Gofynion cyfreithiol partneriaeth sifil

Cyn y cewch ffurfio partneriaeth sifil yng Nghymru a Lloegr mae’n rhaid i’r ddau barti drefnu i gychwyn y broses gyfreithiol.

Rhoi rhybudd

Os ydych yn dymuno ffurfio partneriaeth sifil yng Nghymru a Lloegr, mae’n rhaid i’r ddau ohonoch roi rhybudd o hynny yn y swyddfa gofrestru’r ardal lle'r ydych yn byw, waeth ble rydych yn bwriadu ffurfio partneriaeth sifil.

Os ydych chi a’ch partner yn byw mewn awdurdodau gwahanol dylai’r ddau ohonoch chi roi rhybudd i’ch awdurdod eich hun, oni bai bod un ohonoch chi neu’r ddau ohonoch chi ddim yn ddinesydd perthnasol*, ac os felly RHAID i chi fynychu gyda’ch gilydd yn ardal breswyl un ohonoch chi. Dylech fod wedi byw yn yr ardal am o leiaf saith niwrnod yn union cyn rhoi rhybudd.

* Mae dinesydd perthnasol yn berson sy’n Brydeinig, yn Wyddelig neu’n berson sydd â statws sefydlog neu gyn-sefydlog yr Undeb Ewropeaidd, neu sydd wedi gwneud cais am statws EUSS ar neu cyn 30 Mehefin 2021.

Os ydych yn byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, mae’r swyddfa gofrestru yn:

Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG

Bydd yn rhaid i chi drefnu apwyntiad er mwyn rhoi rhybudd o bartneriaeth sifil yn ystod ein horiau agor. Cysylltwch â ni i wneud hynny. Nid yw’n bosib rhoi rhybudd o fwy na 12 mis ymlaen llaw am bartneriaeth sifil er hynny mae’n bosibl gwneud trefniant amodol weithiau hyd at 3 blynedd cyn y dyddiad.

Dogfennau y bydd angen i chi ddod gyda chi

Pan fyddwch yn gwneud apwyntiad i hysbysu, bydd y cofrestrydd yn egluro pa ddogfennau y bydd angen i chi ddod, megis pasbort, tystysgrif geni, papurau ysgariad a phrawf preswyl. Mae’r dogfennau hyn yn cael eu rhoi’n gyfreithlon felly’n aml ni fydd dogfennau eraill yn cael eu derbyn. Efallai na fyddwch yn gallu rhoi hysbysiad cyfreithiol oni bai eich bod yn gallu darparu'r dogfennau gofynnol felly mae'n rhaid trafod hyn gyda'r swyddog cofrestru cyn eich apwyntiad yn y Swyddfa Gofrestru.

Mae ffi i’w thalu am roi rhybudd. I weld y manylion ewch i’r adran ffioedd a thaliadau eich swyddfa gofrestru.

Amserlen partneriaeth sifil

Diben rhoi rhybudd yw sicrhau fod pawb yn rhydd yn gyfreithiol i ffurfio partneriaeht sifil ac i gwblhau'r dogfennau cyfreithiol cychwynnol.

Unwaith y bydd rhybudd wedi’i roi, bydd y manylion (heblaw am amser a dyddiad y seremoni) yn cael eu harddangos yn gyhoeddus am 28 diwrnod. Ni ellir ffurfio partneriaeth sifil tan ar ôl i’r 28 diwrnod fynd heibio. Mewn rhai achosion, lle gwneir Atgyfeiriad gan y Swyddfa Gartref, mae modd y cyfnod aros hwn i 70 diwrnod. Bydd y swyddogion cofrestru yn esbonio’n glir y cyfnod aros pan fyddwch chi’n cysylltu â nhw.

Yn dilyn y cyfnod aros cyfreithiol hwn, gellir cyhoeddi eich ‘amserlen partneriaeth sifil’ yn yr ardal y byddwch yn cofrestru’r bartneriaeth sifil ynddi.

Eich seremoni partneriaeth sifil

Mae partneriaeth sifil yn cael ei ffurfio pan fo dau yn llofnod gerbron cofrestrydd a dau dyst. Nid oes gofyn cael seremoni fel rhan o’r broses. Ond yng Nghaerffili yr ydym yn fwy na pharod i gynnig cynnal seremoni pe bai gofyn, naill ai yn y swyddfa gofrestru yn Nhŷ Penallta neu un o'n lleoliadau a gymeradwyir.

Efallai y byddwch yn dymuno cyfnewid addunedau neu ychwanegu darlleniadau neu gerddoriaeth i wneud y diwrnod yn fwy cofiadwy. Byddem yn falch o drafod unrhyw ofynion gyda chi.

Priodasau a phartneriaethau sifil yng Nghymru a Lloegr

Tabl sy'n nodi’r tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng partneriaethau sifil a phriodasau fel sy'n berthnasol i gyplau o'r un rhyw neu o rywiau gwahanol.

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth cofrestru (PDF)

Cysylltwch â ni