ymddygiad.
Bydd atgyfeiriadau i'r prosiect yn cael eu derbyn gan bobl broffesiynol. Dylai'r atgyfeiriad gynnwys tystiolaeth o'r sbardunau ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol/o blaid troseddu, fel a ganlyn:
- Mewn risg o fynd i mewn i'r System Cyfiawnder Ieuenctid
- Pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol/o blaid troseddu
- Diffyg hunan-barch
- Camddefnyddio sylweddau
- Cyfoedion anaddas/o blaid troseddu
- Ymddygiad rheoli/gorfodi
- Ymosodedd a dicter yn y gymuned/ysgol/cartref
- Gysylltiedig â phryderon yn y gymuned
- Statws Nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant
Mae ymwneud â'r prosiect MYND yn wirfoddol, felly mae'n bwysig sicrhau cydsyniad gwybodus. Hynny yw, mae'r rhiant/gofalydd a'r plentyn yn barod i gymryd rhan ac yn rhoi caniatâd ysgrifenedig i'r atgyfeiriad gael ei drosglwyddo i'r prosiect. Mae'r ffurflen atgyfeirio yn cynnwys adran gydsynio.
Mae’r prosiect MYND yn sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn cael cymorth ataliol yn ogystal â chymorth camddefnyddio sylweddau, cymorth teulu, mynediad a chymorth iechyd meddwl, cymorth Therapydd Iaith a Lleferydd a mynediad i weithgareddau cymunedol yn dilyn asesiad angen.
Mae'r gwaith a wneir gan brosiect MYND yn cyfrannu at leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn lleol, atal dioddefwyr yn y dyfodol, lleihau nifer y plant sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid, a chymunedau mwy diogel.
Mae plant a'u teuluoedd yn gweithio gyda phrosiect MYND ar sail wirfoddol am 3-6 mis ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe'u hanogir i gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd, ystyried yr effaith a gaiff eu hymddygiad ar eraill ac adeiladu ar gryfderau.
Gall unrhyw asiantaeth atgyfeirio i brosiect MYND, yn unol â’r meini prawf y cytunwyd arnynt. Unwaith y derbynnir atgyfeiriad a ffurflen ganiatâd wedi'i llofnodi, dyrennir Gweithiwr Allweddol y prosiect MYND. Mae'r ymyriad yn dechrau gydag asesiad cychwynnol lle y crëir cynllun gyda'r plentyn a'r rhiant/gofalydd. Bydd y Gweithiwr Allweddol yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r plentyn a'r teulu am hyd at 6 mis; yn ystod y cyfnod hwn, cynhelir adolygiad a datblygir strategaeth ymadael gynaliadwy (canlyniadau da).
Mae’r prosiect MYND hefyd yn cynnig cymorth a gwasanaethau i bob plentyn ar gam 2, 3 a 4 prosesau ymddygiad gwrthgymdeithasol Partneriaeth Ddiogelu Blaenau Gwent a Chaerffili. Mae gwirfoddolwyr cymunedol hyfforddedig yn darparu atebion lleol i broblemau lleol, gan gyflawni rôl mentoriaid i blant sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Prosiect Turnaround
Mae hwn yn brosiect ymyrraeth gynnar ac atal gwirfoddol ar gyfer pobl ifanc 10–17 oed, sy'n cynorthwyo plant ar ôl iddyn nhw gael eu cyfweld gan yr heddlu am honiadau o droseddu. Bwriad yr ymyrraeth hon yw darparu cymorth cyn gynted â phosibl i gynorthwyo plant yn ystod ymchwiliadau'r heddlu, sicrhau y gallan nhw gael cymorth mewn modd amserol ac osgoi rhagor o droseddu. Gall yr ymyrraeth ddigwydd am 3–12 mis gan ddibynnu ar anghenion y plentyn.
Beth mae'r Prosiect Turnaround yn ei wneud:
- Cyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant
- Helpu atal plant rhag troseddu
- Darparu asesiad a chymorth i blant a allai fod ar fin gweithio gyda'r system cyfiawnder ieuenctid
- Gwella iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles plant
- Helpu gwasanaethau i gydweithio'n well i gynorthwyo plant
Gall enghreifftiau ar gyfer atgyfeirio gynnwys pryderon ynghylch iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, plentyn sydd angen gofal a chymorth, bod yn ddioddefwr trosedd/cam-drin, lleoliad teuluol ansefydlog, absenoldeb a gwaharddiadau o'r ysgol a/neu anghenion addysgol heb eu diagnosio.
Mae'r prosiect yn wirfoddol ac mae angen caniatâd y plentyn a'r rhiant/gofalwr.
Meini prawf ar gyfer atgyfeirio:
- Plant sydd rhwng 10 a 17 oed
- Wedi cael eu cyfweld dan rybuddiad yn dilyn eu harestio neu fynd i gyfweliad gwirfoddol
- Yn destun penderfyniad Dim Camau Pellach
- Yn cael eu rhyddhau dan ymchwiliad neu'n destun mechnïaeth cyn cyhuddo
- Yn cael eu rhyddhau gan y llys
- Yn cael eu rhyddfarnu yn y llys
- Yn cael eu dirwyo gan y llys
- Wedi cael Canlyniad 22
- Rhaid gwneud unrhyw atgyfeiriad o fewn 3 mis ar ôl i'r plentyn fodloni'r meini prawf uchod.
Achosion lle nad yw plentyn yn gymwys:
- Os yw plentyn wedi cael Rhybuddiad Amodol Ieuenctid neu Orchymyn Llys Statudol am droseddu, NI fydd yn gymwys ar gyfer y prosiect hwn.
- Os yw plentyn ar y Gofrestr Amddiffyn Plant neu'n Blentyn sy'n Derbyn Gofal ar hyn o bryd, NI fydd yn gymwys ar gyfer y prosiect hwn.
Mae nifer o unigolion a all gyflwyno atgyfeiriad, sy'n cynnwys yr Heddlu, y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed, a rhieni/gofalwyr.
Rhaglen Parch Ieuenctid
Mae’r Rhaglen Parch Ieuenctid yn gweithio gyda phlant rhwng 10-18 oed ond gan ganolbwyntio'n benodol ar y rhai 14-18 oed y nodwyd eu bod mewn risg o droseddu neu aildroseddu mewn perthynas â cham-drin domestig. Mae'r prosiect hwn yn ceisio darparu gwasanaethau ategol o ran atal, ymyrraeth a chymorth arbenigol a dargedir, i blant sy'n cyflawni cam-drin domestig; pan fydd plentyn yn dangos arwyddion cynnar neu os yw eisoes yn dangos ymddygiad difrïol, ymosodol a rheoli mewn perthynas deuluol neu berthynas agos. Darperir cymorth ategol hefyd i'r rhiant/rhieni er mwyn sicrhau bod y newid yn cael ei fonitro a'i fod yn gynaliadwy. Drwy drefniadau cydgysylltiedig ac effeithiol ar gyfer rheoli achosion, cynigir cymorth ac ymyriadau priodol ar y pryd, a/neu fe'u darperir i'r dioddefwyr a'u teuluoedd.
Ategir y model hwn o waith gan y 'Pecyn Cymorth Parch', sy'n ceisio mynd i'r afael ag ymddygiad camdriniol a threisgar yn y glasoed mewn perthynas agos, boed yn y teulu neu wrth garu neu yn eu perthnasau â chyfoedion. Mae'r prosiect yn cynnwys gwaith unigol a gwaith grŵp.
Plant sy’n Derbyn Gofal
Mae'r GTI hefyd yn darparu gwasanaethau ataliol o fewn y "Protocol Gwent i Leihau Erlyniad Plant sy'n Derbyn Gofal (2020 - 22)”. Mae'r protocol yn ymwneud â phlant rhwng 10 ac 17 oed ac mae'n ceisio gwella'r arfer da sydd eisoes ar waith ledled Gwent er mwyn diwallu anghenion Plant sy'n Derbyn Gofal.
Nid yw'r rhan fwyaf o blant sy'n cael gofal yn mynd i helynt gyda'r gyfraith. Fodd bynnag, mae plant sydd, neu sydd wedi bod mewn gofal, dros bum gwaith yn fwy tebygol na phlant eraill o fod yn rhan o'r system cyfiawnder ieuenctid. Mewn arolwg yn 2013 o blant 15-18 oed mewn sefydliadau troseddwyr ifanc, dywedodd 33% o fechgyn a 61% o ferched eu bod wedi treulio amser mewn gofal.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn cynnwys atal troseddoli plant ac yn amlygu pwysigrwydd hyn o ran diogelu plant. Mae hyn yn arbennig o wir am blant sydd â materion bregusrwydd ychwanegol megis Plant sy'n Derbyn Gofal. Yn y pen draw, y cwestiwn y mae'n rhaid i ni ei ofyn yw: 'a fyddai hyn yn ddigon da i'm plentyn i?'
Nod y protocol yw cydbwyso rhwng hawliau ac anghenion plant, hawliau staff a gofalyddion maeth, a'r penderfyniad i gynnwys yr Heddlu a/neu Wasanaeth Erlyn y Goron wrth geisio lleihau erlyniad Plant sy'n Derbyn Gofal lle bynnag y bo modd, drwy ddefnyddio dulliau adferol yn effeithiol.
Mae'r Protocol yn cefnogi’r Isafswm Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cartrefi Plant a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 23 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (DSG). Mae hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd cyswllt rheolaidd ac effeithiol rhwng staff a rheolwyr cartrefi plant, gofalyddion maeth, y gweithiwr cymdeithasol a'r rheolwyr, y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid/Tîm Atal, Timau Plismona Cymdogaeth lleol ac Erlynwyr y Goron.
Ymddygiad Rhywiol Niweidiol
Yn ogystal, mae'r GTI hefyd yn gweithio'n gydweithredol gyda Gwasanaethau Plant yn y ddau Awdurdod Lleol gan ddefnyddio’r model Ymyrraeth, Asesu a Symud Ymlaen 3. Mae'r Model Asesu Ymyrraeth, Asesu a Symud Ymlaen 3 yn fframwaith ar gyfer asesu plant sydd wedi cyflawni, neu lle mae pryderon difrifol eu bod wedi cyflawni, Ymddygiad Rhywiol Niweidiol. Mae Ymyrraeth, Asesu a Symud Ymlaen 3 yn galluogi'r ymarferydd i ystyried yr Ymddygiad Rhywiol Niweidiol o fewn cyd-destun ehangach bywyd y plentyn. Felly mae'r model yn ystyried y plentyn ar draws 5 Parth - Rhywiol, Heb fod yn Rhywiol, Datblygiadol, Teulu/Amgylcheddol a Hunan-reoleiddio. Mae'r asesiad o'r meysydd hyn yn creu proffil graff o'r plentyn sy'n nodi pa feysydd sy'n gofyn am ymyrraeth rheoli risg (coch), tymor canolig/hirdymor (ambr) yn ogystal â pha gryfderau posibl (gwyrdd) sy'n bodoli ar gyfer y plentyn, y gellir eu harneisio i hybu ymatal rhag rhagor o Ymddygiad Rhywiol Niweidiol.
Mae’r model asesu Ymyrraeth, Asesu a Symud Ymlaen 3 wedi'i gynllunio i gynorthwyo ymarferwyr i adolygu gyda'r plentyn a'i riant/gofalydd beth yw'r ymyriadau mwyaf priodol er mwyn lleihau'r meysydd sy'n peri pryder. Mae'n sicrhau bod cynlluniau diogelwch unigol ac ymyriadau wedi'u targedu ar waith wrth i'r plentyn fynd yn ei flaen, er mwyn rhoi sylw i'r Ymddygiad Rhywiol Niweidiol.
Datrysiad Cymunedol (DC)
Mae plant 10 – 17 oed sydd wedi troseddu am y tro cyntaf yn cael eu cyfeirio at y GTI er mwyn cwblhau DC. Mae'r DC yn rhoi cyfle i'r plant gwrdd â dioddefwyr eu troseddau er mwyn trwsio'r difrod a achoswyd a gweithio ar y ffactorau a arweiniodd at yr ymddygiad troseddol. Mae cwblhau DC yn llwyddiannus yn caniatáu i'r heddlu beidio â chymryd camau pellach gan olygu nad oes gan blant gofnod troseddol ar yr adeg hon. Gwneir atgyfeiriadau gan swyddogion yr heddlu.
Gwasanaethau Cyn y Llys
Panel Canlyniadau Dargyfeirio Gwent
Mae plant sy'n mynd ymlaen i gyflawni troseddau pellach, nad oes angen penderfyniadau gan y llysoedd, yn cael eu hymdrin â nhw gan Banel Canlyniadau Dargyfeirio. Mewn Panel Canlyniadau Dargyfeirio, mae staff yr heddlu a'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn penderfynu ar y canlyniad gorau i fynd i'r afael ag ymddygiad plentyn yn y gymuned ac atal troseddu pellach. Yr opsiynau sydd ar gael i Banel Canlyniadau Dargyfeirio yw Rhybuddiad Ieuenctid, Rhybuddiad Amodol Ieuenctid, Datrysiad Cymunedol a Chanlyniad 22, fodd bynnag, gall yr heddlu hefyd ddefnyddio'u disgresiwn i gyhuddo'r plentyn i'r llys.
Goruchwyliaeth yn y Gymuned
Rhaglenni Gwaith Mechnïaeth/Cadw’n Ôl
Mae'n ddyletswydd ar y GTI i ddarparu gwybodaeth, cymorth mechnïaeth a phecynnau goruchwylio a grëwyd ar gyfer plentyn unigol pan fydd y Llys yn gofyn iddynt wneud hynny. Pryd bynnag y bydd llys yn gwrthod mechnïaeth i blentyn (10-17 oed), mae'n ofynnol i'r llys gadw'r plentyn yn ôl mewn llety awdurdod lleol, oni fodlonir amodau penodol, ac os felly gall y llys gadw'r plentyn yn ôl mewn Llety Cadw Ieuenctid. Mae'r GTI yn cefnogi plant a theuluoedd sy'n derbyn unrhyw rai o'r canlyniadau uchod.
Gorchmynion Atgyfeirio
Pan fydd person ifanc gerbron y llys wedi’i gyhuddo o dramgwydd troseddol ac yn pledio'n euog, gall y llys orfodi Gorchymyn Atgyfeirio. Yna, mae'n ofynnol i'r plentyn fynychu panel Gorchymyn Atgyfeirio gyda'i rieni/gwarcheidwaid. Mae tri gwirfoddolwr yn arwain y panel Gorchymyn Atgyfeirio o'r gymuned leol ynghyd ag aelod o'r GTI. O dan y gorchymyn, bydd y plentyn yn cytuno i gontract a all gynnwys gwneud iawn i’r dioddefwr yn ogystal ag ymgymryd â rhaglen o ymyraethau a gweithgareddau i fynd i’r afael â’r ymddygiad troseddol. Gall Gorchmynion Atgyfeirio barhau am rhwng 3 a 12 mis. Mae'r gollfarn wedi'i 'disbyddu' ar ôl i'r contract gael ei gwblhau'n llwyddiannus.
Gorchmynion Adsefydlu Ieuenctid
Gall y Llys roi Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid i bobl ifanc o dan 18 oed a all barhau am hyd at 3 blynedd. Gall y Gorchymyn hefyd gynnwys un neu fwy o ofynion, a gaiff eu penderfynu gan y Llys yn dilyn asesiad gan y GTI. Bydd y Gorchymyn yn cynnwys faint o weithiau y mae'n rhaid i'r plentyn gyfarfod â'r GTI. Bydd gweithiwr y GTI yn helpu'r person ifanc i ddeall yr hyn y mae'n ofynnol iddo ei wneud, yn ei gynorthwyo ac yn ei gefnogi i gwblhau ei Orchymyn. Bydd llawer o’r gwaith yn ymwneud â helpu’r person ifanc i feddwl am ei ymddygiad a’r niwed y mae ei drosedd wedi achosi i’r dioddefwr. Bydd y gweithiwr GTI hefyd yn helpu'r plentyn i ddelio â phroblemau ac anawsterau. Mae helpu person ifanc i gael addysg, hyfforddiant neu swydd hefyd yn bwysig iawn oherwydd gall hyn helpu i’w gyfeirio oddi wrth ymddygiad troseddol.
Goruchwylio ac Arolygu Dwys
Mae angen rhaglen Goruchwylio ac Arolygu Dwys ar rai plant i helpu i'w hatal rhag troseddu pellach. Fel arfer caiff Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid gyda Goruchwylio ac Arolygu Dwys ei roi i bobl ifanc sy’n parhau i droseddu neu fel dewis arall i’r ddalfa (carchar). Caiff y person ifanc ei oruchwylio am 25 awr yr wythnos yn y tri mis cyntaf ac mae hefyd yn cael cyrffyw electronig (tag ar y ffêr) ac mae’n rhaid iddo aros gartref rhwng oriau penodol.
Y Ddalfa
Mae dau fath o ddedfryd o garchar: Gorchymyn Cadw a Hyfforddi a all fod rhwng pedwar mis hyd at ddwy flynedd o hyd, neu Orchymyn Adran 91/92 a all fod am ddwy flynedd neu fwy; dim ond mewn Llys y Goron y caiff y Gorchymyn hwn ei roi a hynny am droseddau difrifol iawn. Byddai pobl ifanc yn treulio hanner cyntaf Gorchymyn Cadw a Hyfforddi neu Orchymyn Adran 91/92 yn y ddalfa, a’r misoedd sy’n weddill yn y gymuned ‘ar drwydded’ dan oruchwyliaeth y GTI. Mae’r GTI yn gweithio’n agos gyda’r gwasanaeth Carchar a Sefydliadau Diogel wrth gynorthwyo pobl ifanc sy’n cael dedfrydau o garchar.
Mae’r GTI yn ymweld yn rheolaidd â’r bobl ifanc ac yn cynnal cyfarfodydd gyda staff, pobl ifanc a’u teuluoedd i gynllunio rhaglenni gwaith tra eu bod yn y carchar a hefyd cynllunio ar gyfer eu rhyddhau. Mae’n bwysig bod yr holl gynnydd da a wneir yn y carchar yn parhau ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, felly byddwn yn gweithio gyda’r person ifanc, ei deulu ac asiantaethau eraill wrth geisio cael pobl ifanc yn ôl i fyd addysg, hyfforddiant neu waith a’u cefnogi i beidio â chyflawni troseddau eraill fel rhan o gynlluniau adsefydlu’r GTI.
Rhieni/Gofalyddion
Cymorth i Deuluoedd
Mae'r GTI yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i rieni, gofalyddion pobl ifanc sy’n ymwneud â’r GTI ar draws ei holl wasanaethau. Mae'r GTI hefyd yn gweithio gydag asiantaethau partner i sicrhau bod cymorth i deuluoedd ar gael ar draws y ddwy sir oddi wrth amrywiaeth o sefydliadau gwahanol er mwyn darparu cymorth parhaus a chynaliadwy.
Mae'r GTI yn cynnal rhaglenni rhianta gwirfoddol, naill ai fel rhaglenni unigol neu fel rhan o brosiectau eraill, er mwyn helpu rhieni i wella’u sgiliau wrth ddelio ag ymddygiad eu plant, ac felly'n lleihau'r risg o droseddu neu aildroseddu. Mae'r rhaglenni yn rhoi cyngor unigol i rieni a gofalyddion a chymorth ymarferol i ymdrin ag ymddygiad eu plant, pennu ffiniau priodol a gwella cyfathrebu.
Dangoswyd bod gwella sgiliau rhianta rhieni a gofalyddion yn llwyddiannus iawn o ran lleihau'r risg y bydd plant yn troseddu neu'n aildroseddu ac mae hefyd yn helpu i atal brodyr a chwiorydd iau rhag troseddu.
Os yw'r GTI yn asesu y byddai plant a'u teuluoedd yn elwa o raglen rianta, ond nad yw'r rhieni neu ofalyddion yn fodlon cymryd rhan, gall y GTI wneud cais i'r llysoedd am Orchymyn Rhianta sy'n gorfodi rhieni/gofalyddion plentyn sydd mewn risg i gymryd rhan.
Gwasanaethau i Ddioddefwyr
Cefnogi dioddefwyr troseddau ieuenctid
Mae'r GTI yn ystyried anghenion a phryderon dioddefwyr yn eu holl ryngweithio â dioddefwyr a'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu iddynt.
Mae'r GTI yn gweithredu o fewn egwyddorion a dulliau Cyfiawnder Adferol. Lle bynnag y bo'n bosibl ac yn briodol, bydd pob dioddefwr trosedd a gyflawnwyd gan blant yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn prosesau Cyfiawnder Adferol. Yn unol â'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau perthnasol, bydd Swyddogion Cyswllt Dioddefwyr y GTI yn cysylltu â phob dioddefwr i ddeall mwy am eu dymuniadau a'u teimladau, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y drosedd a gyflawnwyd yn eu herbyn ac i gynnig ymyraethau cyfiawnder adferol.
Mae cyfranogiad dioddefwyr yn wirfoddol ac wedi'i wneud ar sail gwybodaeth, gyda gwybodaeth a chymorth digonol yn cael eu rhoi gan staff cyswllt dioddefwyr y GTI, neu gan unrhyw asiantaeth gefnogol arall e.e. Cymorth i Ddioddefwyr.
Nod y GTI yw bod dioddefwyr troseddau ieuenctid gan blant yn teimlo’u bod wedi'u grymuso gan eu profiad o unrhyw brosesau/dulliau Cyfiawnder Adferol. Y gobaith yw y bydd lleisio’u dymuniadau a'u teimladau yn cefnogi staff wrth alluogi pobl ifanc i gydnabod canlyniadau eu gweithredoedd, er mwyn atal troseddu pellach chreu rhagor o ddioddefwyr.
I weld y Cod Ymarfer i Ddioddefwyr yng Nghymru a Lloegr ewch i wefan llywodraeth y DU.
Prosiectau
Mae'r GTI yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau lleol i ddarparu nifer o fentrau i gefnogi a galluogi plant i godi eu hymwybyddiaeth a'u dealltwriaeth o ymddygiadau peryglus, tra hefyd yn cynyddu eu hunan-barch a'u hunanhyder. Mae’r rhan fwyaf o’r prosiectau a gynhelir gan y GTI yn addysgiadol ac yn cyfoethogi sgiliau a gwybodaeth y bobl ifanc.
Ceir a Chanlyniadau
Mae pobl ifanc sy’n mynychu’r diwrnod ymwybyddiaeth yn gweld yr effeithiau posibl o ddwyn a gyrru ceir. Dangosir iddynt hefyd yr effaith y mae digwyddiadau o'r fath yn eu cael ar y gwasanaethau brys. Mae safle damwain car yn cael ei ail-greu sy'n dangos y canlyniadau angheuol posibl o gymryd rhan mewn troseddau cerbydau. Mae dioddefwr hefyd yn esbonio effaith trosedd o'r fath o'i brofiad ei hun.
Prosiect Phoenix
Mae’r Prosiect Phoenix yn fenter gan y Gwasanaethau Tân ac Achub sydd wedi’i hanelu at bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Nod y prosiect yw mynd i’r afael â gwahanol faterion sydd gan bobl ifanc, gan gynnwys hunanhyder isel, ymddygiad gwrthgymdeithasol a/neu broblemau sy’n gysylltiedig â thân fel dechrau tân yn fwriadol a galwadau ffug. Mae Phoenix yn herio agweddau ac yn hybu meddwl yn annibynnol ymhlith pobl ifanc drwy ddefnyddio gweithgareddau’r gwasanaeth tân i ddatblygu nodweddion personol fel gweithio mewn tîm, profi ffiniau corfforol a meddyliol ac addysgu pobl ifanc am rôl y gwasanaeth tân ac achub.
Cynllun Tystysgrif Sgiliau Adeiladu (CTSA)
Er mwyn cynorthwyo pobl ifanc 16+ oed i ddod o hyd i gyflogaeth ystyrlon, mae'r GTI yn cefnogi plant oed-briodol wrth wneud cais am gerdyn CTSA. Mae'r Cerdyn CTSA yn darparu prawf bod gan unigolion sy'n gweithio ar safleoedd adeiladu'r hyfforddiant a'r cymwysterau gofynnol.
Cyfleoedd Gwirfoddoli
Ysbrydoli, ysgogi a chynorthwyo plant i fyw bywydau heb drosedd. Mae'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn gweithio gyda phlant 10-18 oed sydd mewn perygl o ddod, neu sydd eisoes, o dan sylw'r System Cyfiawnder Troseddol. Mae gennym ni hefyd wasanaethau ataliol o 8 oed.
Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?
Mae amrywiaeth o rolau yn bodoli ar gyfer gwirfoddolwyr:
- Oedolyn Priodol – cynorthwyo plant sydd wedi cael eu harestio ac sydd angen eu cyfweld gan yr Heddlu.
- Gwaith Gwneud Iawn - cynorthwyo plant i drwsio unrhyw niwed a achosir gan eu gweithredoedd trwy gyflawni tasgau amrywiol yn y gymuned.
- Mentora/cyfeillio - cynorthwyo plentyn ar sail 1:1 gan archwilio gweithgareddau cadarnhaol a chynaliadwy a chynnig cyngor a chymorth.
- Panel Cymunedol - cefnogi plentyn mewn lleoliad panel sydd wedi’u cyfeirio at y GTI o’r llys i gwblhau ymyriad i’w helpu i fyw bywydau heb droseddu ac i wneud iawn am y niwed y mae wedi’i achosi.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?
Fel un o'n gwirfoddolwyr niferus byddwch chi’n:
- Cael cyfle i wneud gwaith gwerth chweil ac ystyrlon gyda phlant.
- Derbyn hyfforddiant rheolaidd a fydd yn eich galluogi chi i ennill ardystiadau ac achrediadau amrywiol.
- Ennill profiad gwaith amhrisiadwy a allai eich helpu chi i newid gyrfa.
- Bydd eich holl dreuliau yn cael eu talu.
Sut ydw i'n cymryd rhan?
Cysylltwch â'r Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn y GTI
E-bost: GTI@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01495 235623