Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant

Yn edrych ar gyflenwad gofal plant ym mwrdeistref sirol Caerffili, a'r galw amdano

Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant

Bob 5 mlynedd, mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ar draws Cymru i ymgymryd ag Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant. Mae Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant Caerffili 2022 yn adroddiad sy’n dwyn ynghyd ystod o wahanol ddata a gwybodaeth i ddatblygu darlun o’r farchnad gofal plant ar hyn o bryd ac i nodi a oes unrhyw fylchau yn y cyflenwad.

Bwriad yr adroddiad hwn yw darparu asesiad o lefelau a mathau presennol gofal plant ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Yn dilyn cyfnod ymgynghori, bydd cynllun gweithredu yn cael ei ddatblygu er mwyn nodi’r ffordd orau i’r Awdurdod Lleol gefnogi teuluoedd gyda gofal plant, ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili a nodi unrhyw fylchau dynodedig mewn darpariaeth.

Mae’r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2022 yn nodi canlyniadau’r Awdurdod Lleol, ar ôl cynnal nifer o ymgynghoriadau â rhieni/gofalwyr, cyflogwyr, darparwyr gofal plant, plant a phobl ifanc a rhanddeiliaid ehangach ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae’r Cynllun Gweithredu yn nodi’r pwyntiau gweithredu sy’n cael blaenoriaeth a fydd yn cael sylw dros y pum mlynedd nesaf.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn sefydlu busnes gofal plant a hoffech chi gael gwybodaeth am ddigonolrwydd gofal plant yn eich ardal darged, anfonwch e-bost i GGiD@caerffili.go.uk.

 

Dilynwch ni

Facebook