Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl

Gall gofalwyr di-dâl cymwys wneud cais am daliad untro o £500 i gydnabod y pwysau ariannol cynyddol a gafwyd yn ystod y pandemig.

Bydd yr ail gyfnod cofrestru, sef y cyfnod cofrestru olaf, ar agor rhwng 9.00am ar 15 Awst 2022 a 5.00pm ar 2 Medi 2022.

Bydd hyn yn rhoi cyfle i'r rheini na chofrestrodd yn ystod y cyfnod cofrestru cyntaf (16 Mai - 15 Gorffennaf 2022) gofrestru ar gyfer y taliad.

Os ydych eisoes wedi derbyn taliad, ni allwch gofrestru eto gan mai'r un cynllun yw hwn.

Cofiwch, dylech gofrestru gyda’r Cyngor lle rydych chi’n byw, nid y Cyngor lle mae’r person rydych chi’n gofalu amdano’n byw (os yw’n wahanol).

Pwy sy'n gymwys ar gyfer y taliad hwn?

Mae taliad untro o £500 ar gael i bob gofalwr di-dâl cymwys yng Nghymru a oedd yn derbyn Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022.

Os nad oeddech yn derbyn Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth 2022 ond mae gennych gais sydd wrthi'n cael ei brosesu a all gael ei ôl-ddyddio i 31 Mawrth 2022, dylech gofrestru o hyd ar gyfer y taliad Cymorth i Ofalwyr Di-dâl erbyn y dyddiad cau, sef 2 Medi 2022. Bydd angen i chi roi gwybod i ni am ganlyniad eich cais cyn gynted ag y byddwch yn ei dderbyn.

Caiff y taliad ei wneud i gydnabod y pwysau ariannol cynyddol y mae nifer o ofalwyr di-dâl wedi'u profi yn ystod y pandemig, ac i helpu gyda rhywfaint o'r costau ychwanegol a gafwyd ganddynt. Mae'r taliad ar gyfer yr unigolion hynny sy'n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac sydd ag incwm isel.

Y rheini nad ydynt yn gymwys ar gyfer y taliad hwn

Unrhyw un nad oedd yn derbyn Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022.

Mae Llywodraeth Cymru wedi egluro na fydd unigolion yn gymwys am daliad os:

  • mae ganddynt hawl sylfaenol i Lwfans Gofalwyr YN UNIG ond nid ydynt yn derbyn taliad oherwydd eu bod yn derbyn budd-dal arall ar yr un raddfa neu ar raddfa uwch neu
  • DIM OND premiwm/elfen gofalwr maent yn ei dderbyn fel rhan o fudd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd fel Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Gwarantedig.

Os yw rhywun yn derbyn Lwfans Gofalwr A Phremiwn Gofalwr fel rhan o fudd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd, maent yn gymwys i gael y taliad.

Rhaid i unrhyw gwestiynau ynghylch pam mae rhai pobl yn gymwys ac eraill ddim gael eu hanfon i Lywodraeth Cymru. Ni fyddwn yn gallu rhoi unrhyw atebion i chi gan mai Llywodraeth Cymru sydd wedi penderfynu ar y rheolau. Gellir anfon ymholiadau i PoblHynaGofalwyr@llyw.cymru

Pwy fydd yn gorfod cofrestru ar gyfer y taliad hwn?

Mae'n rhaid i bawb sy'n meddwl eu bod yn gymwys am y taliad hwn gofrestru. Ni chaniateir i ni wneud taliadau awtomatig hyd yn oed os oes gennym eich manylion banc eisoes oherwydd ceisiadau grant blaenorol, fel Taliad Tanwydd y Gaeaf neu'r Taliad Costau Byw.

Pryd gallaf gofrestru?

Os ydych chi'n credu eich bod yn gymwys am y cymorth hwn, gallwch wneud cais drwy'r ddolen isod.

Pryd mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau?

Rhaid i bob ffurflen gofrestru gael ei derbyn cyn 5.00pm ar 2 Medi 2022.

Sylwer, dylech gofrestru gyda'r cyngor sy'n gyfrifol am yr ardal lle rydych chi'n byw, nid y cyngor lle mae'r person rydych yn gofal amdano'n byw (os yw'n wahanol).

Pryd bydd yr arian yn cael ei dalu?

Tachwedd 2022.

Rhagor o wybodaeth am y taliad

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn (gan gynnwys manylion pam nad yw'n effeithio ar fudd-daliadau eraill y gallech fod yn eu derbyn), ewch i llyw.cymru/cynllun-cymorth-ariannol-i-ofalwyr-di-dal

Cyn i chi gofrestr ar gyfer y Taliad Cymorth i Ofalwyr Di-dâl

Cyn i chi gofrestru, gwnewch yn siŵr bod gennych y canlynol wrth law:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich rhif cyfrif banc a'ch côd didoli

Os yw'ch cais yn cael ei gymeradwyo

Os ydych wedi cael gwybod bod eich cais yn llwyddiannus, dylech dderbyn taliad i'r cyfrif banc a nodwyd gennych o fewn 14 diwrnod gwaith. Byddwn hefyd yn anfon e-bost atoch i gadarnhau bod eich cais yn llwyddiannus.

Os nad yw'ch cais yn cael ei gymeradwyo

Caiff eich cais ei wrthod os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Ni allwch apelio neu ofyn am adolygiad o'ch cais. Byddwn hefyd yn anfon e-bost atoch i gadarnhau y gwrthodwyd eich cais.