Budd-daliadau a grantiau gofal cymdeithasol
Mae’r budd-daliadau iechyd a gofal cymdeithasol canlynol ar gael i drigolion cymwys. Y llywodraeth ganolog sy'n rheoli ac yn talu'r budd-daliadau hyn. Am fwy o wybodaeth, defnyddiwch y dolennau isod.
Lwfans Gweini
Mae'r Lwfans Gweini yn fudd-dal di-dreth ar gyfer pobl dros 65 mlwydd oed y mae arnyn nhw angen rhywun i edrych ar eu holau oherwydd anabledd corfforol neu feddyliol. Darganfyddwch a ydych yn gymwys am Lwfans Gweini ac os felly, darganfyddwch sut i hawlio.
Lwfans Gofalwyr
Budd-dal trethadwy yw'r Lwfans Gofalwyr, ac mae ar gael i helpu pobl sy’n gofalu am berson anabl. Does dim rhaid i chi fod yn perthyn i, nac yn byw gyda’r person rydych yn gofalu amdano. Darganfyddwch a ydych yn gymwys am Lwfans Gofalwr a sut i hawlio.
Lwfans Byw i'r Anabl
Lwfans Byw i'r Anabl – mae’r budd-dal di-dreth hwn ar gael ar gyfer plant ac oedolion anabl y mae arnyn nhw angen rhywun i ofalu amdanynt, neu y mae ganddynt anawsterau cerdded. Darganfyddwch fwy am sut y gallwch hawlio Lwfans Byw i’r Anabl.
Grant Cyfleusterau i’r Anabl
Gall y Grant Cyfleusterau i’r Anabl helpu tuag at gost addasu eich cartref er mwyn i chi allu byw yn annibynnol. Bydd prawf er mwyn pennu’r swm y mae gennych yr hawl i'w dderbyn. Gall y Grant Cyfleusterau i’r Anabl helpu tuag at gost addasu eich cartref er mwyn i chi allu byw yn annibynnol. Bydd prawf er mwyn pennu’r swm y mae gennych yr hawl i'w dderbyn.
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Mae’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn disodli’r Budd-dal Analluogrwydd a’r Cymhorthdal Incwm a delir o ganlyniad i salwch neu anabledd ar gyfer hawlwyr newydd o 27 Hydref 2008. Os ydych eisoes yn derbyn Budd-dal Analluogrwydd, byddwch yn parhau i’w dderbyn cyhyd ag yr ydych yn gymwys. Darganfyddwch fwy ynghylch y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Budd-dal Analluogrwydd
Os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd, efallai y byddwch yn gymwys am Fudd-dal Analluogrwydd, sy’n daliad wythnosol i bobl iau nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth, sef 60 ar gyfer Menwyod a 65 ar gyfer Dynion ar hyn o bryd. Darganfyddwch fwy ynghylch y Budd-dal Analluogrwydd.
Cyngor pellach
Ewch i’r dudalen fudd-daliadau a grantiau dudalen fudd-daliadau a grantiau am gyngor, arweiniad a chymorth gyda'r ystod lawn o fudd-daliadau lles. Gallwch ddefnyddio Cyfrifydd budd-daliadau GOV.UK er mwyn darganfod faint o Fudd-dal Tai a Chymorth Treth Gyngor y gallwch ei hawlio.