Brexit
Rheolau ychwanegol yn dod i rym ar 1 Ionawr 2022 ar gyfer busnesau sy'n mewnforio nwyddau o'r Undeb Ewropeaidd
O 1 Ionawr 2022, bydd rheolau ychwanegol yn dod i rym ar gyfer busnesau sy'n mewnforio nwyddau o'r Undeb Ewropeaidd, sy'n golygu y bydd Rheolaeth Tollau lawn yn cael ei gweithredu.
Drwy gydol 2021, mae mewnforwyr wedi gallu gohirio eu datganiadau tollau a rhoi cyfrif am TAW mewnforio yn seiliedig ar eu cofnodion sy'n cael eu haddasu yn ddiweddarach pan mae'r datganiadau yn cael eu gwneud (cyn pen chwe mis ar ôl i'r nwyddau gyrraedd y Deyrnas Unedig). Bydd y cyfleuster i ohirio clirio tollau yn cael ei ddirymu ar 1 Ionawr 2022.
Newydd ar gyfer Ionawr 2022:
- Datganiadau cyn-mynediad tollau
- Datganiadau tollau yn ofynnol yn y man mynediad i Brydain Fawr.
- Tystysgrifau tarddiad.
- Archwiliadau nwyddau yn seiliedig ar y ddogfennaeth a ddarperir.
- Gwiriadau cerbydau yn croesgyfeirio'r cerbyd a'i lwyth gyda'r ddogfennaeth cludo.
- Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau (GVMS).
I gael gwybodaeth am y newidiadau hyn, cysylltwch â'n Swyddog Cymorth Masnach Ryngwladol ni: Sarah Gaze gazesl@caerffili.gov.uk.
Gadawodd y Deyrnas Unedig yr Undeb Ewropeaidd gyda chytundeb ar eu perthynas yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r cytundeb; o 1 Ionawr 2021 bydd newidiadau'n digwydd a fydd yn effeithio ar bob un ohonom ni – o'r ffordd rydyn ni'n trafod busnes i'r ffordd rydyn ni'n teithio. Mae'r Cyngor wedi bod yn cymryd camau ymarferol ac yn ystyried mesurau lliniaru er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i gael eu darparu yng Nghaerffili.
Gwahaniaeth sylfaenol o ran ein perthynas ni â'r Undeb Ewropeaidd yn 2021 o gymharu â 2020 yw nad ydym ni mwyach yn rhan o'r trefniant rhyddid i symud, o ran pobl, nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf, rhwng y Deyrnas Unedig â'r 27 o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd. O ganlyniad, byddwn ni'n wynebu rhwystrau newydd i fasnach mewn nwyddau a gwasanaethau ac i'n hawliau i deithio, byw a gweithio mewn gwledydd eraill yn Ewrop.
Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn darparu cyngor i ddinasyddion, sefydliadau a sectorau ledled Cymru ac yn cael ei diweddaru'n rheolaidd. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://llyw.cymru/paratoi-cymru
Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd
Y dyddiad cau ar gyfer y Cynllun Preswylio'n Sefydlog wedi mynd heibio
Dydd Mercher, 30 Mehefin 2021, oedd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS) ar gyfer dinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir ac aelodau o'u teuluoedd, a oedd yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020.
Os gwnaethoch gais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws preswylydd sefydlog cyn y dyddiad cau, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd eich hawliau'n cael eu diogelu hyd nes y penderfynir ar eich cais. Byddwch yn derbyn Tystysgrif Ymgeisio y gallwch ei defnyddio i ddangos tystiolaeth o'ch hawliau.
Os nad oeddech yn preswylio yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 defnyddiwch y ddolen isod i weld rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer byw neu astudio yn y DU.
System Pwyntiau Mewnfudo'r DU: Cyflwyniad ar gyfer dinasyddion yr UE ar GOV.UK.
Mae amser o hyd: Gwneud cais ar ôl y dyddiad cau
Os oeddech yn gymwys ar gyfer EUSS ond heb wneud cais cyn 30 Mehefin a bod gennych sail resymol dros golli'r dyddiad cau, mae amser o hyd i chi wneud cais hwyr.
Mae llawer o resymau gwahanol y gellir eu cynnwys fel sail resymol dros beidio â gwneud cais erbyn y dyddiad cau.
Mae canllawiau ar gael ar GOV.UK ar sut i wneud cais, ynghyd ag enghreifftiau o resymau. Os oes gennych reswm nad yw wedi'i restru, gallwch wneud cais o hyd a bydd eich rheswm yn cael ei ystyried.
Eich hawliau
Os ydych yn un o ddinasyddion yr UE, yr AEE neu'r Swistir a'ch bod yn preswylio'n gyfreithlon yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020, bydd eich hawliau'n cael eu diogelu.
Os ydych yn berson cymwys sydd wedi gwneud cais am statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd sefydlog drwy'r EUSS a chyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin, bydd gennych yr un hawliau parhaus i weithio, astudio a chael mynediad at wasanaethau a budd-daliadau cyhoeddus ag a oedd gennych cyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dyma'r hawliau dinasyddion perthnasol y bydd gennych hawl iddynt o hyd:
- Preswylio – mae hyn yn cynnwys hawliau i breswylio, gadael y wlad a dod yn ôl.
- Hawliau gweithwyr a phobl hunangyflogedig – mae hyn yn cynnwys hawliau gweithwyr, personau hunangyflogedig a gweithwyr trawsffiniol.
- Cydgydnabyddiaeth i gymwysterau proffesiynol – mae hyn yn cynnwys yr hawl i gymwysterau proffesiynol cydnabyddedig barhau i gael eu cydnabod.
- Cydgysylltu systemau nawdd cymdeithasol – mae'r rhain yn cynnwys budd-daliadau, mynediad at addysg, tai a gofal iechyd.
Mae rhagor o wybodaeth am Hawliau Dinasyddion yr UE ar gael ar dudalen we'r Awdurdod Monitro Annibynnol.
Cymorth pellach
Os oes angen rhagor o help arnoch chi neu'ch teulu, mae nifer o sefydliadau yng Nghymru a all roi cyngor a chymorth annibynnol am ddim i chi.
Mae EUSSWales.com yn cynnwys mwy o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael ichi ac yn rhoi manylion cyswllt llawn ar gyfer sawl sefydliad cynghori, gan gynnwys rhifau ffôn, i unrhyw un a hoffai siarad â rhywun ynglŷn â'u hamgylchiadau.
Cyflogwyr dinasyddion yr UE
Mae pecyn cymorth ar gael sy'n rhoi adnoddau a gwybodaeth i gyflogwyr er mwyn iddynt allu rhoi cymorth i ddinasyddion yr UE a'u teuluoedd ynghylch y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Teithio dramor
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi creu adnodd gwirio Brexit gyda chyngor i ddinasyddion y Deyrnas Unedig sy'n bwriadu teithio i'r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar basbortau, teithio, a theithio gydag anifeiliaid anwes. Brexit – GOV.UK (www.gov.uk)
Cyngor i fusnesau
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau ledled Cymru i baratoi a diogelu swyddi a thwf cynaliadwy. Mae'r wybodaeth a chyngor diweddaraf ar gael yma: https://llyw.cymru/paratoi-cymru-brexit/busnes-economi