Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid

 

Mae Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru gyda'r nod o sicrhau gwell deilliannau i bobl ifanc rhwng 11 a 24 oed ynghylch addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

Er mwyn galluogi i ni reoli’r maes gwaith hwn yn effeithiol, mae gennym gydlynydd a thîm o weithwyr ieuenctid sydd â chyfrifoldeb dros ddarparu cynllun gwaith wedi’i anelu at gyflawni’r fframwaith.

Mae chwe amcan sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu a datblygu ieuenctid:

  • Adnabod yn gynnar – adnabod pobl ifanc cyn gynted â phosib a allai fod angen cefnogaeth.
  • Broceriaeth – darparu gweithwyr arweiniol i bobl ifanc a allai ei chael hi’n anodd symud i hyfforddiant pellach neu gyflogaeth.
  • Olrhain – gweithio gyda sefydliadau eraill i olrhain cyflawniadau pobl ifanc.
  • Darpariaeth – casglu gwybodaeth am gyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc, gweithio gyda sefydliadau a chyflogwyr a allai ddarparu cynlluniau hyfforddeion a gweithredu Gwarant Ieuenctid Llywodraeth Cymru a fydd yn helpu i sicrhau bob gan bob person ifanc fynediad i gyfleoedd addas.
  • Cyflogaeth – gweithio gydag amrywiol adrannau’r Cyngor a Busnesau i wella rhagolygon cyflogaeth pobl ifanc.
  • Atebolrwydd – asesu a gwerthuso cynnydd ar gynllun y prosiect sy’n galluogi i’r Cyngor arddangos cynnydd ar gyflawni canllawiau Llywodraeth Cymru.

Am gyngor neu gefnogaeth bellach ar gyfleoedd i bobl ifanc, cysylltwch â John Poyner ar 01443 864970 neu e-bost poynej@caerphilly.gov.uk. Gellir cael mynediad at yr holl wybodaeth ar gyfleoedd diweddar ar safle Facebook Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant Caerffili.