Ffioedd tystysgrifau

Isod ceir y ffioedd a'r taliadau o 16 Chwefror 2019.

Mae'r taliadau'n amrywio yn dibynnu a oes angen 'gwasanaeth safonol' neu 'wasanaeth blaenoriaeth'.

Gwasanaeth safonol

Ffi £11.00

Yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi tystysgrif: 

  • I'r cwsmer yn bersonol ar ddiwrnod cofrestru genedigaeth, marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil, neu
  • I'w bostio i'r cwsmer, drwy bost 2il ddosbarth, neu ei gasglu rhwng 10.00 a 15.00, erbyn 15 diwrnod gwaith ar ôl gwneud cais a thaliad. Fe fydd ffi weinyddol ychwanegol o £2 yn daladwy os bydd y cwsmer angen i dystysgrif gael ei bostio gan ddefnyddio post cofrestredig/wedi'i lofnodi.

Gwasanaeth blaenoriaeth

Ffi £35.00

Yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi tystysgrif: 

  • I'r cwsmer yn bersonol cyn y diwrnod gwaith nesaf, neu 
  • I'w bostio i'r cwsmer, drwy bost dosbarth 1af cyn y diwrnod gwaith nesaf. Ceisiadau a thaliadau i'w gwneud rhwng 09.00 a 15.00. Bydd ceisiadau ar ôl 15.00 yn cael eu trin fel rhai sy'n cael eu gwneud ar y diwrnod gwaith nesaf ond yn dal i godi ffi'r flaenoriaeth. Fe fydd ffi weinyddol ychwanegol o £2 yn daladwy os bydd y cwsmer angen i dystysgrif gael ei bostio gan ddefnyddio post cofrestredig/wedi'i lofnodi

Ffioedd chwilio ychwanegol  

  • Chwiliad blwyddyn naill ochr i ddyddiad penodol - Ni chodir tâl
  • Chwiliad pum mlynedd (blynyddoedd penodol wedi eu rhoi) £5
  • Chwiliad deg mlynedd (blynyddoedd penodol wedi eu rhoi) £18
  • Dim ond un chwiliad pum mlynedd fydd yn cael ei ganiatáu ar enw a dyddiadau a rhoddwyd
Cysylltwch â ni