Lleoliadau a gymeradwyir
Gellir gweinyddu priodasau sifil a phartneriaethau sifil mewn amrywiaeth o adeiladau. Mae’r rhain yn cynnwys gwestai, plastai ac adeiladau hanesyddol a drwyddedir gan awdurdodau lleol. Caiff y lleoliadau eu hun eu hadnabod fel ‘lleoliadau a gymeradwyir’.
Yn ogystal â’r ystafeloedd seremoni yn Nhŷ Penallta sy’n cynnig darpariaeth arbennig, mae mannau eraill i’w cael o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili sydd wedi eu trwyddedu i gynnal seremoni priodas neu bartneriaeth sifil:
Canolfan Gymunedol Dull Byw Libanus, Pontllan-fraith
Canolfan y Rhosyn Gwyn, Tredegar Newydd
Castell Caerffili
Clwb Golff Bryn Meadows
Clwb Golff Ridgeway
Gwesty’r Maes Manor
Llancaiach Fawr
Neuadd Goffa Trecelyn
Neuadd Llechwen
Shappelles
The Llanarth, Pontllan-fraith
Oes tâl am gynnal seremoni mewn lleoliad a gymeradwyir?
Yn ychwanegol i’r gost o roi rhybudd, bydd yn rhaid talu hefyd am ddefnyddio lleoliad a gymeradwyir. Mae'r ffioedd hyn fel arfer yn daladwy tua mis cyn dyddiad y briodas.
Am fanylion ar y ffioedd diweddaraf ewch i’r dudalen ffioedd a thaliadau am briodasau a phartneriaethau sifil ar ein gwefan.
Llogi gwasanaeth cofrestrydd ar gyfer eich gwasanaeth
Gallwch logi gwasanaeth cofrestrydd o ardal Caerffili i weinyddu eich priodas neu bartneriaeth sifil yn y lleoliadau hyn hyd at 3 blynedd cyn y seremoni.
Bydd yn rhaid i chi dalu £50 fel tâl llogi/gweinyddu wrth archebu. Tynnir y ffi hon o ffi derfynol y seremoni ond ni ellir ei had-dalu yn y rhan fwyaf o amgylchiadau os na fydd y seremoni yn mynd yn ei blaen.
Pan ddewch i drefniant amodol gyda ni i gynnal seremoni, byddwn yn cadarnhau’r dyddiadau pan fyddwch yn medru ein hysbysu yn gyfreithiol a byddwn yn disgwyl i rybudd cyfreithiol gael ei roi mor fuan ag y gallwch. Bydd rhoi rhybudd cyfreithiol yn caniatáu i ni gadarnhau'r trefniant am y seremoni.