Delio gyda phrofedigaeth

Delio gyda phrofedigaeth

Efallai y byddwch chi'n teimlo'ch bod chi angen siarad â rhywun cydymdeimladol o'r tu allan i'ch teulu agos chi, neu â phobl eraill sydd wedi bod trwy brofiad tebyg.  Yn ogystal â gweinidogion crefyddol a chaplaniaid ysbyty, mae nifer o sefydliadau all gynnig y math hwn o gymorth.

Cofrestru marwolaeth

Pan fyddwch chi'n cofrestru'r farwolaeth, bydd y cofrestrydd yn gallu rhoi cyngor i chi ynghylch gwasanaethau lleol sydd ar gael. Bydd y cofrestrydd yn gallu cynnig y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith sy'n ei gwneud yn haws i adael i sefydliadau eraill wybod bod eich anwylyd chi wedi marw.

GOV.UK – marwolaeth a galar

Mae gwefan GOV.UK yn darparu gwybodaeth ynghylch ewyllysion a phrofeb, budd-daliadau, eiddo ac arian, a beth i'w wneud yn dilyn marwolaeth. Ewch i wefan GOV.UK.

Help, cymorth ac arweiniad

Gall y sefydliadau canlynol ddarparu help, cymorth ac arweiniad yn dilyn profedigaeth a cholli anwyliaid:

Age Cymru Gwent

Elusen fwyaf y Deyrnas Unedig sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac ar eu cyfer nhw.
Ffôn: 01633 763330
Gwefan: www.ageuk.org.uk/cymru/gwent

British Organ Donor Society

Grŵp hunangymorth i deuluoedd rhoddwyr organau a’r rheini sydd wedi cael organau.
Ffôn: 01223 893636
Gwefan: https://www.organdonation.nhs.uk/cy/40-eiliad/

The Compassionate Friends

Yn darparu cymorth i rieni sydd wedi colli eu mab neu ferch.
Ffôn: 0845 123 2304
Gwefan: www.tcf.org.uk

Cruse Bereavement Care

Mae Cruse Bereavement Care yn wasanaeth rhad ac am ddim ar gyfer hyrwyddo lles pobl sydd wedi cael profedigaeth ac i alluogi unrhyw un sydd mewn profedigaeth yn sgil marwolaeth i ddeall eu galar ac ymdopi â’u colled nhw. Ewch i wefan Cruse Bereavement Care.

The Foundation for the Study of Infant Deaths/ The Lullaby Trust

Ar gyfer rhieni i fabi sydd wedi marw yn sydyn ac yn annisgwyl.
Ffôn: 0808 026 868
Gwefan The Lullaby Trust

Cymorth Canser Macmillan

Yn darparu gwasanaeth gwybodaeth am ganser sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor ymarferol a chymorth emosiynol i gleifion, eu teuluoedd a’u ffrindiau nhw ac eraill sy’n dioddef o ganlyniad i’r clefyd.
Ffôn: 0808 808 0000
Gwefan: www.macmillan.org.uk

Marie Curie

Elusen gofal diwedd oes genedlaethol sy’n darparu ystod o gymorth i bobl sydd wedi cael profedigaeth o ganlyniad i unrhyw salwch terfynol, gan gynnwys cwnsela, cymorth grŵp a chymorth un i un dros y ffôn.
Ffôn: 0800 090 2309
Gwefan: https://www.mariecurie.org.uk/

The Miscarriage Association

Yn cynnig cymorth a gwybodaeth ar bob agwedd ar golli beichiogrwydd.
Ffôn: 01924 200 799
Gwefan: www.miscarriageassociation.org.uk

Cymdeithas Genedlaethol Victim Support

Yn rhoi cymorth cyfrinachol rhad ac am ddim i ddioddefwyr troseddau, eu teuluoedd nhw, eu ffrindiau ac unrhyw un arall sydd wedi'u heffeithio.
Ffôn: 0845 612 1900
Gwefan: www.victimsupport.org

Cysylltwch â ni